Cemeg Feddyginiaethol a Biolegol
Cemeg feddyginiaethol a biolegol yw sylfeini meddygaeth fodern. Mae’r cwrs gwyddoniaeth hwn yn ymdrin ag elfennau sy’n wirioneddol amlddisgyblaethol. Nid yw'r cwrs hwn bellach yn derbyn ceisiadau ar gyfer 2024.
Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niByddwch yn astudio cemeg, tocsicoleg, bioleg, ffisioleg, biocemeg a ffarmacoleg i ddeall y cysylltiadau rhwng clefyd dynol a’r modd i’w atal a’i drin trwy ddylunio cyffuriau. Er mwyn eich paratoi ar gyfer y gweithle, mae’r cwrs hwn yn cynnwys llawer iawn o ddysgu sy’n seiliedig ar waith efelychiadol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau dilyn gyrfaoedd o fewn y sectorau fferyllol / biodechnolegol neu Ofal Iechyd, gan weithio yn y rhan o’r diwydiant sy’n ymwneud â chleifion ond heb weithio’n uniongyrchol â nhw.
Llwybrau Gyrfa
- Gwyddonydd Ymchwil – h.y. ymchwil a datblygiad ym maes fferyllol/clinigol/biofeddygol/biodechnolegol
- Gwyddonydd/Technegydd Labordy – o fewn y GIG neu Ddiwydiant Fferyllol
- Gofal Iechyd
- Gwyddonydd Dadansoddol
- Addysg
Sgiliau a addysgir
- Sgiliau Labordy
- Sgiliau Meddwl yn Feirniadol/Datrys Problemau
- Sgiliau Cyfathrebu
- Sgiliau Digidol a TG
- Rheoli Prosiect
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Nod y cwrs yw rhoi sylfaen eang a chytbwys o wybodaeth wyddonol i fyfyrwyr ym meysydd cemeg a bioleg, sgiliau ymarferol, ac ymwybyddiaeth o ddiwydiant. Mae hefyd yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr, megis sgiliau meddwl beirniadol / datrys problemau, sgiliau cyfathrebu ac ymchwil academaidd, gyda phob un ohonynt yn gymesur â rhaglen gradd anrhydedd.
Mae Blwyddyn Un (Lefel 4) yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer astudio yn y dyfodol, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn datblygu gwybodaeth gadarn a sgiliau ymarferol mewn cemeg (organig/ffisegol/anorganig) a bioleg (geneteg/biofoleciwlau/bioleg celloedd/anatomeg).
Sgiliau Allweddol ar gyfer Gyrfaoedd yn y Gwyddorau
Cynlluniwyd y modiwl hwn i ddatblygu a chefnogi defnydd y myfyriwr o sgiliau cwrs-benodol yng nghyd-destun y sectorau cemegol / fferyllol / gwyddor bywyd.
Cysyniadau Cemegol
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno hanfodion cemeg ffisegol ac anorganig.
Moleciwlau Organig: eu Strwythur, Adweithedd a Dadansoddiad
Cynlluniwyd y modiwl hwn i ddatblygu a chefnogi’r modd y mae myfyrwyr yn rhoi cysyniadau sylfaenol ar waith ym meysydd cemeg organig a dadansoddol.
Amrywiaeth Bywyd
Mae’r modiwl hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr am bethau byw, a’r prosesau sy’n eu galluogi i oroesi ac atgenhedlu. Mae hefyd yn eu cyflwyno i’r prosesau esblygiadol sy’n arwain at amrywiaeth y byd byw sydd ohoni.
Anatomeg, Ffisioleg, a Biocemeg
Mae’r modiwl hwn yn rhoi trosolwg syml i fyfyrwyr o strwythur trefniadol a swyddogaeth y corff dynol.
Geneteg ac Esblygiad
Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r egwyddorion a’r cysyniadau craidd ar gyfer geneteg a theori esblygiad.
Mae Blwyddyn Dau (Lefel 5) yn rhoi sgiliau damcaniaethol/ymarferol pellach i fyfyrwyr mewn synthesis/cemeg ddadansoddol a geneteg/clefyd/patholeg celloedd. Bydd myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaethau/sgiliau dadansoddol i ddatrys problemau. Cânt eu hannog hefyd i gynllunio ymchwiliadau/gwerthuso data/myfyrio ar ganlyniadau.
