BSc (Anrh)

Gwyddor Gyfrifiadurol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Mewn oes a ddiffinnir gan arloesedd technolegol a thrawsnewid digidol, mae mynd ar drywydd gradd Cyfrifiadureg israddedig yn agor y drws i fydysawd o bosibiliadau.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwriwch â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    G594

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Gyfrifiaduron Prydain a'i chreu mewn partneriaeth â diwydiant a myfyrwyr, mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod graddedigion yn greadigol ac yn fedrus, ac yn gallu adeiladu'r dyfodol gyda systemau deallus, effeithiol, effeithlon a dibynadwy. Mae'r flwyddyn sylfaen yn darparu ffordd o gael mynediad i'r maes cyffrous hwn i'r rheini sydd efallai'n dychwelyd i astudio, neu sydd angen magu hyder fel arall.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd y rheini sydd â diddordeb yn y ffordd y mae cyfrifiaduron yn gweithio a sut y gellir eu defnyddio’n greadigol i ddatrys problemau yn y byd go iawn mewn ffordd ddiogel a dibynadwy yn elwa o’r cwrs rhagorol hwn. Mae sgiliau ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol, gyda ffocws cryf ar ddatblygu graddedigion fel gweithwyr proffesiynol sydd â’r potensial i ragori yn eu gyrfaoedd, yn nodweddion amlwg o’r rhaglen.

Wedi’i achredu gan

  • BCS, Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG

Llwybrau Gyrfa

  • Datblygu Meddalwedd
  • Peirianneg Meddalwedd
  • Gwyddor Data
  • DevOps
  • Astudio a gwaith ymchwil pellach

Y sgiliau a addysgir

  • Llythrennedd TG
  • Cymhwysedd ym maes llythrennedd yn y cyfryngau
  • Cyfathrebu a chydweithio
  • Ysgolheictod digidol a llythrennedd gwybodaeth
  • Rheoli gyrfa a hunaniaeth

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gan bobl sy'n cynnig swyddi - ac yn cael eu haddysgu gan bobl sydd â phrofiad gwaith go iawn.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Ffocws Ymarferol

Mae enghreifftiau ac ymarferion sy'n seiliedig ar broblemau'r byd go iawn yn helpu myfyrwyr i roi'r hyn y maent wedi'i ddysgu mewn cyd-destun sy'n barod am yrfa.

Yn Barod ar gyfer y Dyfodol

Mae'r cwrs hwn yn esblygu ac yn datblygu i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau technegol; a chaiff ei lywio gan waith ymchwil ein staff a chofleidio technolegau sy'n dod i'r amlwg.

Ymarfer Proffesiynol

Wedi'i hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain a'i datblygu yn unol â chanllawiau'r Gymdeithas Peiriannau Cyfrifiadura (ACM), mae'r rhaglen hon yn sicrhau bod myfyrwyr yn barod i ymarfer.

Meithrin Arloesedd

Mae asesiadau a phrosiectau yn galluogi myfyrwyr i fynegi eu creadigrwydd wrth ddatblygu datrysiadau newydd i broblemau yn y byd go iawn.

Trosolwg o’r Cwrs

Datblygu sgiliau a hyder a fydd yn rhoi hwb i’ch gyrfa yw nod blwyddyn gyntaf (sylfaen) y cwrs hwn. Cyflwynir cysyniadau ac offer pwysig, a datblygir sgiliau. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau astudio a chyfathrebu sy'n werthfawr, nid yn unig ar y rhaglen BSc Cyfrifiadureg ond ar gyfer eich dyfodol, gan eich galluogi i ddilyn eich breuddwydion a pharhau i dyfu.

Dyfeisiau Cyfrifiadura Integredig
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno llawer o'r cysyniadau pwysig sy'n ffurfio asgwrn cefn llawer o'ch astudiaethau diweddarach ar y cwrs ac yn eu cysylltu ag enghreifftiau blaenorol. Edrychir ar gysyniadau o natur dyfeisiau cyfrifiadurol, systemau gweithredu a Rhyngrwyd y Pethau (IoT), ochr yn ochr â phethau eraill. Mae'r modiwl hwn yn llawn hwyl.

Hanfodion Datblygu Gwefannau

Edrychir ar ddylunio a datblygu gwefannau sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr yn y modiwl hwn, gan roi cipolwg ar amrywiaeth o gysyniadau pwysig eraill.

Systemau Gwybodaeth

Mae systemau gwybodaeth ar gael ym mhobman yn y byd masnachol. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno'r cysyniadau sy'n diffinio a llywodraethu'r systemau hyn, ac yn darparu sgiliau ymarferol wrth eu rhoi ar waith.

