BSc (Anrh)

Gwyddor Fferyllol

Dysgwch sut i ddylunio, datblygu a gwerthuso cyfansoddion newydd/cyffuriau therapiwtig sy'n achub bywydau wrth i chi feistroli gwybodaeth uwch a thechnegau ymarferol, gan ddefnyddio offer labordy blaengar.

Sut i wneud cais Gwneud Cais Trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    F153

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Côd UCAS

    F151

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae byd cymhleth gwyddor fferyllol angen graddedigion sydd nid yn unig â gwybodaeth ragorol ac yn gyfarwydd iawn â labordy, ond sy'n gallu llywio prosesau a fframweithiau'r diwydiant yn hyderus. Dysgwch bopeth sydd ei angen arnoch i sicrhau rôl o fewn cwmnïau fferyllol sy'n gweddu i'ch nodau gyrfa.

Cynlluniwyd Ar Gyfer

Mae'r BSc Gwyddor Fferyllol yn rhoi'r cyfle i chi gymhwyso'ch diddordeb mewn maes sy'n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau pob unigolyn ar y blaned. Archwiliwch y broses o sut y gwneir cemegau a therapiwteg a pharatowch ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y maes fferyllol, mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi.

Llwybrau Gyrfa

  • Ymchwil a datblygu
  • Gwyddonydd mewn sefydliad fferyllol/cemegol/biotechnoleg/ymchwil glinigol
  • Dadansoddwr fferyllol
  • Cydymaith Materion Rheoleiddiol
  • Rolau Gwerthiant/Cymorth Technegol
  • Gwyddonydd labordy/technegydd labordy GIG

Sgiliau a Addysgir

  • Sgiliau ymarferol
  • Sgiliau datrys problemau
  • Sgiliau meddwl yn feirniadol
  • Sgiliau TG a Digidol
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Ymwybyddiaeth fasnachol
  • Sgiliau rheoli prosiect

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Rhagolygon swyddi gwych

Mae ein cwrs yn eich paratoi ar gyfer rolau mewn cwmnïau fferyllol, ymchwil glinigol a diwydiannau cysylltiedig eraill.

Addysgu rhagorol

Mae eich tiwtoriaid yn weithgar mewn ymchwil allweddol, gyda graddau PhD ar draws meysydd cemeg a biolegol.

Cyfleoedd lleoliad gwaith

Cyfleoedd ar gyfer lleoliadau tymor byr a blwyddyn o hyd sydd yn aml yn arwain at gyflogaeth ar ôl graddio.

Labordai o'r radd flaenaf

Adeiladwch sgiliau ymarferol rhagorol gydag offer o safon uchel gan gynnwys sbectromedrau NMR, IR ac UV-VIS a GC a GC/MS ac ati.

Trosolwg o’r Modiwl

Datblygwch y wybodaeth cemeg a bioleg graidd sy'n sail i'r diwydiant a magu sgiliau labordy sylfaenol, cyn ehangu eich gwybodaeth a datblygu technegau arbenigol sy'n eich paratoi ar gyfer rolau fferyllol.

Blwyddyn un
Amrywiaeth Bywyd Cellog
Geneteg ac Esblygiad
Moleciwlau Organig: eu Strwythur, Adweithedd a Dadansoddiad
Nodweddion Ffisegol Moleciwlau
Cemeg Anorganig
Sgiliau Allweddol ar gyfer Gyrfaoedd yn y Gwyddorau

Blwyddyn dau
Geneteg Foleciwlaidd Ddynol
Rheoli Ansawdd a Rheolaeth yn y Diwydiant Fferyllol
Cyflwyniad i Wyddoniaeth Fformiwleiddio a Dadansoddiad Fferyllol
Technegau Dadansoddi ac Adnabod Modern 
Cemeg Organig Synthetig a Heterogylchol
Cemeg Bioanorganig

Blwyddyn tri
Cynnydd Moleciwlaidd Modern
Prosiect Mawr a Datblygu Gyrfa
Technegau Dadansoddi Uwch
Cemeg Organig Uwch
Dylunio Cyffuriau Meddyginiaethol

Gosodwch y sylfeini ar gyfer astudio a llwyddiant yn y dyfodol. Adeiladwch eich portffolio proffesiynol a phersonol, dysgwch wybodaeth gysyniadol allweddol am gemeg (organig/corfforol/anorganig), a bioleg (geneteg/biofolecylau/bioleg celloedd), ac ennill sgiliau ymarferol sylfaenol yn y labordy.

Amrywiaeth Bywyd Cellog
Archwiliwch y prosesau sy'n galluogi pethau byw i oroesi, atgenhedlu ac esblygu, a sut mae hyn yn arwain at amrywiaeth y byd byw sydd ohoni.