Technegau Dadansoddi ac Adnabod Modern
Mae’r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac ennill sgiliau ymarferol gan ddefnyddio technegau dadansoddol modern, gan gynnwys paratoi samplau, a dehongli data.
Cemeg Organig Synthetig a Heterogylchol
Mae’r modiwl hwn yn ymestyn gwybodaeth myfyrwyr ym maes trawsffurfiad synthetig/cemeg heterogylchol ac yn galluogi myfyrwyr i ddefnyddio dadansoddiad retrosynthetig a strategaethau synthetig addas ar gyfer datblygu ac ymchwilio i gyffuriau a chyfansoddion o werth masnachol.
Cemeg Bioanorganig
Mae’r modiwl hwn yn adeiladu ac yn datblygu cysyniadau o amgylch strwythur ffisegol ac electronig y cyfansoddion sy’n cydsymud a hynny yng nghyd-destun systemau bioanorganig. Mae’n rhoi cyflwyniad cynhwysfawr i gyfansoddion anorganig sy’n berthnasol yn fiolegol ynghyd â’u swyddogaethau o fewn systemau naturiol gan gynnwys y rôl y maent yn ei chwarae yn y corff dynol.
Patholeg Gellog a Phrosesau Clefydau
Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o’r newidiadau patholegol sy’n gysylltiedig â phrosesau clefydau, a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar strwythur a swyddogaeth celloedd ac organau.
Micro-organebau a Chlefydau
Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth i fyfyrwyr o ryngweithiadau dynol ag amrywiaeth eang o ficro-organebau – rhai buddiol a rhai niweidiol.
Geneteg Foleciwlaidd Ddynol
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i eneteg foleciwlaidd a’r sail enetig i anhwylderau rhyng-gysylltiedig. Ar ôl cwblhau’r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn deall y cymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol a berthyn i’r technegau allweddol a ddefnyddir ym maes bioleg foleciwlaidd wrth astudio geneteg, a’u pwysigrwydd i anhwylderau genetig dynol.
Bydd Blwyddyn Tri (Lefel 6) yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol uwch/sgiliau ymarferol i fyfyrwyr mewn perthynas â syntheseiddio/fformiwleiddio/dylunio cyffuriau a biocemeg glinigol. Bydd myfyrwyr hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mawr. Bydd myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer byd gwaith trwy weithdai ar faterion sy’n ymwneud â chyflogadwyedd megis CV/Digwyddiad Dyfodol Gwyddoniaeth/Proffil LinkedIn ac ati, fel rhan o fodiwl y prosiect.
Arferion a Lleoliadau Proffesiynol
Mae’r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gwblhau “lleoliad rhyngosod” am flwyddyn o hyd fel rhan o’r rhaglen radd. Gall hyn gynnwys: lleoliad gwaith gyda chyflogwr yn y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol, neu astudio dramor gyda phrifysgol bartner.
Mae Blwyddyn Pedwar y rhaglen ryngosod (Lefel 6) yn darparu myfyrwyr â gwybodaeth ddamcaniaethol uwch/sgiliau ymarferol mewn syntheseiddio/fformiwleiddio/dylunio cyffuriau a biocemeg glinigol. Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu defnyddio eu lleoliad rhyngosod fel sail i’w prosiect ymchwil mawr yn ystod eu blwyddyn olaf. Bydd myfyrwyr yn cael eu paratoi ar gyfer byd gwaith trwy weithdai ar faterion sy’n ymwneud â chyflogadwyedd megis CV/Digwyddiad Dyfodol Gwyddoniaeth/Proffil LinkedIn ac ati, fel rhan o fodiwl y prosiect.
Prosiect Mawr a Datblygu Gyrfa
Mae’r modiwl hwn yn datblygu sgiliau ymarfer proffesiynol y myfyriwr (e.e. astudio/ymchwilio/ymarfer gwaith, cynllunio, trefnu, cadw cofnodion, asesu beirniadol, rhoi cyflwyniad llafar/poster ac ysgrifennu adroddiadau, ac ati), trwy alluogi’r myfyriwr i gymryd rhan weithredol mewn prosiect gwyddonol o bwys ar lefel broffesiynol. Mae hefyd yn galluogi’r myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau proffesiynol ar lefel gradd, megis ymwybyddiaeth iechyd a diogelwch, myfyrdod beirniadol o ddatblygiad sgiliau, cynllunio targedau, sgiliau cydweithredol, ac ati.
