Ajay Ajith
Sut gwnaeth fy mlwyddyn leoliad roi bywyd i fy astudiaethau gwyddor fferyllol
Blwyddyn Ryngosod
Roedd y flwyddyn leoliad yn brofiad amhrisiadwy i mi. Nid yn unig y gwnaeth fy helpu i gael syniad clir o fy nodau gyrfa ond rhoddodd sylfaen gref i mi ar gyfer fy nyfodol hefyd.
Sut gwnaeth fy mlwyddyn leoliad roi bywyd i fy astudiaethau gwyddor fferyllol
Helo, Ajay Ajith ydw i, a dwi’n astudio BSc (Anrh.) Gwyddor Fferyllol ym Mhrifysgol De Cymru. Pan ddechreuais yn y brifysgol, roeddwn yn gwybod y byddai ennill profiad yn y diwydiant yn hynod o werthfawr – Mae’n rhoi cyfle i chi gymhwyso’r hyn rydych yn ei ddysgu i leoliad byd go iawn, sy’n wych ar gyfer datblygu gyrfa.
O’r cychwyn cyntaf, cefais gefnogaeth gan y brifysgol drwy’r broses. Helpodd y tîm gyrfaoedd i mi ddod o hyd i gyfleoedd, gwella fy CV, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau. Roeddent yn ddefnyddiol iawn wrth sicrhau bod fy nghais yn berffaith, a fy mod yn barod ar gyfer y lleoliad.
Diolch i’w cymorth, llwyddais i gael lleoliad blwyddyn fel Gwyddonydd Ymchwil Hyfforddai yn Simbec-Orion, yn gweithio yn yr adran Fio-ddadansoddol. Roedd yn brofiad gwych a helpodd fi i gysylltu popeth roedd i wedi’i ddysgu yn y dosbarth â gwaith byd go iawn.
Yn ystod fy lleoliad, gweithiais ar bethau fel paratoi cemegau, profi samplau, a helpu i ddatblygu a phrofi dulliau ar gyfer dadansoddi LC-MS/MS. Defnyddiais feddalwedd hefyd i reoli arbrofion a dilyn rheoliadau arfer da i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn gywir.
Dewch o hyd i'ch cwrsUn o’r rhannau gorau o’r lleoliad oedd dysgu sut i ddefnyddio offer LC-MS
Roedd yn anodd ar y dechrau, ond mwynheais yr her ac roeddwn wrth fy modd yn cael profiad ymarferol priodol. Cefais hyd yn oed gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a gweithio ar brosiectau go iawn, a helpodd fi i adeiladu fy sgiliau a’m hyder.
Moment y byddaf yn ei gofio am byth oedd pan lwyddais i brofi dros 720 o samplau ar draws 20 swp ar gyfer prosiect cleient. Roedd yn llawer o waith, ond roeddwn yn teimlo’n falch o wybod fy mod wedi ei wneud yn dda.
Roedd yna rai adegau anodd hefyd. Roedd rheoli llawer o samplau a gweithio o dan bwysau yn newydd i mi. Ond roeddwn yn drefnus, dilynais y camau cywir, a gofynnais i’m tîm am help pan oedd ei angen arnaf – dysgodd i mi pa mor bwysig yw gwaith tîm a chyfathrebu da.
Roedd y technegau a ddefnyddiais yn ystod fy lleoliad – fel Echdynnu Cyfnod Solet (SPE), Echdynnu Hylif (LLE) a Protein Crash – yn bethau wnes i ddod ar eu traws gyntaf yn y brifysgol. Ond fe wnaeth eu defnyddio mewn labordy go iawn fy helpu i’w deall gymaint yn well.
Erbyn diwedd y flwyddyn, roeddwn i wedi ennill nid yn unig gwybodaeth dechnegol ond hefyd y math o sgiliau byd go iawn y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, fel datrys problemau, gwaith tîm a rheoli amser. Mae gen i syniad llawer cliriach nawr hefyd o’r math o waith rydw i eisiau ei wneud yn y dyfodol.
Os oes unrhyw fyfyrwyr yn ystyried lleoliad, byddwn i’n bendant yn argymell cymryd y cam!
Os ydych yn ystyried gwneud blwyddyn leoliad, byddwn i’n dweud ewch amdani. Mae’n un o’r ffyrdd gorau o ddysgu, tyfu a pharatoi ar gyfer bywyd ar ôl prifysgol. Fe helpodd fi i feithrin fy hyder a rhoddodd enghreifftiau gwych o waith i mi siarad amdanynt mewn cyfweliadau.
Mae cael y profiad go iawn hwnnw wedi gwneud i mi deimlo’n barod am yr hyn sydd nesaf – ac yn gyfforddus am ble gall fy ngradd fynd â fi.
Cyflogadwyedd a GyrfaoeddDiddordeb mewn Gwyddor Fferyllol ?
Mae galw mawr am raddedigion medrus gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar gemeg, felly os mai’ch uchelgais yw darganfod y cyffur poblogaidd nesaf neu ymateb i’r her o addysgu gwyddoniaeth, ein cyrsiau ni yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’ch nod.