Hanfodion Datblygu Meddalwedd
Mae'r modiwl hwn yn mynd â myfyrwyr, nad ydynt o bosibl wedi rhaglennu o'r blaen, drwy'r broses o ddatblygu rhaglen weithdrefnol a datblygu meddalwedd yn gyffredinol. Mae’n ymarferol ac mae’n defnyddio iaith sy’n bwysig yn fasnachol.

Seiberddiogelwch a Fforenseg

Mae diogelwch systemau cyfrifiadurol a chyfathrebu yn hollbwysig a rhaid eu hystyried pan fydd unrhyw system yn cael ei chreu. Mae'r modiwl hwn yn trafod y bygythiadau a wynebir a'r ffyrdd y gellir mynd i'r afael â nhw, ynghyd ag ystyried y cyfreithiau sy'n llywodraethu'r maes hwn.

Sylfeini Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadura
Mae'r modiwl hwn yn meithrin dealltwriaeth o'r technegau a'r cysyniadau mathemategol sy'n bwysig i gyfrifiadura, a gyflawnir drwy gymhwyso ac enghreifftiau.Bydd y modiwl hefyd yn rhoi hyder i'r rheini sydd ei angen ym maes algebra, rhifedd a dulliau mathemategol.

Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen yn cyflwyno’r cysyniadau craidd ac yn eich sbarduno tuag at weddill y cwrs. Mae sgiliau rhaglennu yn cael eu hadeiladu a’u defnyddio, ac mae pensaernïaeth gyfrifiadurol yn cael ei hegluro. Caiff cysyniadau o reoli gwybodaeth a chronfeydd data eu cyflwyno, a chaiff sgiliau proffesiynol ac astudio eu creu.

Rhaglennu
Mae’r modiwl craidd hwn yn datblygu sgiliau rhaglennu ac yn cyflwyno’r cysyniadau pwysig sydd eu hangen i ddylunio ac adeiladu meddalwedd modern. Nid oes angen unrhyw brofiad rhaglennu blaenorol arnoch, wrth i ni fynd â chi ar y daith i greu rhaglen weithredol sy’n canolbwyntio ar wrthrychau mewn iaith sy’n bwysig yn fasnachol.

Rheoli Gwybodaeth, Sicrwydd a Diogelwch

Cronfeydd data yw asgwrn cefn llawer o systemau. Rhaid rheoli a diogelu’r data a gedwir mewn cronfeydd data er mwyn sicrhau bod y systemau’n gallu gweithio’n effeithiol ac yn ddibynadwy. Mae’r modiwl hwn yn ymdrin â’r sgiliau hyn a’u cysyniadau sylfaenol.

Cysyniadau Systemau Cyfrifiadurol

Mae dealltwriaeth o sut mae systemau cyfrifiadurol yn cael eu hadeiladu a’u gweithredu yn hanfodol er mwyn gallu eu defnyddio’n llwyddiannus. Mae'r modiwl hwn yn darparu'r mewnwelediadau pwysig hyn.

Proffesiynoldeb, Cyflogadwyedd, Mentergarwch a Datrys Problemau
Dysgwch hanfodion bod yn weithiwr proffesiynol ym maes cyfrifiadura a datblygu’r sgiliau a fydd yn cefnogi eich gyrfa drwy gydol eich oes, gan gynnwys y gallu i gyflwyno, dadansoddi, dyddio a gweithio tuag at gyflawni prosiect. Gall myfyrwyr ddewis astudio a chael eu hasesu ar gyfer rhan o’r modiwl hwn yn y Gymraeg.

Offer Mathemategol ar gyfer Cyfrifiant

Mae hyder gydag offer y gellir eu defnyddio drwy gydol y modiwlau eraill, ac yn eich gyrfaoedd diweddarach, yn tarddu o'r modiwl hwn. Mae awyrgylch cefnogol yn helpu hyd yn oed y rheini sy’n cael eu dychryn gan gysyniadau mathemategol. Mae'r modiwl hwn wedi'i dargedu'n benodol at anghenion cyfrifiadureg.

Datblygir sgiliau rhaglennu ymhellach gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu creu datrysiadau diogel a dibynadwy sy'n ymateb i anghenion defnyddwyr. Mae’r gallu i storio a thrin data yn cael ei wella ymhellach. Mae datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol a’r gallu i ddatrys problemau yn parhau gyda phrosiectau tîm i’w rheoli a’u rhoi ar waith.

