Cyfrifiadureg Gymhwysol (Atodol)
Mae’r cwrs blwyddyn o hyd hwn yn eich galluogi i “ychwanegu at” eich cymhwyster cyfrifiadurol presennol i gyflawni gradd BSc (Anrh). Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi i chi'r sgiliau ymarferol a phroffesiynol sydd eu hangen ar gyflogwyr yn y diwydiant cyfrifiadura deinamig sy'n symud yn gyflym heddiw.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsiwch â Ni![](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/549x549/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/bsc-applied-computing-top-up.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael cyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol i lefel uwch ac i archwilio pynciau arbenigol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi wedi mwynhau astudio pwnc sy'n gysylltiedig â chyfrifiadura ar lefel HND neu Radd Sylfaen, a'ch bod chi nawr yn dymuno camu i fyny i'r lefel nesaf, dyma'r cwrs i chi. Yn ogystal â chwmpasu’r agweddau damcaniaethol a’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol, mae’r cwrs yn cynnwys pwyslais ymarferol cryf. Bydd y rhan fwyaf o'ch dosbarthiadau wedi'u lleoli yn ein labordai cyfrifiadura arbenigol, er mwyn i chi ddatblygu'r sgiliau ymarferol sy'n ofynnol gan y diwydiant cyfrifiadura heddiw.
Llwybrau Gyrfa
- Datblygwr Cymwysiadau
- Gweinyddwr Cronfa Ddata
- Rheolwr Prosiect TG
- Datblygwr Gwefannau
Y sgiliau a addysgir
- Datblygu Meddalwedd
- Datblygu Gwefannau
- Datblygu Cronfeydd Data
- Proffesiynoldeb
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwlau
Mae'r cwrs blwyddyn o hyd hwn yn cynnwys modiwlau craidd ar gronfeydd data, proffesiynoldeb a phrosiect unigol mawr. Byddwch hefyd yn dewis dau fodiwl arbenigol dewisol, a fydd yn eich galluogi i ganolbwyntio ar y pynciau sydd o ddiddordeb arbennig i chi.
Prosiect Unigol - Gwybodeg
Mae'r prosiect unigol blwyddyn o hyd hwn yn rhoi cyfle i chi archwilio pwnc mewn manylder. Bydd goruchwyliwr eich prosiect yn eich cefnogi wrth i chi symud ymlaen trwy’r cyfnodau ymchwil, dylunio a gweithredu ac, yn olaf, i werthuso.
Cronfeydd Data a Modelu Uwch
Mae cronfeydd data yn elfen hanfodol mewn llawer o systemau TG modern. Mae'r modiwl hwn yn eich dysgu sut i ddylunio datrysiadau cysylltiedig â chronfeydd data mewn ymateb i broblemau cymhleth a realistig.
Cyfrifiadura Rhyngrwyd a Symudol Uwch
Mae angen i gymwysiadau gwe modern fod yn rhyngweithiol ac mae angen iddynt hefyd fod yn hygyrch o ran dyfeisiau symudol. Yn y modiwl hwn byddwch yn datblygu’r sgiliau i ddylunio a chreu’r mathau hyn o gymwysiadau.
Systemau Gwybodaeth Daearyddol a’r We Ofodol
Mae Systemau Gwybodaeth Daearyddol (GIS) yn seiliedig ar fapiau a data lleoliad. Yn y modiwl hwn byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o dechnegau GIS a gweld sut y gall GIS ddatrys problemau yn y byd go iawn.
Dyfeisiau Cyfrifiadura Integredig Uwch
Yn y modiwl hwn, byddwch yn defnyddio technolegau Rhyngrwyd y Pethau (IoT) i ddylunio a chreu datrysiadau i broblemau ymarferol mewn cartrefi, gweithleoedd a mannau cyhoeddus.
Arferion Gweithwyr Cyfrifiadura Proffesiynol
Rydych yn meddu ar y sgiliau i weithio yn y diwydiant cyfrifiadura, ond sut ydych yn defnyddio’r rhain fel gweithiwr proffesiynol yn y gweithle? Bydd y modiwl hwn yn sicrhau eich bod yn barod i gychwyn ar eich gyrfa broffesiynol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Cyflwynir y cwrs, a gafodd ei ddylunio mewn cydweithrediad â'n myfyrwyr, mewn arddull ymarferol. Byddwch yn treulio llawer o amser yn ein labordai cyfrifiadurol, yn dysgu drwy wneud a defnyddio’r offer diweddaraf i fod yn greadigol ac yn arloesol. Mae ein hasesiadau'n adlewyrchu hyn - byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau gwaith cwrs sy'n ffocysu ar eich sgiliau ymarferol. Er enghraifft, gallech wneud gwefan, ysgrifennu darn o feddalwedd, creu cronfa ddata neu ddylunio datrysiad ar gyfer problem yn y byd go iawn gan ddefnyddio TG.
![](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/540x311/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/bsc-computing.png)
Staff Addysgu
Mae gan ein staff brwdfrydig ac ymroddedig ystod eang o arbenigedd, gyda phrofiad mewn diwydiant a'r byd academaidd. Mae llawer o'r staff a fydd yn eich addysgu yn gwneud gwaith ymchwil o arwyddocâd rhyngwladol ac maent yn gallu cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf i'r ystafell ddosbarth.
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu tîm cyfeillgar a fydd yn dod i'ch adnabod yn ôl eich enw, yn hytrach na dim ond fel Rhif ID Myfyriwr: ni all sefydliadau eraill gynnig profiad mor unigol.
Mae croeso i chi alw heibio i siarad â'ch darlithwyr a byddwn yn cynnig unrhyw gymorth y gallai fod ei angen arnoch i gyflawni eich gorau.
![](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/540x311/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-computing-and-information-systems.png)
Cyfleusterau
Mae ein labordai cyfrifiadurol yn cynnig y caledwedd a’r feddalwedd ddiweddaraf i chi eu defnyddio drwy gydol y cwrs. Defnyddir y labordai hyn ar gyfer dosbarthiadau ymarferol, ochr yn ochr â'n darlithfeydd a'n hystafelloedd dosbarth. Yn ogystal, mae gennym ofod dysgu penodol ar gyfer Rhyngrwyd y Pethau. Gallwch hefyd gael mynediad i’n labordai y tu allan i ddosbarthiadau a addysgir, i ymarfer eich sgiliau a gweithio ar eich aseiniadau.
![](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/540x311/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-computer-science.png)
![Two students working in the computer lab.](https://pxl-southwalesacuk.terminalfour.net/fit-in/570x371/filters:format(webp)/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-53349.jpg)
Y gorau yng Nghymru ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Guardian University Guide 2024).
Y gorau yng Nghymru ac yn 10 uchaf y DU ar gyfer Systemau Technoleg a Gwybodaeth.
Y gorau yng Nghymru ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth (Guardian University Guide 2024).
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- HND neu Radd Sylfaen mewn Cyfrifiadura neu TGCh.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Buddsoddwch yn eich dyfodol
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.