Roedd pawb more garedig – roeddwn i’n teimlo fel aelod werthfawr o’r tîm, a nid fel myfyriwr.
Ennill profiad hanfodol tra ar leoliad
Helo, Lucy Greenwood ydw i, myfyriwr BA Dylunio Mewnol ym Mhrifysgol De Cymru. Ces i fy nhaflu i'r pen dwfn yn ystod fy lleoliad blwyddyn rhyngosod ac roeddwn bron yn syth yn gweithio ar brosiectau fel Gweinyddwr Cymorth Gwerthu a Dylunio ar y tîm bach yn Momentum Contract Furniture.
Gwneuthum ychydig o bopeth wrth weithio ochr yn ochr â’m mentor - ysgrifennais orchmynion prynu a gosodais archebion, siaradais a chyflenwyr, atebais alwadau ffôn a threfnais ddanfon samplau.
Roedd cael fy narn swyddogol gyntaf o’r post i’r swyddfa yn foment gofiadwy – roeddwn i wir yn teimlo fy mod yn rhan o’r tîm.
Mae gwerthwyr dodrefn yn aml yn gweithio law yn llaw a Dylunwyr Mewnol sy’n dod atyn nhw gyda chynlluniau ac sydd eisiau prynu’r dodrefn. Roedd yn wirioneddol agoriad llygad gweld beth mae gweithwyr dodrefn yn ei wneud, a helpodd i mi benderfynu beth roedd i’n ei hoffi a beth nad oeddwn i’n ei hoffi am y diwydiant, a beth oeddwn i’n dymuno o’m gyrfa.
Roedd gweithio mewn swyddfa mor fach yn teimlo’n brofiad mwy personol ac roeddwn i’n hoffi pa mor hamddenol oedd popeth, rhinweddau hoffwn i'w cael mewn swydd erbyn hyn. Roeddwn i hefyd yn hoffi hyblygrwydd y cwmni i roi’r cyfle i’m cydweithwyr weithio o gartref wrth gadw safon uchel o waith.
Trawsnewid heriau proffesiynol
Gyda chymorth fy mentor, datblygais sgiliau mathemateg well, gan ddysgu pryd i ddefnyddio hafaliadau penodol wrth wneud archebion prynu.
Roedd gweithio’n agos gyda arian ac archebion yn ddefnyddiol i mi oherwydd iddo roi dealltwriaeth i mi o gyllidebau bach a’r heriau sy’n eu hwynebu – rhywbeth rwy’n credu fydd yn allweddol i’m gyrfa. Mae gen i hefyd gyfoeth mawr o wybodaeth am gyflenwyr dodrefn a ffabrigau y gallaf eu defnyddio yn fy ngyrfa.
Dewch o hyd i'ch cwrsDewis lleoliad a chefnogaeth lleoliad
Ro’n i’n gwybod wrth ddewis cwrs prifysgol fy mod eisiau mynd ar leoliad. Sylwais ei bod yn bwnc mwy neilltuol ac roedd angen i mi fynd ar leoliad er mwyn gweld sut mae’r diwydiant yn gweithio a hefyd oherwydd byddai’n gwneud i fy CV sefyll allan i gyflogwyr. Mae fy lleoliad yn dangos fy mod wedi cymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfa ymarferol ac yn dangos fy mod yn gallu addasu i amgylcheddau proffesiynol.
Yn ystod y cyfnod cyn fy lleoliad, cefais lawer o sgyrsiau gyda’r academyddion cwrs i helpu i benderfynu beth fyddai’n addas i mi, a chefais yr holl wybodaeth oedd ei hangen arnaf gan Wasanaethau Dysgu Prifysgol De Cymru.
Roedd fy arweinydd cwrs mewn cysylltiad rheolaidd ac roedd yn dod i ymweld â mi yn y swyddfa i drafod pethau bob ychydig o fisoedd. Roedd Gwasanaethai Dysgu hefyd yn parhau i gysylltu â mi drwy gydol fy mlynyddoedd allan i sicrhau bod pethau’n mynd yn esmwyth.
Byddaf wastad yn ddiolchgar i fy arweinydd cwrs am roi fy enw ymlaen pan ofynnodd Momentum i PDC.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth fyfyrwyr y dyfodol?
Gall ymddangos yn heriol iawn, ond cymerwch y lleoliad. Byddwch yn weithredol, gofynnwch gwestiynau, cymrwch fenter, gwirfoddolwch ar gyfer tasgau, a chysylltwch â’ch cydweithwyr a’ch goruchwylwyr.
Ro’n i’n gwybod y byddai’r drydedd flwyddyn yn brawf o’r hyn yn gwella fy ngwaith ac yn gwthio ffiniau fy ngyrfa.
Diddordeb mewn Dylunio?
Mae ein cyrsiau dylunio yn cael eu creu gyda diwydiant mewn golwg a'n nod yw eich paratoi ar gyfer y gweithle erbyn i chi raddio.