Mae PDC wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol fel arwain, trefnu ac addasu, fydd yn sicr o fudd mawr i fy ngyrfa yn y dyfodol.
Dewis Prifysgol De Cymru i astudio Cyfrifeg a Chyllid
Dewisais astudio BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid yn PDC oherwydd bod y modiwlau yn cyd-fynd yn dda â'r wybodaeth roeddwn i eisiau ei hennill. Yn ogystal, roedd y ffioedd dysgu yn fwy cost-effeithiol na phrifysgolion eraill. Oherwydd y ffactorau hyn i gyd, PDC oedd y dewis gorau i fi.
Er nad o’n i’n gallu mynychu Diwrnod Agored gan mai dim ond tri diwrnod cyn dechrau fy nghwrs y gwnes i gyrraedd, fe wnes i ymgartrefu’n gyflym ar ôl dechrau. Mae'r dulliau addysgu wedi bod yn bwysig iawn i fi - mae'r darlithoedd yn hamddenol, yn ddifyr ac yn rhyngweithiol, gan wneud dysgu yn hwyl ac yn effeithiol.
Dewch o hyd i'ch cwrsParatoi at yrfa tra yn y Brifysgol
Mae PDC hefyd wedi cynnig cyfleoedd gwych o ran datblygu gyrfa. Trwy negeseuon e-bost y gwasanaeth gyrfaoedd, llwyddais i gael rôl wirfoddoli fel Cynorthwyydd Cymorth Cyfrifyddu Myfyrwyr, a wnaeth fy ngalluogi i ennill profiad ymarferol. Rwyf hefyd wedi mwynhau rhwydweithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol a mynd i ddarlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, sydd wedi bod yn ffordd werthfawr o gael cipolwg ar y sector cyllid.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy'n anelu at gael swydd i raddedigion yn y sector cyllid, un sy'n cynnig nawdd fisa yn ddelfrydol. Mae PDC wedi fy helpu i ddatblygu sgiliau hanfodol fel arwain, trefnu ac addasu, fydd yn sicr o fudd mawr i fy ngyrfa yn y dyfodol.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Cyfrifeg a Chyllid?
Wedi'i addysgu gan gyfrifwyr cymwys ac arbenigwyr sy'n weithgar yn y diwydiant, mae gennym ddewis gwych o gyrsiau cyfrifeg a chyllid o lefel israddedig i ôl-raddedig.