Rhaglennu sy’n Canolbwyntio ar Wrthrychau gyda Strwythurau Data ac Algorithmau
Un o linynnau sylfaenol cyfrifiadureg, mae gwybodaeth dda am strwythurau data ac algorithmau yn sicrhau bod rhaglenni a systemau yn effeithiol ac yn ddibynadwy. Mae'r modiwl hwn yn cysylltu'r rhain â chysyniadau sy'n canolbwyntio ar wrthrychau ac ymarfer peirianneg meddalwedd.

Datblygu Meddalwedd Diogel

Mae'r modiwl hwn yn parhau i roi sylw i un o agweddau amlycaf y rhaglen, sef datblygu
meddalwedd diogel a dibynadwy. Mae’n datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth gysyniadol sy’n sicrhau nad yw’r meddalwedd rydym ni’n ei gynhyrchu yn cynnwys unrhyw elfennau annisgwyl.

Cysyniadau Systemau Gweithredu

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno hanes a chydrannau allweddol system weithredu, yn gysyniadol ac yn ymarferol, gan alluogi defnyddwyr i ymgyfarwyddo'n ymarferol â nifer o systemau gweithredu.

Rhaglennu Rhyngwyneb Defnyddiwr Graffigol a Rhaglennu Rhyngwyneb Defnyddiwr sy’n Cael ei Yrru gan Ddigwyddiadau
Mae'r modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth a sgiliau o ran y technegau sy'n gysylltiedig â'r Paradeim Rhaglennu sy’n Cael ei Yrru gan Ddigwyddiadau, lle mae digwyddiadau (rhyngweithio rhwng defnyddwyr a negeseuon rhwng rhaglenni/edeifion) yn rheoli llif gweithredu'r rhaglen.

Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd, Gweithdy Datblygu Meddalwedd sy’n Seiliedig ar Dîm
Mae'r modiwl pwysig hwn yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i weithio fel gweithiwr proffesiynol mewn gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â chyfrifiadureg. Mae'n cyflwyno ymarfer proffesiynol ym maes cyfrifiadura, yn datblygu sgiliau academaidd a gwybodaeth sy'n ymwneud ag agweddau cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol ar gyfrifiadura. Drwy wneud hynny, byddwch yn fwy cyflogadwy. Gwneir hyn drwy brofiad gwaith tîm dilys.

Cronfeydd Data a Modelu Data

Mae'r modiwl hwn yn archwilio amrywiaeth o dechnolegau cronfeydd data ac yn darparu sylfeini damcaniaethol ac ymarferol ar gyfer eu defnyddio. Mae'n ymdrin â phensaernïaeth cronfeydd data perthynol, defnydd ymarferol o iaith ymholi ac, yn ogystal, mae'n tynnu sylw at ddulliau ar gyfer rheoli symiau mawr o ddata, e.e. systemau cronfa ddata gwasgaredig/cwmwl a NoSQL. Yn ogystal, rhoddir sylw i ddiogelwch.

Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth (Cyfrifiadura)
Gall myfyrwyr ddewis ymgymryd â phrofiad gwaith dan oruchwyliaeth, fel arfer fel rhan o'r rhaglen ryngosod. Mae'r cyfle gwych hwn yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio'r sgiliau maen nhw wedi'u datblygu a mireinio'r wybodaeth maen nhw wedi'i ddysgu, ar yr un pryd â rhoi profiad amhrisiadwy iddynt a fydd yn helpu eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Astudio Dramor (Cyfrifiadura)

Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn i astudio dramor fel rhan o raglenni cyfnewid.

Mae technegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu cymhwyso, a rhwydweithiau cyfrifiadurol yn cael eu datblygu a’u defnyddio. Mae’r myfyriwr yn rhoi meddalwedd ar waith sy’n rhedeg ar yr un pryd ac yn gyfochrog ar draws caledwedd. Mae meddalwedd yn cael ei datblygu ar gyfer systemau symudol neu ar gyfer cymwysiadau robotig. Mae prosiect unigol yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fynd i'r afael â darn mawr o waith, datrys problem neu ddatblygu datrysiad, ac arddangos eu sgiliau a'u galluoedd sylweddol.

Prosiect Unigol
Uchafbwynt y cwrs, mae’r prosiect unigol yn galluogi myfyrwyr i arddangos eu creadigrwydd, eu gallu dadansoddol a’u sgiliau ymarferol o ran rheoli a chyflwyno prosiect sy’n adlewyrchu angen go iawn.

