Dychwelyd i Ymarfer
Mae'r cwrs Dychwelyd i Ymarfer hwn yn cynnig cyfle gwych i ddychwelyd i'r proffesiwn os ydych chi wedi cyflawni rôl nyrs gofrestredig o'r blaen.
Sut i wneud cais Archebu lle ar noson Agored Sgwrsio â ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/return-to-practice.png)
Manylion Cwrs Allweddol
Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.
DYLUNIWYD AR GYFER
Y rhai sydd wedi cyflawni rôl nyrs gofrestredig o'r blaen, sydd eisiau dychwelyd i ymarfer.
Achredir gan
- Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Llwybrau Gyrfa
- Nyrs Gofrestredig ym maes Iechyd Oedolion,
- Nyrs Gofrestredig ym maes Plant,
- Nyrs Gofrestredig ym maes Anableddau Dysgu
- Nyrs Gofrestredig ym maes Iechyd Meddwl
Sgiliau a addysgir
- Gwneud penderfyniadau
- Rheoli perthynas
- Asesu risg
- Arweinyddiaeth
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
- Cymorth Bywyd Sylfaenol
- Rheoli ymddygiad heriol gan gynnwys dad-ddwysáu, trais ac ymddygiad ymosodol.
- Rhagofalon cyffredinol
- Atal a rheoli heintiau, stiwardiaeth a gwrthiant gwrthficrobaidd, Techneg Aseptig, Di-gyffwrdd (ANTT)
- Trin â llaw
- MECC
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Cyflwynir y cwrs gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol, sy'n cynnwys cyfleoedd dysgu trochol, dysgu damcaniaethol a dysgu ymarfer.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/16-pontypridd-facilities/162-glyntaff-facilities/campus-facilities-glyntaff-nursing-adult-patient-simulator-49331.jpg)
Staff addysgu
Dyrennir Tiwtor Personol i chi i gynnig cymorth ac arweiniad gyda phob agwedd ar y cwrs. Bydd eich Tiwtor Personol yn cynnig goruchwyliaeth academaidd i chi hefyd i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich asesiadau damcaniaethol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/nursing/subject-nursing-facilities-ward-49338.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Rhaid bod gan ymgeiswyr gofrestriad sydd wedi darfod gyda'r NMC neu fod mewn sefyllfa lle na allant gwrdd â'r oriau ymarfer gofynnol i ailddilysu gyda'r NMC ac aros ar y gofrestr broffesiynol.
- Rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod ganddynt allu mewn rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol a thechnolegol i fodloni canlyniadau a hyfedredd y rhaglen.
- Bydd yn rhaid i ymgeiswyr hefyd ddangos eu bod yn cwrdd â gofynion iaith Saesneg NMC, os yw'n berthnasol.
- Yn ystod cais a chyfweliad gofynnir i bob ymgeisydd ddatgan ei fod o iechyd da a chymeriad da i alluogi ymarfer diogel ac effeithiol.
- Mae mynediad i'r cwrs yn dibynnu ar wiriad datgelu a gwahardd boddhaol (DBS) a sgrinio Iechyd Galwedigaethol.
- Os yw'ch cais yn cwrdd â'r meini prawf mynediad, cewch eich galw i gyfweliad ffurfiol. Bydd Alex Holmes, arweinydd y cwrs, a hwylusydd practis neu uwch nyrs yn eich cyfweld. Bydd y cyfweliad yn para oddeutu ugain munud a byddwch chi'n cael cyfle i ofyn cwestiynau.
Gofynion ychwanegol
- Gall ymgeiswyr wneud cais i gael eu dysgu a'u profiad blaenorol mewn perthynas â safonau hyfedredd, canlyniadau cyrsiau ac oriau ymarfer perthnasol fel cofrestrai cyfredol. Bydd y dystiolaeth a ddarperir gan bob ymgeisydd yn cael ei hasesu ar sail unigol gan Asesydd Academaidd ac Asesydd Ymarfer mewn cydweithrediad ag Arweinydd y Cwrs a gyda chymeradwyaeth yr Arholwr Allanol.
- Bydd y dystiolaeth yn cael ei mesur yn benodol yn erbyn Hyfedredd yr NMC (2018) ar gyfer nyrsys cofrestredig sy'n cynnwys Atodiad A - Sgiliau cyfathrebu a rheoli perthynas a sgiliau gweithdrefnol Nyrsio Atodiad B yn ogystal â chanlyniadau dysgu'r Modiwl a'r Cwrs.
- Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol
Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Bydd disgwyl i fyfyrwyr dalu am DBS neu dystysgrif ymddygiad da o'u mamwlad. Mae ffi’r DBS yn cynnwys £49.50 ar gyfer y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa’r Post a’r ffi gweinyddu ar-lein
Cost: £64.74
Bydd angen tanysgrifio ar gyfer pob blwyddyn o’r cwrs am ffi flynyddol o £16. Sylwer bod rhaid ymuno â’r gwasanaeth o fewn 30 niwrnod o dderbyn eich tystysgrif DBS Manylach.
Cost: £16
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.