BSc (Anrh)

Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Cemeg feddyginiaethol a biolegol yw sylfeini meddygaeth fodern. Mae’r cwrs hwn yn cynnwys gwyddoniaeth sy’n wirioneddol amlddisgyblaethol.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    FC18

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Byddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dilyn gyrfaoedd o fewn y sectorau fferyllol / biodechnolegol neu Ofal Iechyd, gan weithio yn y rhan o’r diwydiant sy’n ymwneud â chleifion ond heb weithio’n uniongyrchol â nhw.

Llwybrau Gyrfa

  • Gwyddonydd Ymchwil – h.y. ymchwil a datblygiad ym maes fferyllol/clinigol/biofeddygol/biodechnolegol
  • Gwyddonydd/Technegydd Labordy – o fewn y GIG neu Ddiwydiant Fferyllol 
  • Gofal Iechyd
  • Gwyddonydd Dadansoddol
  • Addysg

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau Labordy
  • Sgiliau Meddwl yn Feirniadol/Datrys Problemau
  • Sgiliau Cyfathrebu
  • Sgiliau Digidol a TG
  • Rheoli Prosiect

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cwrs gwyddoniaeth amlddisgyblaethol

Mae gan y cwrs wreiddiau cryf mewn cemeg/fferylliaeth a bioleg; felly, mae myfyrwyr yn gallu cael yr un budd o’r wybodaeth a’r cyfleoedd gyrfa a gynigir gan y ddau faes pwnc.

Cyfleoedd lleoliad

Mae ein rhaglen yn annog myfyrwyr i ystyried cyfleoedd byrdymor yn ystod yr haf a lleoliadau sy’n parhau am flwyddyn, a chaiff y rhain eu hyrwyddo trwy wasanaethau gyrfaol Prifysgol De Cymru a digwyddiadau eraill.

Cwricwlwm cydweithredol

Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar anghenion sgiliau’r dysgwyr a’r cyflogwyr, gyda phroses ddatblygu sydd â thystiolaeth dda a arweinir gan y farchnad.

Dysgu trawsnewidiol, addysgu, a phrofiad myfyrwyr

Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar gyflwyno sgiliau ymarferol sy’n datrys problemau ac yn gwella cyflogadwyedd.

Trosolwg o’r Modiwl

Nod y cwrs yw rhoi sylfaen eang a chytbwys o wybodaeth wyddonol i fyfyrwyr ym meysydd cemeg a bioleg, sgiliau ymarferol, ac ymwybyddiaeth o ddiwydiant. Mae hefyd yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr, megis sgiliau meddwl beirniadol / datrys problemau, sgiliau cyfathrebu ac ymchwil academaidd, gyda phob un ohonynt yn gymesur â rhaglen gradd anrhydedd.

Mae Blwyddyn Sylfaen (Lefel 3) yn rhoi sylfaen ardderchog ym meysydd cemeg, bioleg, datrys problemau, a’r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i ymgymryd â gradd israddedig yn y maes pwnc hwn.

Sylfeini Cemeg Organig ac Anorganig

Cyflwyno cysyniadau sylfaenol cemeg anorganig ac organig.

Sylfeini Cemeg Ffisegol

Cyflwyno’r ffactorau sy’n dylanwadu ar strwythur, adweithiau a phriodweddau ffisegol y cyflyrau mater, ac astudio agweddau sy’n darparu astudiaeth bellach o ffenomenau a phrosesau cemegol.

Llythrennedd Data Gwyddonol

Cymhwyso a deall ffwythiannau ac offer mathemategol syml, er mwyn gwerthfawrogi rôl mathemateg o fewn y gwyddorau.

Bioleg Sylfaen

Darparu gwybodaeth sylfaenol am bethau byw, a’r prosesau sy’n eu galluogi i oroesi ac atgenhedlu.

Cyflwyniad i Anatomeg a Ffisioleg

Rhoi cyflwyniad i astudio’r corff dynol.

Sgiliau Allweddol a Datblygiad Proffesiynol

Darparu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch i gwblhau gradd mewn gwyddoniaeth.

Mae Blwyddyn Un (Lefel 4) yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudio yn y dyfodol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn datblygu gwybodaeth gadarn a sgiliau ymarferol mewn cemeg (organig/ffisegol/anorganig) a bioleg (geneteg/biofoleciwlau/bioleg celloedd/anatomeg).