Rhwydweithiau Cyfrifiadurol

Mae Rhwydweithiau Cyfrifiadurol yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o’r egwyddorion, y protocolau a’r technolegau sy’n sail i rwydweithiau cyfrifiadurol modern. Mae'n arfogi myfyrwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, gweithredu a rheoli rhwydweithiau cyfrifiadurol yn effeithiol.

Roboteg a Systemau Awtonomaidd

Mae roboteg yn bwnc rhyngddisgyblaethol gyda chysylltiadau cryf â pheirianneg mecanyddol a thrydanol. Mae’r modiwl dewisol hwn yn defnyddio’r cysylltiadau hyn i gyflwyno’r cysyniadau, y technegau a’r derminoleg sydd eu hangen i ddylunio a gweithredu datrysiadau deallusrwydd artiffisial ym maes roboteg a seiberneteg.

Systemau a Chymwysiadau Symudol
Mae'r modiwl dewisol hwn yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddylunio, gweithredu, profi a gwerthuso cymwysiadau ar gyfer llwyfannau symudol yn feirniadol.

Rhaglennu Cyfochrog a Chydredol

Mae'r modiwl hwn yn rhoi sylw i faterion damcaniaethol ac ymarferol, ac mae'n galluogi myfyrwyr i ddylunio ac adeiladu systemau cyfochrog a chydredol.

Systemau Deallus

Mynd i'r afael ag ystod o dechnegau a thechnolegau a ddefnyddir i adeiladu systemau deallusrwydd artiffisial. Mae'r modiwl hwn yn defnyddio enghreifftiau ymarferol i helpu myfyrwyr i ddewis technegau a’u cymhwyso i ddatrys problemau’r byd go iawn.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyflwyno ac Asesu

Mae modiwlau’r cwrs hwn wedi’u teilwra i anghenion penodol y deunydd dan sylw. Mae hyn yn golygu bod cymysgedd o dechnegau sy'n amrywio o rai darlithoedd ffurfiol gyda sesiynau ymarferol ategol i brosiectau tîm sy'n cael eu rheoli trwy efelychiad.
Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol. Yn yr un modd ag elfennau addysgu'r cwrs, cymerir gofal i sicrhau bod asesu modiwlau yn adlewyrchu'r ffordd orau o asesu eich cynnydd a darparu profiad dysgu dilys.
Mae asesiadau’r cwrs yn amrywio o ddrafftio adroddiadau ffurfiol i arddangosiadau fideo. Mae llawer o’r dulliau asesu yn helpu i ddatblygu’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen yn y gweithle.
Mae addysgu ac asesu yn pwysleisio materion y byd go iawn ac yn cyflwyno heriau gwaith realistig ar raddfa addas.
Cefnogir yr holl addysgu gan ddeunydd ar-lein, gan gynnwys adnoddau fideo, sain a thestun, ymarferion a thasgau.

Staff Addysgu

Gydag ystod eang o ddiddordebau ymchwil a chyfoeth o brofiad, mae staff sy’n addysgu ar y cwrs yn cynnig profiad dysgu diddorol ac arloesol.
Mae aelodau'r tîm yn ymchwilio mewn amrywiaeth o feysydd, o wyddor data i'r ffordd orau o ddatblygu sgiliau cyfrifiadureg hanfodol ein myfyrwyr, ac o roboteg i gymwysiadau meddygol Deallusrwydd Artiffisial. Maen nhw eisiau i chi ymuno â nhw ar y daith gyffrous hon.

Lleoliadau gwaith a phrofiad gwaith

Cynigir y rhaglen mewn modd Rhyngosod lle mae myfyrwyr yn cwblhau o leiaf naw mis o leoliad gwaith dan oruchwyliaeth. Rhoddir cymorth i fyfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau gwaith, ac mae goruchwyliaeth yn sicrhau bod ganddynt werth drwy brofiad.
Yn ogystal, gall Swyddogion Lleoliadau'r Brifysgol helpu myfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau dros yr haf ac ar benwythnosau.
Yn ogystal, caiff lleoliadau rhithwir a heriau diwydiant eu hymgorffori yn y rhaglen.
Mae lleoliadau gwaith yn galluogi myfyrwyr nid yn unig i ennill profiad, ac felly cael dechrau da yn eu gyrfaoedd, ond hefyd i helpu i roi eu hastudiaethau mewn cyd-destun a helpu i fagu hyder yn eu galluoedd. Maen nhw’n rhoi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn sy’n cael ei addysgu, a dysgu manylion a allai fod yn anodd eu caffael fel arall.