Geneteg ac Esblygiad
Dewch i ddeall adeiledd DNA ac atgynhyrchu, ac archwilio damcaniaeth esblygiadol. Byddwch hefyd yn adeiladu technegau labordy sylfaenol ac yn dysgu sut i weithio'n ddiogel.

Moleciwlau Organig: eu Strwythur, Adweithedd a Dadansoddiad
Datblygwch wybodaeth am foleciwlau organig a sut maent yn adweithio a thrawsnewid, ac ymarfer sgiliau labordy fel echdynnu a phuro.

Nodweddion Ffisegol Moleciwlau
Archwiliwch a chymhwyswch gysyniadau cemeg ffisegol gan gynnwys ecwilibriwm, cineteg a thermodynameg.

Cemeg Anorganig
Dewch i ddeall cemeg metelau anorganig a throsiannol, gan edrych ar sut mae eu hadweithedd a'u priodweddau ffisegol yn berthnasol i wyddorau fferyllol.

Sgiliau Allweddol ar gyfer Gyrfaoedd yn y Gwyddorau
Datblygwch sgiliau sy’n benodol i’r cwrs fel cysyniadau mathemategol allweddol ac ymchwil wyddonol, yn ogystal â sgiliau datblygiad proffesiynol a chyflogadwyedd.

Datblygwch eich gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol a'i chymhwyso i broblemau o fewn synthesis, dadansoddi, fformiwleiddio a rheoli ansawdd. Bydd eich gwybodaeth a'ch hyder cynyddol yn eich grymuso i gynllunio ymchwiliadau, gwerthuso data a myfyrio ar ganlyniadau yn effeithiol.

Amrywiaeth Bywyd Cellog
Archwiliwch y prosesau sy'n galluogi pethau byw i oroesi, atgenhedlu ac esblygu, a sut mae hyn yn arwain at amrywiaeth y byd byw sydd ohoni.

Geneteg ac Esblygiad
Dewch i ddeall adeiledd DNA ac atgynhyrchu, ac archwilio damcaniaeth esblygiadol. Byddwch hefyd yn adeiladu technegau labordy sylfaenol ac yn dysgu sut i weithio'n ddiogel.

Moleciwlau Organig: eu Strwythur, Adweithedd a Dadansoddiad
Datblygwch wybodaeth am foleciwlau organig a sut maent yn adweithio a thrawsnewid, ac ymarfer sgiliau labordy fel echdynnu a phuro.

Nodweddion Ffisegol Moleciwlau
Archwiliwch a chymhwyswch gysyniadau cemeg ffisegol gan gynnwys ecwilibriwm, cineteg a thermodynameg.

Cemeg Anorganig
Dewch i ddeall cemeg metelau anorganig a throsiannol, gan edrych ar sut mae eu hadweithedd a'u priodweddau ffisegol yn berthnasol i wyddorau fferyllol.

Sgiliau Allweddol ar gyfer Gyrfaoedd yn y Gwyddorau
Datblygwch sgiliau sy’n benodol i’r cwrs fel cysyniadau mathemategol allweddol ac ymchwil wyddonol, yn ogystal â sgiliau datblygiad proffesiynol a chyflogadwyedd.

Datblygwch wybodaeth ddamcaniaethol hynod ddatblygedig a sgiliau ymarferol mewn synthesis, cemeg ddadansoddol, dyluniad cyffuriau meddyginiaethol a biocemeg glinigol. Paratowch ar gyfer y byd gwaith wrth i chi ymgymryd â phrosiect ymchwil proffesiynol mawr ac archwilio cyfleoedd gwaith.

Cynnydd Moleciwlaidd Modern
Gwerthuswch yn feirniadol y datblygiadau therapiwtig a thechnolegol sydd wedi llwyddo i ddod yn arfer clinigol ar gyfer diagnosis a rheoli clefydau.

Prosiect Mawr a Datblygu Gyrfa
Dangoswch eich bod yn barodrwydd ar gyfer rôl broffesiynol wrth i chi gynllunio, gweithredu a myfyrio ar brosiect gwyddonol mawr, sy'n cynnwys ymchwil eang ar thema gyfredol y diwydiant.

Technegau Dadansoddi Uwch
Meistrolwch gysyniadau a thechnegau dadansoddol uwch fel gwahanu a sbectrosgopeg, gan ddatblygu dulliau i ddatrys problemau dadansoddi cemegol.

Cemeg Organig Uwch
Meddwch ar ddealltwriaeth fanwl o theori a chymwysiadau adweithiau perigylchol, synthesis anghymesur a metelau trosiannol o fewn synthesis organig.