Sgiliau Allweddol ar gyfer Gyrfaoedd yn y Gwyddorau

Cynlluniwyd y modiwl hwn i ddatblygu a chefnogi defnydd y myfyriwr o sgiliau cwrs-benodol yng nghyd-destun y sectorau cemegol / fferyllol / gwyddor bywyd.

Cysyniadau Cemegol

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno hanfodion cemeg ffisegol ac anorganig.

Moleciwlau Organig: eu Strwythur, Adweithedd a Dadansoddiad

Cynlluniwyd y modiwl hwn i ddatblygu a chefnogi’r modd y mae myfyrwyr yn rhoi cysyniadau sylfaenol ar waith ym meysydd cemeg organig a dadansoddol.

Amrywiaeth Bywyd

Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr am bethau byw, a’r prosesau sy’n eu galluogi i oroesi ac atgenhedlu. Mae hefyd yn eu cyflwyno i’r prosesau esblygiadol sy’n arwain at amrywiaeth y byd byw sydd ohoni.

Anatomeg, Ffisioleg, a Biocemeg

Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg syml i fyfyrwyr o strwythur trefniadol a swyddogaeth y corff dynol.

Geneteg ac Esblygiad

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion a’r cysyniadau craidd ar gyfer geneteg a theori esblygiad.

Mae Blwyddyn Dau (Lefel 5) yn rhoi sgiliau damcaniaethol/ymarferol pellach i fyfyrwyr mewn synthesis/cemeg ddadansoddol a geneteg/clefyd/patholeg celloedd. Bydd myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaethau/sgiliau dadansoddol i ddatrys problemau. Cânt eu hannog hefyd i gynllunio ymchwiliadau/gwerthuso data/myfyrio ar ganlyniadau.

Technegau Dadansoddi ac Adnabod Modern

Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac ennill sgiliau ymarferol gan ddefnyddio technegau dadansoddol modern, gan gynnwys paratoi samplau, a dehongli data.

Cemeg Organig Synthetig a Heterogylchol

Mae’r modiwl hwn yn ymestyn gwybodaeth myfyrwyr ym maes trawsffurfiad synthetig/cemeg heterogylchol ac yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio dadansoddiad retrosynthetig a strategaethau synthetig addas ar gyfer datblygu ac ymchwilio i gyffuriau a chyfansoddion o werth masnachol.

Cemeg Bioanorganig

Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ac yn datblygu cysyniadau o amgylch strwythur ffisegol ac electronig y cyfansoddion sy’n cydsymud a hynny yng nghyd-destun systemau bioanorganig. Mae’n rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i gyfansoddion anorganig sy’n berthnasol yn fiolegol ynghyd â’u swyddogaethau o fewn systemau naturiol gan gynnwys y rôl y maent yn ei chwarae yn y corff dynol.

Patholeg Gellog a Phrosesau Clefydau

Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r newidiadau patholegol sy’n gysylltiedig â phrosesau clefydau, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar strwythur a swyddogaeth celloedd ac organau.

Micro-organebau a Chlefydau

Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ryngweithiadau dynol ag amrywiaeth eang o ficro-organebau – rhai buddiol a rhai niweidiol.

Geneteg Foleciwlaidd Ddynol

Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i eneteg foleciwlaidd a’r sail enetig i anhwylderau rhyng-gysylltiedig. Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn deall y cymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol a berthyn i’r technegau allweddol a ddefnyddir ym maes bioleg foleciwlaidd wrth astudio geneteg, a’u pwysigrwydd i anhwylderau genetig dynol.

Bydd Blwyddyn Tri (Lefel 6) yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol uwch/sgiliau ymarferol i fyfyrwyr mewn perthynas â syntheseiddio/fformiwleiddio/dylunio cyffuriau a biocemeg glinigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr. Bydd myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer byd gwaith trwy weithdai ar faterion sy’n ymwneud â chyflogadwyedd megis CV/Digwyddiad Dyfodol Gwyddoniaeth/Proffil LinkedIn ac ati, fel rhan o fodiwl y prosiect.

Arferion a Lleoliadau Proffesiynol

Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gwblhau “lleoliad rhyngosod” am flwyddyn o hyd fel rhan o’r rhaglen radd. Gall hyn gynnwys: lleoliad gwaith gyda chyflogwr yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, neu astudio dramor gyda phrifysgol bartner.