Cyfleusterau

Cefnogir y cwrs gan labordai cyfrifiadurol arbenigol sy’n cynnwys cyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron Macintosh, ac sy'n cefnogi'r gwaith o gyflwyno ein modiwlau. Mae'r rhain ar gael y tu allan i oriau addysgu i'ch galluogi i astudio'n hyblyg. Cefnogir modiwlau penodol gan y labordy Deallusrwydd Robotig, sy’n cynnwys ystod o freichiau, robotiaid symudol a thechnolegau cysylltiedig.
Mae'r rhaglen hefyd yn cael ei chefnogi gan ofod dysgu hyblyg sy'n darparu canolbwynt cymunedol ar gyfer myfyrwyr BSc Cyfrifiadureg lle gallant weithio gyda'i gilydd mewn awyrgylch hamddenol.
Darperir mannau ar gyfer prosiectau i’w defnyddio’n unig gan fyfyrwyr y cwrs hwn, gan ddarparu mannau tawel lle gall myfyrwyr gymryd rhan mewn astudio unigol neu waith tîm.

Wedi'i achredu gan
Two students working in the computer lab.

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae’r diwydiant awyrennau, contractwyr amddiffyn a chlwb pêl-droed o’r Uwch Gynghrair i gyd wedi elwa o arbenigedd graddedigion y rhaglen BSc Cyfrifiadureg. Mae'r swyddi y mae'r graddedigion hyn yn eu llenwi yn cynnwys rolau peirianneg a datblygu meddalwedd, mudo data, swyddi arwain a gwyddonydd data. Mae angen gwyddonwyr cyfrifiadurol ar bob diwydiant, ac mae’r rhaglen hon yn adeiladu’r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i helpu’r diwydiannau hynny i symud ymlaen.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae gyrfaoedd graddedigion y rhaglen yn cynnwys peiriannydd neu ddatblygwr meddalwedd, dadansoddwr systemau, dadansoddwr data neu wyddonydd data. Mae'r rhaglen yn adeiladu'r sgiliau, nid yn unig ar gyfer yfory, ond ar gyfer y dyfodol hefyd, gyda rolau arwain a rheoli yn ffocws i rai graddedigion.
Mae’r amrywiaeth o systemau cyfrifiadurol yn golygu bod rolau yn bodoli ar draws pob diwydiant ac, wrth i dechnolegau dyfu a datblygu, bydd y rolau y gellir cymhwyso eich cymhwyster cyfrifiadureg iddynt yn cynyddu.
Mae'r rhaglen hefyd yn darparu llwybr dilyniant ar gyfer astudiaethau pellach, gyda nifer o'n graddedigion yn mynd ymlaen i astudio gradd meistr neu wneud gwaith ymchwil.

Cymorth gyrfaoedd

Mae'r cwrs nid yn unig yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i symud ymlaen yn eich gyrfaoedd, ond mae hefyd yn darparu sawl dull o'ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Mae cynghorwyr gyrfaoedd yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ymarferol, tra bod lleoliadau a heriau yn meithrin sgiliau a phrofiad, a darperir cyfleoedd i rwydweithio drwy leoliadau, siaradwyr gwadd a heriau diwydiant.
Ar ôl i chi raddio, bydd y gefnogaeth yn parhau drwy gymuned Cyfrifiadureg Prifysgol De Cymru.
Gallwn hefyd gefnogi’r rheini sy’n dymuno dilyn eu cynlluniau eu hunain, boed hynny yn eu cwmnïau eu hunain neu fel gweithwyr llawrydd.

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD
  • Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
  • BTEC: Pas Pas Diploma Estynedig BTEC neu Bas Pas Diploma BTEC
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
  • Safon T: P

 

Gofynion ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Buddsoddwch yn eich dyfodol

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

RWYF BELLACH WEDI FY ARDYSTIO GAN NCSC, FELLY MAE CYFLOGWYR YN EDRYCH AR HYNNY, AC MAE'N RHOI'R AGWEDD BROFFESIYNOL HONNO I'R CWRS.

Niamh McConville

Graddedig BSc Gwyddor Gyfrifiadurol

DYDYCH CHI DDIM JYST YN EISTEDD I LAWR AC YN CODIO DRWY'R DYDD; RYDYCH CHI'N DYSGU SUT MAE POBL YN GWEITHIO AC YN DOD I ARFER Â GWEITHIO GYDAG ERAILL.

Niamh McConville

Graddedig BSc Gwyddor Gyfrifiadurol

Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.