Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (CYANA), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Plant Cymunedol (CYANPC), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
Pwrpas ein gradd Astudiaethau Plentyndod yw archwilio plentyndod o safbwynt byd-eang er mwyn datblygu neu gryfhau eich dealltwriaeth o ffactorau sy'n effeithio ar ddatblygiad cyfannol, iechyd a lles plant.
Bydd y radd hon yn rhoi cyfle i chi gael gwybodaeth fanwl mewn amrywiaeth o gyd-destunau, o fuddsoddi a masnachu mewn marchnadoedd ecwiti, i theori cyllid corfforaethol a bancio mewn cyd-destun rhyngwladol.
Archwiliwch y wyddoniaeth sylfaenol hon yn fanwl, gan ddarganfod y prosesau esblygiadol, ffisiolegol, moleciwlaidd ac ecolegol sy'n cymell holl fywyd ar y Ddaear. Gan gyfuno cyfleoedd gwaith maes rhagorol gyda chyfleusterau arloesol, byddwch chi’n ennill gwybodaeth eang, ac yna'n dewis arbenigo mewn pwnc yn y radd gynhwysfawr hon.
Mae ein cwrs unigryw yn gosod pwyslais cryf ar sgiliau maes, gan gynnig cyfleoedd am ddysgu trochi ar dri chyfandir. Byddwch yn datblygu eich sgiliau gwyddonol ar deithiau maes yn y DU a thrip preswyl pedair wythnos o hyd sy'n archwilio tirweddau gwahanol yn Ne Affrica. Bydd gennych ddewis hefyd i gymhwyso technegau ymchwil yng nghoedwigoedd trofannol a riffiau cwrel Asia neu De neu Ganolbarth America. Mae graddedigion wedi symud i weithio ym mhedwar ban byd, ar gyfer ymgynghoriaethau ecolegol, asiantaethau'r llywodraeth ac asiantaethau anllywodraethol, ymchwil, addysgu a sefydliadau bywyd gwyllt cenedlaethol a rhyngwladol.