Gwyddor Fferyllol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen
Darganfyddwch sut i ddylunio, datblygu a gwerthuso cyffuriau therapiwtig sy'n achub bywydau wrth feistroli gwybodaeth wyddonol uwch a thechnegau ymarferol. Gweithiwch gydag offer labordy arloesol ac enillwch y sgiliau ymarferol a'r mewnwelediad sydd eu hangen i lansio gyrfa yn y diwydiant fferyllol deinamig ac effeithiol.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
F15F
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£5,760*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae angen graddedigion ar y diwydiant fferyllol sydd â gwybodaeth wyddonol gref, sgiliau labordy ymarferol, a dealltwriaeth glir o brosesau'r diwydiant. Mae'r radd hon yn meithrin eich arbenigedd a'ch gallu i ddatrys problemau, gan roi'r hyder i chi addasu, arloesi a llwyddo mewn amgylchedd byd go iawn sy'n symud yn gyflym.
Cynlluniwyd Ar Gyfer
Os ydych chi'n chwilfrydig ynghylch gwyddoniaeth ac yn awyddus i wneud gwahaniaeth, mae'r radd hon yn eich rhoi wrth wraidd y diwydiant fferyllol. Enillwch y sgiliau, y profiad a'r mewnwelediad sydd eu hangen arnoch i adeiladu gyrfa werth chweil ac effeithiol.
Llwybrau Gyrfa
- Swyddi rheoli/sicrwydd ansawdd
- Ymchwil a datblygu yn y maes fferyllol/clinigol/biotechnoleg
- Swyddi Materion Rheoleiddio
- Swyddi Gwerthu/Cefnogi Technegol
- GIG (gwyddonydd labordy/technegydd labordy)
Sgiliau a Addysgir
- Datrys problemau / meddwl yn feirniadol
- TG / Digidol
- Cyfathrebu
- Ymwybyddiaeth fasnachol/rheoli prosiectau
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Yn eich Blwyddyn Sylfaen, byddwch yn archwilio bioleg, cemeg, a heriau'r byd go iawn, yn meithrin sgiliau ymarferol, academaidd, a gwaith tîm, ac yn datblygu chwilfrydedd, hyder, a galluoedd datrys problemau i baratoi ar gyfer astudiaeth ac effaith yn y dyfodol.
Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.
Gwyddor Bywyd: Sylfeini Bioleg
Byddwch yn archwilio egwyddorion biolegol craidd o foleciwlau i organebau cyfan, yn datblygu sgiliau labordy ymarferol, ac yn defnyddio enghreifftiau o'r byd go iawn i gefnogi eich dysgu a'ch paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yn y gwyddorau bywyd.
Cemeg ar Waith: Gwyddoniaeth Sy'n Llunio'r Byd
Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o gysyniadau cemegol allweddol, o foleciwlau i adweithiau, yn meithrin sgiliau labordy ymarferol, ac yn ennill profiad hanfodol i gefnogi eich astudiaethau gwyddonol yn y dyfodol.
Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.
Sut byddwch chi'n cael eich asesu
Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.
Lleoliadau
Fe allech chi gymryd blwyddyn ryngosod mewn diwydiant neu leoliad haf byrrach, gwirfoddoli, neu brofiad ar-lein. Byddwch chi'n ymuno â'n Hacademi Ymarfer Proffesiynol, gan gymryd rhan mewn gweithgareddau gwaith tîm a gweithdai i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn y gweithle. Mae tîm Lleoliadau Gwaith ymroddedig PDC yn darparu ystod o gyfleoedd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth trwy Cyswllt Gyrfaoedd, a bydd gennych chi fentor academaidd i'ch tywys a'ch cefnogi drwy gydol eich lleoliad.
Cyfleusterau
Rydym yn buddsoddi'n rheolaidd yn ein cyfleusterau gwyddor fferyllol i sicrhau eu bod nhw'n cyfateb i'r rhai a geir mewn diwydiant. Byddwch chi'n gwneud defnydd llawn o'r labordai drwy gydol eich cwrs ac yn ennill profiad ymarferol o ddefnyddio pob math o offeryniaeth ac offer dadansoddol. Mae gennym ni labordai cemeg organig, anorganig a ffisegol pwrpasol, yn ogystal â sawl labordy offeryniaeth sy'n cynnwys cromatograffau, sbectromedrau, offerynnau ar gyfer profi ansawdd a mwy. Cefnogir ein cyfleusterau labordy gan ystod o offer ac adnoddau ar-lein manyleb uchel.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: DD, 48 pwynt Tariff UCAS i gynnwys un Lefel A mewn pwnc Gwyddoniaeth perthnasol ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
- Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio neu Diploma BTEC Pasio Pasio mewn pwnc perthnasol.
- Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
- Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£5,760
fesul blwyddyn*£17,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.
(Nid yw’n orfodol) yn cynnwys prynu côt labordy. Mae’r Brifysgol hefyd yn darparu côt a sbectols diogelwch. Am ddim.
Cost: £30
Yn dibynnu ar gyllideb/dewis y myfyriwr
Cost: Amrywiol
Yn dibynnu ar leoliad y preswylfa
Cost: Amrywiol
Bwrsariaeth Offer Cwrs
Fel myfyriwr BSc (Anrh) Gwyddor Fferyllol, byddwch yn derbyn gôt labordy a gogls brand USW pan fyddwch yn cofrestru, i'ch cefnogi gyda chostau'r cwrs.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.