Joelle Sanou

Teimlo’n gartrefol mewn amgylchedd amrywiol ac ysbrydoledig

Cyfrifeg a Chyllid
Accounting student Joelle, smiles at camera with her arms crossed, in front of a red backdrop

Yn ystod fy nghwrs, ro’n i'n ddigon ffodus i gael fy nghyflogi'n rhan amser gyda chwmni cyfrifeg preifat hyd yn oed cyn graddio.


Dewis PDC a darganfod fy nghryfderau 

Un o'r pethau oedd yn fy mhlesio’n fawr am PDC o'r cychwyn cyntaf oedd ei hamrywiaeth. Mae gwahanol bobl o wahanol ddiwylliannau, ac rwy’n cael fy addysgu yn fy maes, ond hefyd yn dysgu am wahanol ddiwylliannau a'r hyn sy'n siapio pobl. Roedd rhagoriaeth academaidd PDC mewn cyfrifeg yn atyniad enfawr arall i fi - rwyf bob amser wedi bod wrth fy modd gyda rhifau, ac mae cyfrifeg yn hwyl i fi. Rwy'n berson trefnus wrth reddf, ac ro’n i'n teimlo mai’r maes hwn fyddai’n gweddu orau i fy ngalluoedd.

Gwnaeth amgylchedd hyfryd Trefforest gadarnhau fy newis; mae amgylchedd heddychlon yn allweddol i astudio’n llwyddiannus. Mae'r cwrs BA (Anrh) Cyfrifeg a Chyllid yn PDC wedi cyflwyno sgiliau hanfodol i fi, fel cwblhau gwaith erbyn dyddiadau cau, meddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol, a defnyddio meddalwedd o safon y diwydiant, fel Sage, yn ymarferol.

Dewch o hyd i'ch cwrs

OS YDYCH CHI'N UCHELGEISIOL AC YN HOFFI CYFRIFEG, PDC YW'R MAN IAWN I CHI AC MAE'N ANHYGOEL CYNIFER O OPSIYNAU SYDD AR GAEL I CHI YMA.

Joelle Sanou

Myfyriwr Cyfrifeg a Chyllid

Profiad yn y diwydiant ac edrych tua’r dyfodol 

Yn ystod fy nghwrs, ro’n i'n ddigon ffodus i gael fy nghyflogi'n rhan amser gyda chwmni cyfrifeg  preifat hyd yn oed cyn graddio. Rwy'n edrych ymlaen at gael fy nghyflogi’n llawn amser wedi i fi raddio. Fy nod hirdymor yw bod yn gyfrifydd siartredig, ac rwy'n bwriadu sefyll arholiadau proffesiynol ACCA.

Rwyf wedi mwynhau bywyd cymdeithasol bywiog yn PDC, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau fel y Gymdeithas Affro-Caribïaidd, mentora myfyrwyr, a sesiynau yn y gampfa. Mae'r rhain wedi fy helpu i gynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, dysgu am ddiwylliannau amrywiol, ac ymlacio. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr sy'n ystyried cyfrifeg yn syml yw: Ewch amdani! Os ydych chi'n uchelgeisiol ac yn hoffi cyfrifeg, PDC yw'r man iawn i chi ac mae'n anhygoel cynifer o opsiynau sydd ar gael i chi yma.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd

Diddordeb mewn Cyfrifeg a Chyllid?

Wedi'i addysgu gan gyfrifwyr cymwys ac arbenigwyr sy'n weithgar yn y diwydiant, mae gennym ddewis gwych o gyrsiau cyfrifeg a chyllid o lefel israddedig i ôl-raddedig.