Nicolas Laurian

Dilyn fy nhad i faes cyfrifeg

Cyfrifeg a Chyllid
Accounting student, Nicolas, looks off camera during a photoshoot

Rydyn ni’n cael ein herio'n gyson gan y darlithwyr er mwyn i ni ddatblygu’n gyfrifwyr da fydd yn osgoi gwallau wrth wneud ein gwaith.


Pam mai PDC oedd y dewis perffaith 

Wedi fy ysbrydoli gan daith broffesiynol fy nhad fel cyfrifydd, dewisais PDC yn benodol ar gyfer y rhaglen gyfrifeg mae’n ei chynnig, sydd wedi’i hachredu gan ACCA. Rhoddodd y cwrs ddealltwriaeth gadarn i fi o gyfrifyddu, maes sydd wir yn fy nghyffroi. Mae cyfrifeg yn fy nghyffroi, ac mae'n rhywbeth rwyf wastad wedi breuddwydio am ei wneud, ac rwy’n mwynhau pob elfen o’r profiad nawr. 

Trwy gydol fy astudiaethau, rwyf wedi datblygu sgiliau gwerthfawr sydd wedi fy paratoi'n dda ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau trwy'r cwrs, gyda sgiliau rheoli amser ymhlith y pwysicaf. Rydyn ni’n cael ein herio'n gyson gan y darlithwyr er mwyn i ni ddatblygu’n gyfrifwyr da fydd  yn osgoi gwallau wrth wneud ein gwaith, a sut i addasu a chywiro’r gwallau sydd yn annatod yn digwydd.

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE'R YSTAFELL MASNACHU YN GYFLEUSTER ALLWEDDOL, YN ENWEDIG I UNIGOLION SY'N BWRIADU MYND I FAES MASNACHU ARIANNOL A BUDDSODDIADAU.

Nicolas Laurian

Myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid

Dysgu ymarferol a defnyddio’r sgiliau yn y byd go iawn 

Rwyf wedi llwyddo i ddefnyddio’r wybodaeth rwyf wedi’i hennill yn PDC gyda fy musnes pobi fy hun, yn rheoli'r cyfrifon a sefydlu system addas i gofnodi gweithgareddau busnes. Mae fy mhrofiad gyda meddalwedd cyfrifyddu SAGE yn ystod fy ail flwyddyn yn helpu busnesau a chyfrifwyr i ddeall materion busnes a thrafodion yn well, yn ogystal â chadw'r cofnodion busnes yn drefnus. 

Mae Ystafell Masnachu PDC, sy’n rhan o'r cwrs Cyfrifeg a Chyllid, wedi cael effaith fawr arnaf i. Mae'r Ystafell Masnachu yn gyfleuster allweddol, yn enwedig i unigolion sy'n bwriadu mynd i faes masnachu ariannol a buddsoddiadau gan ei bod yn rhoi darlun clir o sut mae'r sector masnachu yn gweithio. Mae'r profiad hwn wedi fy helpu i ddeall sut i leihau risgiau a sicrhau’r incwm uchaf posibl, sydd wedi bod o fudd mawr i fy musnes.  

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Cyfrifeg a Chyllid?

Wedi'i addysgu gan gyfrifwyr cymwys ac arbenigwyr sy'n weithgar yn y diwydiant, mae gennym ddewis gwych o gyrsiau cyfrifeg a chyllid o lefel israddedig i ôl-raddedig.