Dylunio Cyffuriau Meddyginiaethol
Mae'r modiwl hwn yn ymdrin â dylunio cyffuriau, gweithredu, synthesis, gweinyddu'n ddiogel, heriau cynyddu, ac yn cyflwyno modelu cyfrifiadurol a chemeg polymerau.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi'n dysgu

Caiff y cwrs ei adolygu’n rheolaidd i adlewyrchu datblygiadau allweddol yn y diwydiant, a byddwch yn adeiladu’r wybodaeth ddiweddaraf trwy amrywiaeth o ddarlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau a gweithdai. Byddwch yn cael digon o gyfleoedd i gymhwyso eich gwybodaeth gyda sesiynau ymarferol yn ein labordai o’r radd flaenaf. Mae prosiectau ymarferol yn rhan o'ch asesiad, a bydd arholiadau, cyflwyniadau llafar, traethodau ac adroddiadau hefyd yn caniatáu i chi ddangos eich gwybodaeth a'ch galluoedd. Mae datblygiad proffesiynol yn rhan annatod o'r cwrs. Ynghyd â'ch profiad ymarferol, mae hyn yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i gyflawni’r rôl fferyllol rydych yn ei dymuno.

Staff Addysgu

Mae gan y mwyafrif helaeth o'ch tiwtoriaid gymwysterau PhD ar draws ystod o ddisgyblaethau sy'n gysylltiedig â gwyddor fferyllol, o gemeg organig, cemeg anorganig, cemeg ddadansoddol i gemeg gyfrifiadol. Mae gan ein staff bortffolios ymchwil helaeth, gyda rhai yn cael cymrodoriaethau ymchwil mawreddog ledled y byd. Mae eraill wedi gweithio mewn rolau dylanwadol yn y diwydiant yn ddiweddar. Mae'r ehangder a dyfnder hwn o arbenigedd yn sicrhau bod eich addysgu o'r safon uchaf. Mae staff hefyd yn defnyddio eu profiad byd go iawn i ddod â'ch dysgu yn fyw a thywys eich dyheadau gyrfa.

Lleoliadau a Phrofiad Gwaith

Manteisiwch ar gyfleoedd lleoliad, boed yn flwyddyn ryngosod, gwaith haf neu wirfoddoli tymor byr. Mae'r profiadau hyn nid yn unig yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r cysyniadau a'r sgiliau rydych chi'n eu dysgu ar y cwrs, ond hefyd yn rhoi mewnwelediad gwirioneddol i'r diwydiant sy'n rhoi hwb i'ch rhagolygon swydd, a gall hyd yn oed arwain at gynigion swyddi. Mae nifer o'n myfyrwyr blaenorol wedi cael cynnig swyddi cyn diwedd eu hastudiaethau yn sgil lleoliad gwaith. Mae lleoliadau wedi cynnwys Midatech Pharma Ltd, Nanopharm Ltd, Simbec Orion Group Ltd, PRA Health Sciences, a PCI Pharma. Mae ein tîm lleoliadau yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd sy'n berthnasol i'ch uchelgeisiau.

Cyfleusterau

Rydym yn buddsoddi’n rheolaidd yn ein cyfleusterau gwyddor fferyllol i sicrhau eu bod yn cyfateb i’r rhai a geir mewn diwydiant. Byddwch yn gwneud defnydd llawn o’r labordai drwy gydol eich cwrs ac yn cael profiad ymarferol gan ddefnyddio pob math o offer a chyfarpar dadansoddol. Mae gennym labordai cemeg organig, anorganig a ffisegol pwrpasol, yn ogystal â sawl labordy offeryniaeth sy'n cynnwys cromatograffau, sbectromedrau, offerynnau ar gyfer profi ansawdd a mwy. Cefnogir ein cyfleusterau labordy gan ystod o offer ac adnoddau ar-lein o safon uchel.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae'r radd hon yn darparu'r cefndir gwyddonol uwch a gwybodaeth am y diwydiant y mae cyflogwyr fferyllol ledled y byd yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae ein graddedigion wedi sicrhau rolau mewn cwmnïau fel Teva (DU), PCI (DU), Pharmaron (DU), Roche (y Swistir), a Vertex Pharmaceuticals. Byddwch yn barod ar gyfer rolau ymchwil a datblygu, yn ogystal â chyfleoedd mewn ffeilio patentau, sicrhau ansawdd, materion rheoleiddio, marchnata technegol, a gwerthu. Bydd eich arbenigedd gwyddonol yn agor drysau mewn diwydiannau nad ydynt yn fferyllol, gyda chyn-fyfyrwyr yn gweithio yn Tata Steel, y GIG, a’r diwydiant colur. Mae llawer yn dilyn graddau MSc, tra bod eraill yn dewis gyrfaoedd addysgu.

