Cyfrifiadureg
Mae ein gradd cyfrifiadureg achrededig BCS ar y brig yng Nghymru ac ymhlith y 10 uchaf yn y DU am Dechnoleg Gwybodaeth a Systemau yn Complete University Guide 2023. Byddwch yn datblygu sgiliau hanfodol ac yn ennill dealltwriaeth ddofn o'r technolegau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer gyrfa hir ac amrywiol yn y diwydiant TG sy'n symud yn gyflym.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsiwch â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/bsc-computing.png)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
I103
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
G401
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae sgiliau cyfrifiadurol yn ddymunol ac yn drosglwyddadwy; crëwch yrfa lewyrchus yn y dyfodol gyda'r cwrs ymarferol hwn.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi wedi mwynhau astudio pwnc cyfrifiadurol ar lefel Safon Uwch neu BTEC, neu hyd yn oed os ydych chi'n mwynhau chwarae gyda'ch cyfrifiadur eich hun neu ddefnyddio technoleg i ddatrys problemau, dyma'r cwrs i chi. Mae'r cwrs yn ymarferol ac yn darparu dysgu damcaniaethol sy'n gysylltiedig yn agos ag ymarfer.
Wedi’i achredu gan
- BCS - Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG
Llwybrau Gyrfa
- Rhaglennwr
- Datblygwr cymwysiadau
- Gweinyddwr cronfa ddata
- Rheolwr prosiect TG
- Datblygwr gwefannau
- Peiriannydd rhwydwaith
Sgiliau a addysgir
- Datblygu meddalwedd
- Datblygiad gwe
- Datblygu cronfeydd data
- Proffesiynoldeb
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/GettyImages-667155848.png)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Cwrs
Adeiladwch eich sgiliau a'ch gwybodaeth o'r sylfeini i lefelau uwch, ar gyflymder sy'n datblygu dealltwriaeth a chymhwysedd dwfn. Byddwch yn graddio gyda sgiliau rheoli prosiect a byddwch yn defnyddio dulliau a gymeradwyir gan ddiwydiant, fel bod gennych y sgiliau angenrheidiol i symud ymlaen i’ch swydd ddelfrydol.
Blwyddyn Un
Dylunio a Gweithredu Systemau Rhyngweithiol
Systemau Cyfrifiadurol a Thechnolegau Rhwydwaith
Proffesiynoldeb a Chyflogadwyedd*
Peirianneg Gwybodaeth
Rhaglennu Cyfrifiadurol
Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Cyfrifiadureg
Blwyddyn Dau
Rheoli Prosiectau ac Ymarfer Proffesiynol
Datblygu Gwefannau Deinamig
Technolegau Rheoli Cynnwys Gwe
Datblygu Cronfeydd Data
Prosiect Cymhwysiad Tîm ac Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd (PPE)
Damcaniaeth a Gweithredu System Weithredu
*Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn Tri
Prosiect Unigol - Gwybodeg
Dyfeisiau Cyfrifiadureg Integredig Uwch
Cronfeydd Data a Modelu Uwch
Cyfrifiadureg Rhyngrwyd a Symudol Uwch
Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a'r We Ofodol
Cyfrifiadureg Broffesiynol ar Waith
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu dylunio gwefannau, sut i gyrchu a storio data, a sut i addasu ac adeiladu cymwysiadau syml. Byddwch yn ennill profiad uniongyrchol o sut mae damcaniaethau'n cael eu cymhwyso i broblemau'r byd go iawn a sut i'w datrys.
Dylunio a Gweithredu Systemau Rhyngweithiol
Dysgwch hanfodion dylunio a datblygu gwefannau gan ddefnyddio HTML a CSS, deallwch beth sy'n gwneud gwefan dda a sut i greu un o'r dechrau.
Systemau Cyfrifiadurol a Thechnolegau Rhwydwaith
Enillwch brofiad uniongyrchol o sut mae cyfrifiaduron wedi’u cysylltu mewn rhwydwaith, gan gymhwyso'ch sgiliau i broblemau a senarios yn y byd go iawn.
Proffesiynoldeb a Chyflogadwyedd*
Dysgwch am y materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa ym maes cyfrifiadureg a TG.
*Mae modd astudio rhan o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Peirianneg Gwybodaeth
Dewch i ddeall sut mae systemau gwybodaeth yn ein galluogi i storio a chyrchu data, wrth i chi gael eich cyflwyno i'r dulliau a ddefnyddir i greu cronfeydd data yn ddiogel.