Cemeg Organig Uwch
Mae’r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth fanwl i’r myfyrwyr o’r theori a’r cymwysiadau sy’n ymwneud ag adweithiau perigylchol, synthesis anghymesur a metelau trosiannol mewn synthesis organig.
Dylunio Cyffuriau Meddyginiaethol
Mae'r modiwl hwn yn dangos sut y gall egwyddorion cemegol ddarparu dealltwriaeth o fecanweithiau effaith cyffuriau, dyluniad cyffuriau moleciwl bach a'u synthesis. Mae pwyslais ar ddeall yr egwyddorion biolegol, ffisiocemegol a ffisiolegol sy'n gysylltiedig ag amsugno a dosbarthu cyffuriau, a phwysigrwydd hanfodol egwyddorion ffarmacocinetig a'u dylanwad ar effaith cyffuriau.
Pynciau mewn Cemeg Feddyginiaethol
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am bynciau cemeg uwch a chymhwysol sy'n sail i rai o'r agweddau cyfredol ar ddylunio cyffuriau modern a chemeg fferyllol.
Cynnydd Moleciwlaidd Modern
Datblygiadau therapiwtig a thechnolegol cyfredol a blaengar wedi'u datblygu ar gyfer ymarfer clinigol, diagnosis a rheoli clefydau.
Gofynion Mynediad
Mae’r meini prawf mynediad isod yn adlewyrchu ein gofynion mynediad safonol ar gyfer y cwrs ym mis Medi 2023. Fodd bynnag, caiff pob cais a dderbynnir gan y Brifysgol ei adolygu’n gyfannol ac yn unigol. Bydd y meini prawf mynediad ar gyfer Medi 2024 yn newid a chânt eu cyhoeddi ar ucas.com o 8 Mai 2023. Bydd meini prawf mynediad ar gyfer mis Medi 2024 yn cael eu diweddaru ar ein gwefan o ddiwedd mis Hydref 2023.
Safon Uwch
BCC - CDD gan gynnwys Cemeg a Bioleg ac eithrio Astudiaethau Cyffredinol (cyfwerth â 104-80 pwynt tariff UCAS).
Bagloriaeth Cymru
Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C/D yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC - CD Safon Uwch (cyfwerth â 104-80 pwynt tariff UCAS). Rhaid cynnwys modiwlau Bioleg a Chemeg a rhaid eithrio Astudiaethau Cyffredinol.
BTEC
Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod - Teilyngdod Teilyngdod Pasio mewn pwnc perthnasol y mae’n rhaid iddo gynnwys modiwlau Bioleg a Chemeg (mae hyn gyfwerth â 112-80 pwynt tariff UCAS).
Mynediad i AU
Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth a chael o leiaf 80 pwynt tariff UCAS.
TGAU
Mae’r Brifysgol fel arfer yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg Gradd C neu Radd 4 neu uwch, neu eu cyfwerth, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Gofynion Ychwanegol
Bydd angen i ymgeiswyr sy’n astudio Gwyddoniaeth Safon Uwch yn Lloegr basio’r elfen ymarferol ochr yn ochr ag ennill y radd/graddau gofynnol.
Ffioedd a Chyllid
Cefnogaeth ariannol ar gael
Mae nifer o opsiynau cymorth ariannol ar gael i unrhyw un sydd am astudio yn y Brifysgol. Mae opsiynau cymorth ariannol yn cynnwys benthyciadau, grantiau, ysgoloriaethau a bwrsariaethau. Dysgwch fwy am gymorth ychwanegol y gallech fod â hawl iddo.Cefnogaeth ariannol ar gael
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 104 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BCC gan gynnwys Cemeg a Bioleg ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
- Bagloriaeth Cymru: Pasio Diploma Bagloriaeth Uwch Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC ar Lefel A (mae hyn yn cyfateb i 104 pwynt tariff UCAS). Rhaid cynnwys modiwlau Bioleg a Chemeg ac nid yw'n cynnwys Astudiaethau Cyffredinol
- BTEC: Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Bioleg a Chemeg
- Mynediad i AU: Pasio Diploma Mynediad i AU mewn Gwyddoniaeth a chael o leiaf 104 pwynt tariff UCAS
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Gofynion Gwyddoniaeth Nodweddiadol: Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll Lefel A Gwyddoniaeth yn Lloegr basio'r elfen ymarferol ochr yn ochr â chyflawni'r radd (iau) y gofynnwyd amdani.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Eitem |
Cost |
Disgrifiad |
Cit / Offer |
Tua £40 |
Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gael eu côt labordy cotwm a gogls labordy amddiffynnol personol eu hunain, rhai sy’n addas i’w defnyddio mewn labordai cemegol a biolegol, er bod PDC yn darparu’r eitemau hyn. |
Lleoliad: Teithio |
Amrywiol |
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant dalu am eu costau teithio eu hunain i’r lleoliad ac oddi yno (a llety os oes angen) yn ystod cyfnod y lleoliad. |
Lleoliad: Cit / Offer |
Amrywiol |
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant i, mewn nifer fach o achosion, brynu offer diogelu personol ychwanegol fel y nodir gan y sefydliad neu’r cwmni penodol. |
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant dalu am eu costau teithio eu hunain i’r lleoliad ac oddi yno (a llety os oes angen) yn ystod cyfnod y lleoliad.