Mae Blwyddyn Pedwar y rhaglen ryngosod (Lefel 6) yn darparu myfyrwyr â gwybodaeth ddamcaniaethol uwch/sgiliau ymarferol mewn syntheseiddio/fformiwleiddio/dylunio cyffuriau a biocemeg glinigol. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio eu lleoliad rhyngosod fel sail i’w prosiect ymchwil mawr yn ystod eu blwyddyn olaf. Bydd myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer byd gwaith trwy weithdai ar faterion sy’n ymwneud â chyflogadwyedd megis CV/Digwyddiad Dyfodol Gwyddoniaeth/Proffil LinkedIn ac ati, fel rhan o fodiwl y prosiect.

Prosiect Mawr a Datblygu Gyrfa

Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol y myfyriwr (e.e. astudio/ymchwilio/ymarfer gwaith, cynllunio, trefnu, cadw cofnodion, asesu beirniadol, rhoi cyflwyniad llafar/poster ac ysgrifennu adroddiadau, ac ati), trwy alluogi’r myfyriwr i gymryd rhan weithredol mewn prosiect gwyddonol o bwys ar lefel broffesiynol. Mae hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau proffesiynol ar lefel gradd, megis ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch, myfyrdod beirniadol o ddatblygiad sgiliau, cynllunio targedau, sgiliau cydweithredol, ac ati.

Cemeg Organig Uwch

Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i’r myfyrwyr o’r theori a’r cymwysiadau sy’n ymwneud ag adweithiau perigylchol, synthesis anghymesur a metelau trosiannol mewn synthesis organig.

Dylunio Cyffuriau Uwch a Chyflwyniad i Wyddoniaeth Fformiwleiddio

Mae’r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth o’r prosesau y mae diwydiant yn eu defnyddio i ddylunio darpar gyffuriau a’r wyddoniaeth foleciwlaidd y tu ôl i weinyddu cyffuriau yn ddiogel/effeithiol (ac mewn modd a dargedwyd). Mae hefyd yn cyflwyno myfyrwyr i bynciau newydd sef modelu cyfrifiadurol a chemeg bolymer a osodwyd yng nghyd-destun y modiwl dan sylw. Trwy’r modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn datblygu gwerthfawrogiad o’r anawsterau ymarferol wrth symud darganfyddiadau/synthesisau o raddfa labordy i raddfa fwy swmpus.

Tocsicoleg

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i’r egwyddorion sylfaenol wrth wraidd effeithiau tocsicolegol y sylweddau dan sylw.

Biocemeg a Ffarmacoleg Glinigol

Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth o rôl gwahanol lwybrau biocemegol mewn clefydau ac anhwylderau metabolaidd penodol ac mae’n egluro rôl technegau labordy wrth wneud diagnosis o’r anhwylderau hyn.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyflwyno ac Asesu

Defnyddir dull dysgu ac addysgu cyfunol i ddarparu sgiliau pwnc-benodol ac allweddol i fyfyrwyr. Yn nodweddiadol, mae modiwlau’n cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, a sesiynau ymarferol mewn labordai.

Darperir gweithgareddau dysgu niferus i fyfyrwyr gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, gwaith grŵp, sesiynau labordy/ymarferol (gyda meintiau grwpiau wedi’u teilwra i’r gweithgaredd), sesiynau datrys problemau, aseiniadau hunan-astudio, cyflwyniadau llafar a phoster, astudio annibynnol, dysgu cysylltiedig â gwaith, hunanasesiadau ar-lein ac ati.

Staff Addysgu

Mae’r staff addysgu yn defnyddio diddordebau ymchwil a gweithgarwch ysgolheigaidd i gyfoethogi’u darlithoedd a’u gwaith labordy ac i ddatblygu prosiectau blwyddyn olaf. Yn gyffredinol, mae prosiectau blwyddyn olaf yn aml o natur wyddonol gymhwysol neu’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau synthetig ac offeryniaeth ddadansoddol yn unol â diddordebau ymchwil y staff addysgu unigol.

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Anogir myfyrwyr i ymgymryd â lleoliad gwaith, naill ai fel eu blwyddyn ryngosod neu brosiect blwyddyn olaf, ac mae’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny yn cael eu cefnogi gan Dîm Lleoliadau Gwaith a Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau cemeg / dadansoddol / bioleg ar yr un lefel â’r rhai a geir mewn diwydiant. Gwna’r myfyrwyr ddefnydd llawn o’r labordai yn ystod eu hastudiaethau a chânt brofiad ymarferol o ddefnyddio’r offer dadansoddi helaeth. Mae ein labordai wedi’u hadeiladu i’r safonau diogelwch diweddaraf ac yn darparu ar gyfer dosbarthiadau o faint cymedrol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad ymarferol mwy personol.

