Blwyddyn Ryngosod

Enillwch wybodaeth uniongyrchol am fyd gwaith.

Cyflogadwyedd a Gyrfaoedd
Joshua Stucky, AME graduate and GE employee, is stood wearing a lanyard and holding a clipboard in an aircraft engineering work environement.

Datblygwch sgiliau trosglwyddadwy, dysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol wrth ennill profiad gwaith ymarferol gyda blwyddyn lleoliad ryngosod.


Beth yw blwyddyn ryngosod?

Mae blwyddyn ryngosod yn lleoliad amser llawn 9-12 mis mewn diwydiant. Fel arfer byddwch yn ymgymryd â’r flwyddyn ryngosod ar ôl dwy flynedd o astudio gyda ni ar eich cwrs gradd. Bydd angen i chi ddod o hyd i ddarparwr lleoliad addas, a gwneud cais llwyddiannus iddynt, i gwblhau eich blwyddyn ryngosod a gall ein Tîm Gyrfaoedd a thimau cwrs eich helpu gyda hyn. Byddwch wedyn yn dod yn gyflogai llawn amser y sefydliad rydych chi'n ymuno ag ef, gan roi profiad uniongyrchol i chi o'ch gyrfa bosibl yn y dyfodol.

Byddwch yn ennill profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith am oddeutu blwyddyn, cyn dychwelyd i'r brifysgol i gwblhau eich gradd yn eich blwyddyn olaf. Efallai y byddwch hefyd yn cwblhau rhai aseiniadau cwrs a fydd yn eich galluogi i gysylltu eich blwyddyn ryngosod â'ch gwaith academaidd.

Gall ein Tîm Gyrfaoedd gwych eich cefnogi drwy'r broses, eich helpu i baratoi eich cais am leoliad ac ar gyfer unrhyw gyfweliadau.

Buddion Allweddol

Profiad Ymarferol

Enillwch Brofiad ymarferol o rôl, cwmni, diwydiant neu sector penodol sy'n berthnasol i'ch maes astudio dewisol.

Gwell Cyflogadwyedd

Rhowch hwb i'ch CV gyda phrofiad gwaith perthnasol, gan eich gwneud yn fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Datblygwch sgiliau meddal a chaled gwerthfawr fel cyfathrebu, datrys problemau, ac arbenigedd technegol sy'n benodol i'r diwydiant.

Adeiladu Hyder

Cynyddwch eich hunanhyder drwy fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn mewn amgylchedd proffesiynol a dysgu gan eraill.

Mewnwelediadau Llwybrau Gyrfa

Cewch ddealltwriaeth gliriach o gyfeiriadau gyrfa a diwydiannau posibl yr hoffech eu dilyn.


Faint yw blwyddyn ryngosod?

Mae blwyddyn ryngosod yn costio £1,000, ond caiff y swm hwn ei ddisgowntio o swm eich ffi derfynol pan fyddwch yn dychwelyd am eich blwyddyn olaf. Rydym wedi ymrwymo i annog a chefnogi myfyrwyr sy'n dymuno manteisio ar gyfleoedd gwerthfawr blwyddyn ryngosod. Rydym yn gwerthfawrogi y gall y sgiliau a ddatblygir gwneud gwahaniaeth i'ch llwybr gyrfa yn y dyfodol.

Ariannu eich astudiaethau

Sut i ddod o hyd i gyrsiau gradd gyda blwyddyn ryngosod?

I ddarganfod yr holl gyrsiau sydd ar gael gyda lleoliadau blwyddyn ryngosod, ewch i www.southwales.ac.uk/cy/cyrsiau/ a defnyddio'r hidlydd chwilio modd astudio i ddewis blwyddyn ryngosod.

Dod o hyd i'ch cwrs

MAE'R CYSYLLTIADAU DIWYDIANT WEDI BOD YN AMHRISIADWY. RWYF WEDI ENNILL PROFIAD YMARFEROL O WEITHIO GYDAG ITV AR BROPIAU A CHYNORTHWYO GYDA MENTER Y BBC.

James

Myfyriwr Ffilm ac Effeithiau Gweledol

student-25

Bwrsariaeth Teithio FCES 2025/2026

Mae bwrsariaeth teithio FCES ar gyfer unrhyw fyfyriwr o Brifysgol De Cymru sy'n astudio gradd ryngosod israddedig berthnasol yn y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth (FCES).