Cost: Amrywiol
Bydd disgwyl i’r myfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant i, mewn nifer fach o achosion, brynu offer diogelu personol ychwanegol fel y nodir gan y sefydliad neu’r cwmni penodol.
Cost: Amrywiol
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Cyflwyno ac Asesu
Defnyddir dull dysgu ac addysgu cyfunol i ddarparu sgiliau pwnc-benodol ac allweddol i fyfyrwyr. Yn nodweddiadol, mae modiwlau’n cynnwys cymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau, gweithdai, a sesiynau ymarferol mewn labordai.
Darperir gweithgareddau dysgu niferus i fyfyrwyr gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig, gwaith prosiect, gwaith grŵp, sesiynau labordy/ymarferol (gyda meintiau grwpiau wedi’u teilwra i’r gweithgaredd), sesiynau datrys problemau, aseiniadau hunan-astudio, cyflwyniadau llafar a phoster, astudio annibynnol, dysgu cysylltiedig â gwaith, hunanasesiadau ar-lein ac ati.
Staff Addysgu
Mae’r staff addysgu yn defnyddio diddordebau ymchwil a gweithgarwch ysgolheigaidd i gyfoethogi’u darlithoedd a’u gwaith labordy ac i ddatblygu prosiectau blwyddyn olaf. Yn gyffredinol, mae prosiectau blwyddyn olaf yn aml o natur wyddonol gymhwysol neu’n defnyddio amrywiaeth o dechnegau synthetig ac offeryniaeth ddadansoddol yn unol â diddordebau ymchwil y staff addysgu unigol.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Anogir myfyrwyr i ymgymryd â lleoliad gwaith, naill ai fel eu blwyddyn ryngosod neu brosiect blwyddyn olaf, ac mae’r rhai sy’n dymuno gwneud hynny yn cael eu cefnogi gan Dîm Lleoliadau Gwaith a Gwasanaeth Gyrfaoedd PDC.
Cyfleusterau
Mae cyfleusterau cemeg / dadansoddol / bioleg ar yr un lefel â’r rhai a geir mewn diwydiant. Gwna’r myfyrwyr ddefnydd llawn o’r labordai yn ystod eu hastudiaethau a chânt brofiad ymarferol o ddefnyddio’r offer dadansoddi helaeth. Mae ein labordai wedi’u hadeiladu i’r safonau diogelwch diweddaraf ac yn darparu ar gyfer dosbarthiadau o faint cymedrol i sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad ymarferol mwy personol.
Mae’r cyfleusterau cemeg yn cynnwys dau labordy mawr sy’n cynnwys offer cyffredinol ac mae’n gartref i rai o’r offer dadansoddol a ddefnyddir amlaf, yn ogystal â dau labordy arbenigol ar gyfer perfformio sbectrometreg cyseiniant magnetig niwclear a defnyddio microsgop electron sganio.
Mae’r labordai bioleg ar eu newydd wedd ac yn cynnwys: labordai microbioleg categori II sydd newydd eu hadeiladu; cyfleusterau ar gyfer trin dadansoddwyr organebau pathogenig PCR a DNA; ystod eang o fodelau anatomegol ar gyfer addysgu Anatomeg a Ffisioleg; a labordai microsgopeg pwrpasol gyda mynediad i ficrosgopeg electron.
Pam PDC?
Complete University Guide 2023
Complete University Guide 2023
Pam PDC?
Mae cyrsiau cemeg Prifysgol De Cymru wedi’u gosod ymhlith y 5 uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr.
-
Complete University Guide 2023
-
Complete University Guide 2023