Mae’r cyfleusterau cemeg yn cynnwys dau labordy mawr sy’n cynnwys offer cyffredinol ac mae’n gartref i rai o’r offer dadansoddol a ddefnyddir amlaf, yn ogystal â dau labordy arbenigol ar gyfer perfformio sbectrometreg cyseiniant magnetig niwclear a defnyddio microsgop electron sganio.

Mae’r labordai bioleg ar eu newydd wedd yn cynnwys: labordai microbioleg categori II sydd newydd eu hadeiladu; cyfleusterau ar gyfer trin dadansoddwyr organebau pathogenig PCR a DNA; ystod eang o fodelau anatomegol ar gyfer addysgu Anatomeg a Ffisioleg; a labordai microsgopeg pwrpasol gyda mynediad i ficrosgopeg electron.

Pam PDC?

A close up of a scientist wearing a blue glove using a pipette to add liquid into a test tube

Pam PDC?

Mae cyrsiau cemeg Prifysgol De Cymru wedi’u gosod ymhlith y 5 uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr (Complete University Guide 2023)


Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Bydd graddedigion yn barod ar gyfer gyrfa fel gwyddonydd, ymchwilydd neu dechnegydd yn y gwyddorau bywyd, sy’n cynnwys y diwydiannau fferyllol a biodechnolegol. Gallech chwilio am gyfleoedd yn y diwydiannau cemegol neu gyflogaeth sy’n gysylltiedig â meddygaeth. Byddwch hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy fel rhan o’ch astudiaethau, gan gynnwys datrys problemau dadansoddol, gweithio fel rhan o dîm a chyfathrebu. Fel y cyfryw, gall graddedigion ym maes gwyddoniaeth ddod o hyd i gyflogaeth mewn disgyblaethau amgen megis addysgu, rheolaeth, y gyfraith, cyllid a busnes. Gall graddedigion hefyd symud ymlaen i a PhD neu radd ymchwil.

Llwybrau gyrfa posibl

Mae cyflogwyr yn sôn yn rheolaidd am sgiliau dadansoddi rhagorol ein graddedigion, sgiliau a gyfoethogwyd gan brofiad ymarferol o offeryniaeth sy’n cyrraedd y safonau a geir mewn diwydiant. Gallai’r radd Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol hefyd arwain at yrfaoedd yn y diwydiannau cemegol, clinigol a gofal iechyd (e.e. mae’r rolau sydd ar gael yn cynnwys gwyddonydd ymchwil, cemegydd deunyddiau, gwyddonydd labordy yn y GIG. At hynny, mae opsiynau ar gyfer astudiaethau pellach ar gael i fyfyrwyr ar ôl graddio megis MSc/PhD a TAR (rhaglenni addysgu).

Cymorth gyrfaoedd

Byddwch yn cael mynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd trwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.

Mae hyn yn cynnwys: apwyntiadau un-i-un ag Ymgynghorwyr Gyrfa o fewn y gyfadran, yn bersonol, dros y ffôn neu hyd yn oed ar Skype a thrwy e-bost i’r gwasanaeth "Gofyn Cwestiwn". Mae gennym hefyd adnoddau ar-lein helaeth i’ch helpu i ystyried eich opsiynau gyrfaol a chyflwyno’ch hun yn dda i gyflogwyr. Mae adnoddau’n cynnwys profion seicometrig, asesiadau gyrfa, lluniwr CV, efelychydd cyfweliad, a chymorth i wneud cais. Mae gan ein cronfa ddata dros 2,000 o gyflogwyr cofrestredig sy’n targedu myfyrwyr PDC, a gallwch dderbyn e-byst i’ch hysbysu o swyddi bob wythnos.

Mae gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd dimau penodol: Tîm Profiad Gwaith Canolog i’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; Tîm Datblygu Cyflogadwyedd; a Thîm Menter sy’n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth.

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD, 48 pwynt Tariff UCAS i gynnwys pwnc Gwyddoniaeth perthnasol ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Pas Pas Pas neu Diploma BTEC Pas Pas mewn pwnc perthnasol
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU mewn Gwyddoniaeth gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS

Gofynion Ychwanegol:

Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gael eu côt labordy cotwm a gogls labordy amddiffynnol personol eu hunain, rhai sy’n addas i’w defnyddio mewn labordai cemegol a biolegol, er bod PDC yn darparu’r eitemau hyn.

Cost: Tua £40

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Bywyd yn PDC

Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.