Cymorth gyrfaoedd

Ein nod yw eich gwneud yn ‘barod am waith’. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael digon o gyfleoedd i gymhwyso'ch sgiliau a'ch gwybodaeth gan ddefnyddio offer, prosesau a fframweithiau o safon diwydiant, a datrys problemau byd go iawn ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i weithio yn y diwydiant ar leoliad. Mae'r profiad hwn yn eich gwneud chi'n hynod ddeniadol i gyflogwyr sy'n chwilio am raddedigion a all fwrw iddi yn syth. Mae modiwlau sy’n canolbwyntio ar gyflogadwyedd sy’n benodol i’r diwydiant a datblygiad proffesiynol sefydledig yn eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a’u dilyn, ac mae ein tîm gyrfaoedd ymroddedig yn eich cefnogi gyda cheisiadau a chyfweliadau.

Partneriaid diwydiant

Trwy gysylltiadau diwydiant ein staff addysgu a’n gwasanaethau gyrfaoedd eithriadol, gallwn eich cysylltu ag ystod o bartneriaid diwydiant sy’n cyflwyno darlithoedd gwadd a chymorth gyda phrosiectau a lleoliadau. Mae ein digwyddiad Dyfodol Gwyddoniaeth yn croesawu cynrychiolwyr o amrywiaeth o sefydliadau allweddol megis y GIG a Gwasanaethau Fferyllol PCI. Mae hyn yn eich galluogi i ymgysylltu â darpar gyflogwyr, gan archwilio opsiynau gyrfa a meithrin perthnasoedd a allai agor drysau yn nes ymlaen.

Blwyddyn Ryngosod

Mae blwyddyn ryngosod yn eich galluogi i gymhwyso'r wybodaeth a enillwyd yn ystod eich gradd i sefyllfaoedd gwaith yn y byd go iawn. Byddwch yn rhoi set sgiliau trosglwyddadwy i chi'ch hun ac yn ennill profiad gwaith amhrisiadwy a fydd yn eich helpu i sefyll allan i ddarpar gyflogwyr mewn ceisiadau am swyddi yn y dyfodol. Mae blwyddyn ryngosod hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio ac, os ydych yn creu argraff ar eich cyflogwr, efallai y byddwch hyd yn oed yn canfod bod gennych swydd yn aros amdanoch pan fyddwch yn graddio. Mae llawer o gyflogwyr yn hoffi cyflogi gweithwyr ymroddedig fel y dangosir trwy gynllun lleoliad blwyddyn ryngosod.

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BCC i gynnwys Cemeg ac fel arfer un Wyddoniaeth arall, ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS).
  • Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC ar Lefel A i gynnwys Cemeg ac fel arfer un Wyddoniaeth arall, ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS).
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol i gynnwys modiwlau Cemeg (mae hyn yn cyfateb i 112 pwynt tariff UCAS).
  • Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS

Gofynion Ychwanegol:

  • Gofynion Gwyddoniaeth Nodweddiadol: Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll Lefel A Gwyddoniaeth yn Lloegr basio'r elfen ymarferol ochr yn ochr â chyflawni'r radd (iau) y gofynnwyd amdani.
  • Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

* Rhwymedig 

Anogir myfyrwyr i gael cot labordy cotwm addas eu hunain ar gyfer gweithio mewn labordy cemegol, a phâr o goglau labordy amddiffynnol personol, er bod yr Adran yn darparu'r cyfarpar diogelu personol hyn. Gall myfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau prosiect seiliedig ar ddiwydiant, mewn nifer fach o achosion, orfod cael offer diogelu personol ychwanegol fel y nodir gan y sefydliad neu'r cwmni penodol.

Cost: £30

Yn dibynnu ar gyllideb/dewis y myfyriwr

Cost: Amrywiol

Yn dibynnu ar leoliad y preswylfa

Cost: Amrywiol

Nid yw lleoliadau'n orfodol i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen BSc Gwyddor Fferyllol. Os bydd myfyrwyr yn llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant, gellir gwneud trefniadau i drosglwyddo i'r rhaglen rhyngosod ar gyfer BSc Gwyddor Fferyllol. Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy'n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant dalu eu costau teithio eu hunain i'r lleoliad ac oddi yno yn ystod cyfnod y lleoliad. Bydd cost hyn yn amrywio, ac efallai y bydd angen i rai myfyrwyr dalu am lety yn agos i'w gweithle ar gyfer cyfnod y lleoliad.

Cost: Amrywiol

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.