Rhaglennu Cyfrifiadurol
Cyfle i addasu ac adeiladu cymwysiadau syml ar ôl cael eich cyflwyno i hanfodion rhaglennu gweithdrefnol gan ddefnyddio iaith C#.
Mathemateg ac Ystadegau ar gyfer Cyfrifiadureg
Dysgwch sut i gymhwyso a dehongli technegau datrys problemau amrywiol a fydd yn eich helpu drwy gydol y cwrs.
Adeiladwch ar eich sgiliau drwy roi systemau a chronfeydd data ar waith, a chewch brofiad ymarferol o osod, ffurfweddu a rheoli system weithredu. Manteisiwch ar leoliad gwaith yn y diwydiant cyfrifiadureg i ennill profiad perthnasol a gwella eich CV.
Rheoli Prosiectau ac Ymarfer Proffesiynol
Archwiliwch wahanol ddulliau arfer gorau o drefnu prosiect o'r cam cynllunio i'w gwblhau.
Datblygu Gwefannau Deinamig
Gan adeiladu ar eich sgiliau gwe o’r flwyddyn gyntaf, byddwch yn ennill profiad o ddod o hyd i offer gwe a sgriptio priodol a'u defnyddio.
Technolegau Rheoli Cynnwys Gwe
Dyma’ch cyfle i weithredu System Rheoli Cynnwys (CMS) a dysgu sut i wneud eich cynnwys yn hygyrch gan ddefnyddio arferion Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO).
Datblygu Cronfeydd Data
Datblygwch eich sgiliau cronfa ddata ymhellach wrth i chi ddefnyddio technegau priodol i ddylunio a gweithredu cronfeydd data perthynol a gofodol.
Prosiect Cymhwysiad Tîm ac Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd (PPE)
Mae'r modiwl Ymarfer Proffesiynol a Chyflogadwyedd yn rhoi profiad gwaith go iawn i chi yr ydym yn helpu i'w ddarparu. Byddwch hefyd yn gweithio fel rhan o dîm i greu darn o feddalwedd.
Damcaniaeth a Gweithredu System Weithredu
Enillwch brofiad ymarferol o osod, ffurfweddu, a rheoli system weithredu. Yna dysgwch sut i reoli rhwydwaith o gyfrifiaduron cysylltiedig.
Dewiswch eich hoff bwnc a dewch ag ef yn fyw. Byddwch yn ymarferol wrth ddefnyddio’r Rhyngrwyd Pethau a gweithio gyda Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, systemau gweithredu a thechnolegau rhwydwaith.
Prosiect Unigol - Gwybodeg
Amser i fod yn greadigol gyda'ch hoff bwnc o'r cwrs. Archwiliwch y pwnc yn fanwl a chreu rhywbeth arbennig.
Dyfeisiau Cyfrifiadureg Integredig Uwch
Dyluniwch a chrëwch atebion i broblemau ymarferol mewn cartrefi, gweithleoedd, a mannau cyhoeddus drwy weithio’n ymarferol gyda thechnolegau’r Rhyngrwyd Pethau (IoT).
Cronfeydd Data a Modelu Uwch
Rydych chi eisoes wedi dysgu am gronfeydd data, nawr gallwch chi ddod yn arbenigwr. Heriwch eich hun ymhellach wrth i chi ddylunio atebion i broblemau cymhleth a realistig.
Cyfrifiadureg Rhyngrwyd a Symudol Uwch
Gan adeiladu ar fodiwlau blaenorol, byddwch yn dylunio ac yn creu cymwysiadau gwe modern a fydd yn rhyngweithiol, ac yn hygyrch gan ddefnyddio dyfeisiau symudol.
Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol a'r We Ofodol
Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o dechnegau Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) i weld sut y gellir defnyddio mapiau a data lleoliad i ddatrys problemau'r byd go iawn.
Cyfrifiadureg Broffesiynol ar Waith
Paratowch i gymhwyso'ch sgiliau fel gweithiwr proffesiynol yn y gweithle gan fod y modiwl hwn yn gweithio gyda chi i gymhwyso'ch hun yn y diwydiant cyfrifiadureg.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Rydym wedi gweithio gyda chyflogwyr a myfyrwyr i greu cwrs achrededig sy'n adlewyrchu arferion presennol y diwydiant ac sy’n cael ei gyflwyno mewn ffordd ymarferol. Byddwch yn treulio llawer o amser yn ein labordai cyfrifiadurol, yn dysgu trwy wneud a defnyddio ein hoffer arloesol i fod yn greadigol ac yn arloesol.
