SENUSHI JAYASINGHE
Sicrhau profiad ymarferol mewn cemeg ddadansoddol drwy oresgyn fy nerfau.
Blwyddyn Ryngosod
“Mae’r lleoliad gwaith hwn wedi bod o fudd mawr i mi. Mae wedi rhoi profiad gwerthfawr i mi o’r diwydiant.”
Dod o hyd i’m lle ar yrfa sy’n addas i mi
Helo, Senushi Jayasinghe ydw i, myfyriwr BSc Gwyddor Fferyllol ym Mhrifysgol De Cymru. Pan gynigwyd fy mlwyddyn ryngosod i mi yn wreiddiol gyda’r adran Rheoli Ansawdd yn Tocris Bio-Techne, roeddwn i’n teimlo’n eithaf nerfus, gan ofni y byddwn i’n cael trafferth rhoi fy sgiliau ar waith yn ymarferol.
Fodd bynnag, ar ôl dechrau’r lleoliad, cefais ddealltwriaeth glir o sut mae rheoli ansawdd yn gweithredu o fewn y diwydiant fferyllol.
Cefais ganmoliaeth gan fy rheolwr ac arwydd o gydnabyddiaeth gan fy nghydweithwyr yn ystod cyfnod prysur iawn i’r adran, gan imi lwyddo i gwblhau tasgau’n annibynnol wrth helpu dadansoddwyr eraill ar yr un pryd.
Er fy mod i’n awyddus i weithio mewn labordy cemeg i ddechrau, fe wnaeth y lleoliad hwn i mi sylweddoli y byddwn i’n well gen i rôl naill ai ym maes rheoli ansawdd neu sicrhau ansawdd.
Dysgu trwy wneud: Cael profiad ymarferol ym maes rheoli ansawdd
Fe gryfhaodd fy ngwybodaeth o gemeg yn sylweddol wrth i mi gael profiad ymarferol helaeth mewn cemeg ddadansoddol.
Roeddwn yn gwirio’r mesurydd pH bob dydd i sicrhau ei fod yn rhoi darlleniadau cywir, ac yn profi’r pipedau bob mis i sicrhau eu bod yn mesur hylifau’n gywir.
Roeddwn yn cynnal stociau o doddyddion, cemegau ac eitemau defnydd unwaith yn y labordy, gan sicrhau hefyd fod fy lle gwaith yn daclus ac yn rhydd o beryglon. Roeddwn hefyd yn cyfrannu at weithgareddau cyffredinol y labordy - o olchi llestri gwydr i waredu gwastraff labordy yn gywir ac i storio cynwysyddion toddyddion yn briodol.
Cwblheais brofion sylfaenol, yn seiliedig ar hydoddedd ac ymddangosiad, i adnabod cyfansoddion ac archwilio eu strwythurau cemegol. Cymerais samplau o ddeunyddiau crai a chynhyrchion gorffenedig, ac archwilio’r hyn yr oedd cemegau gwahanol wedi’u gwneud ohonynt gan ddefnyddio offer fel adweithydd niwclear magnetig ac offer sbectrometreg màs.
Derbyniais ac ysgrifennais samplau a gyflwynwyd i’r labordy, ac anfon samplau i labordai allanol ar gyfer dadansoddi cyn prosesu’r canlyniadau. Roeddwn i’n mwynhau cael y cyfle i gydweithio gyda chwmnïau fferyllol eraill.
Dewch o hyd i'ch cwrsRwy’n arbennig o ddiolchgar i arweinydd fy nghwrs a’m darlithwyr am eu cefnogaeth a’u harweiniad
Dewisais wneud fy lleoliad blwyddyn rhyngosod yn ystod fy ail flwyddyn ar ôl i'm darlithwyr annog pob myfyriwr i ymgymryd â naill ai blwyddyn rhyngosod neu leoliad haf. Pwysleisiasant y byddai’n hogi ein gwybodaeth am y diwydiant ac yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o sut mae’r diwydiant fferyllol yn gweithredu.
Cefnogodd fy narlithwyr fi i sicrhau’r lleoliad – doeddwn i erioed wedi mynychu cyfweliad o’r blaen, ac fe wnaethon nhw fy helpu i baratoi, gan gynnwys rhoi cyngor gwerthfawr ar beth i’w ddisgwyl a sut i gyflwyno fy hun yn effeithiol.
Cwrddodd arweinydd fy nghwrs â mi bob dau fis yn ystod y lleoliad i sicrhau fy mod i’n iawn, i wirio ar fy nghynnydd ac i drafod unrhyw bryderon oedd gennyf.
Byddwn yn argymell blwyddyn ryngosod yn gryf i unrhyw un sy’n ystyried ei wneud
Mae blwyddyn ryngosod yn rhoi cyfnod hirach o brofiad yn y diwydiant, sy’n eich galluogi i ddysgu’n fanwl ac i ddatblygu’n broffesiynol.
Rwy’n gwybod y bydd fy lleoliad yn rhoi mantais gystadleuol i mi dros raddedigion eraill gan fod cwmnïau’n tueddu i ffafrio ymgeiswyr sydd â phrofiad o’r diwydiant.
Byddwn yn cynghori myfyrwyr eraill ar y cwrs hwn i ddechrau gwneud ceisiadau am swyddi lleoliad yn gynnar, yn ddelfrydol ar ddechrau’r ail flwyddyn. Bydd sicrhau lleoliad cyn gynted â phosibl yn cynyddu’ch siawns o gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant.
Diddordeb mewn Gwyddor Fferyllol ?
Mae galw mawr am raddedigion medrus gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar gemeg, felly os mai’ch uchelgais yw darganfod y cyffur poblogaidd nesaf neu ymateb i’r her o addysgu gwyddoniaeth, ein cyrsiau ni yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’ch nod.