Ar gyfer asesiadau , byddwch yn cwblhau amrywiaeth o dasgau gwaith cwrs, yn unigol ac fel rhan o grŵp, sy'n canolbwyntio ar eich sgiliau ymarferol. Efallai y byddwch chi'n creu gwefan, neu ddarn o feddalwedd, cronfa ddata, neu ddylunio ateb i broblem yn y byd go iawn gan ddefnyddio TG.
Rydym yn defnyddio problemau byd go iawn yn helaeth, gan gyflwyno heriau gwaith realistig i chi adeiladu eich sgiliau.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/bsc-computer-science.png)
Staff Addysgu
Rydym yn dîm brwdfrydig gydag ystod eang o arbenigedd yn y diwydiant a'r byd academaidd, o Ddeallusrwydd Artiffisial i gyfrifiadureg rhyngrwyd a symudol uwch. Rydym yn awyddus i fod yn gyfredol â'r diwydiant hwn sy'n symud yn gyflym, felly rydym yn sicrhau bod ein modiwlau'n cael eu haddasu i adlewyrchu unrhyw newid mewn cod neu feddalwedd, fel eu bod bob amser yn berthnasol.
Rydym yn ymfalchïo mewn darparu tîm cyfeillgar i chi a fydd yn dod i'ch adnabod yn ôl eich enw, ac nid eich rhif adnabod myfyriwr. Drwy gydol eich blynyddoedd yn astudio gyda ni, byddwn yn cynnig unrhyw gymorth unigol y gallai fod ei angen arnoch. Nid yw hyn yn dod i ben ar ôl i chi raddio ychwaith – ein gwaith ni yw datrys problemau – felly byddwn wrth law i'ch helpu.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-advanced-computer-science.png)
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Gallwch ddewis astudio'n llawn amser dros dair blynedd, neu fel gradd rhyngosod, lle gallwch dreulio blwyddyn gyfan yn gweithio yn y diwydiant yn y DU neu dramor. Mae opsiwn hefyd i astudio'r cwrs yn rhan-amser drwy gynllun Rhwydwaith75, lle byddwch yn gweithio gydag un o'n cyflogwyr partner, gan ennill arian wrth i chi astudio. Fel arfer mae'n cymryd pum mlynedd i gwblhau eich gradd fel hyn.
Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn cwblhau lleoliad gwaith 70 awr fel rhan o'ch astudiaethau, a fydd yn eich helpu i ddeall byd gwaith TG ymhellach trwy brofiad uniongyrchol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/computing/msc-computing-and-information-systems.png)
Cyfleusterau
Mae gan ein labordai cyfrifiadurol yr offer diweddaraf i chi eu defnyddio trwy gydol eich gradd. Rydym yn defnyddio labordai ar gyfer dosbarthiadau ymarferol, ochr yn ochr â'n darlithfeydd a'n ystafelloedd dosbarth.
Un o'r pethau mwyaf trawiadol sydd gennym yw man addysgu pwrpasol Rhyngrwyd Pethau a labordy roboteg, sydd ar gael i chi ei ddefnyddio unrhyw bryd.
Yn 2026, bydd gan y cwrs adeilad newydd, a fydd yn cynnwys mwy na 40 o fannau addysgu, dysgu ac ymchwil. Bydd yr adeilad yn cynnwys labordai electroneg a hydroleg, efelychydd hedfan, galluoedd realiti rhithwir, a mannau arddangos.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-facilities-classroom-44989.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/computing/subject-computing-facilities-classroom-45030.jpg)
Ar y brig yng Nghymru ar gyfer Cyfrifiadureg a Systemau Gwybodaeth
Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024Gofynion mynediad
pwynt tariff UCAS: 96
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC
- Bagloriaeth Cymru: Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC Safon Uwch
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod
- Mynediad i AU: Pasiwch y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch
astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Buddsoddwch yn eich dyfodol
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
- Medi 2025 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2025 Llawn Amser
- Medi 2026 Gyda Blwyddyn Ryngosod
- Medi 2026 Llawn Amser
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Weithio, Ennill a Dysgu!
Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael trwy Network75, llwybr gwaith ac astudio cyfun.
Dysgwch fwy