Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg
Mae deall risgiau cymhleth a'r peryglon y maent yn eu hachosi, yn hanfodol i reoli diogeledd a rhwystro bygythiadau ar raddfa fyd-eang.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£11,060*
Myfyrwyr rhyngwladol
£17,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,229*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych eisoes yn gweithio ym maes diogeledd neu reoli risg, neu os oes gennych ddyheadau o weithio yn y maes, bydd ein MSc Diogeledd Rhyngwladol a Rheoli Risg yn eich helpu i gael gwybodaeth ddyfnach ac ymarferol am y risgiau a’r heriau diogeledd sy’n wynebu ein hoes, a datblygu atebion i fynd i'r afael â nhw.
Llwybrau Gyrfa
- Dadansoddwr Diogeledd Cenedlaethol
- Dadansoddwr Gwrthderfysgaeth
- Dadansoddwr Risg
- Arbenigwr Seiberddiogeledd
- Dadansoddwr Cudd-wybodaeth
Sgiliau a Addysgir
- Meddwl yn Feirniadol
- Casglu data
- Dadansoddi data
- Dadansoddi risg
- Cyfathrebu
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r cwrs hwn yn hynod hyblyg a gellir ei deilwra i'ch anghenion a'ch dewisiadau chi.
Bydd pob myfyriwr yn cwblhau 8 modiwl gwerth 180 credyd i gyd: 6 modiwl craidd (20 credyd yr un), 1 modiwl dewisol (20 credyd) a modiwl y traethawd hir (40 credyd).
Damcaniaethau a Dulliau Diogeledd Rhyngwladol
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o'r damcaniaethau a'r dulliau ar gyfer dadansoddi materion yn ymwneud â diogeledd cyfoes.
Terfysgaeth a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o ffenomen terfysgaeth, y cynnydd yn ei chymeriad rhyngwladol, a'r gwahanol ymatebion cenedlaethol ac Ewropeaidd i'r her hon.
Astudiaethau Cudd-wybodaeth
Bydd y modiwl hwn yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol y myfyrwyr o astudiaethau cudd-wybodaeth a’r cysyniadau a’r damcaniaethau cysylltiedig, er mwyn asesu’r rôl y gall cudd-wybodaeth ei chwarae wrth lunio polisi rhyngwladol a domestig ar gyfer lliniaru troseddau cyfundrefnol a therfysgaeth.
Rheoli a Dadansoddi Risg
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o’r penderfyniadau allweddol a wneir ac a weithredir mewn perthynas â rheoli a dadansoddi risg, ac o’r heriau a wynebir gan ddadansoddwyr wrth ymdrin ag elfennau mawr o ddata.
Diogeledd yr Undeb Ewropeaidd
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth feirniadol y myfyrwyr am ddatblygiad, gweithrediad ac effaith y modd y mae’r Undeb Ewropeaidd yn cydweithredu ar ddiogeledd, gan gynnwys ei agweddau sefydliadol a’i ddull o wneud penderfyniadau.
Llywodraethu a Diogelu Gofod Seiber
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gwybodaeth y myfyrwyr am y materion cyfreithiol, cymdeithasol-ddiwylliannol a moesegol allweddol o fewn llywodraethiant a diogeledd y gofod seiber.
Diogeledd Rhyngwladol mewn Perthynas â Chyffuriau, Troseddau Cyfundrefnol a Masnachu Pobl
Bydd y modiwl hwn yn datblygu gallu’r myfyrwyr i werthuso'n feirniadol yr heriau diogeledd allweddol a wynebir gan wladwriaethau a sefydliadau rhyngwladol mewn perthynas â chyffuriau, troseddau cyfundrefnol a masnachu pobl.
Geowleidyddiaeth Adnoddau Naturiol
Mae’r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth feirniadol y myfyrwyr o esblygiad geowleidyddiaeth a’r berthynas rhwng gwahanol fathau o adnoddau naturiol ac ymddangosiad gwrthdaro geowleidyddol.
Traethawd Hir
Dan arweiniad eu goruchwyliwr, bydd y modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu prosiect ymchwil unigol gyda lefel uwch o ddadansoddi damcaniaethol a pherthnasedd cymhwysol ym maes diogeledd rhyngwladol a risg.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Dulliau Dysgu
Mae gennych y dewis i astudio naill ai ar-lein neu ar-gampws. Cewch eich addysgu mewn grwpiau bach, fel y gallwn wneud y sesiynau’n hynod ryngweithiol a diddorol. Bydd ein hamgylchedd dysgu ar-lein, Blackboard, yn darparu adnoddau cwrs o ansawdd uchel i chi.
Mae'r rhaglen MSc hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio efelychwyr lefel-uwch, fel Hydra. Bydd hyn yn rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi gan y byddwch yn arbenigo mewn dylunio ac adeiladu gwahanol senarios cymhleth, yn gweithredu ynddynt i ganfod bygythiadau, ac yn dod o hyd i atebion adeiladol a theilwredig ar eu cyfer. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis EuroSim, sy'n efelychiad trawsiwerydd blynyddol o'r Undeb Ewropeaidd. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o aseiniadau, gan gynnwys adroddiadau a chyflwyniadau, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnoch ar gyfer dyfodol eich gyrfa.
Y Staff Addysgu
Addysgir y cwrs hwn gan dîm rhyngwladol o staff sydd i gyd ar flaen y gad yn y pwnc. Maent i gyd yn aelodau o'r Ganolfan Ryngwladol Heddlua a Diogeledd (yr ICPS), sef canolfan blismona a diogeledd hynaf y DU. Mae ganddynt arbenigedd cryf y maent yn ei gyfuno â phrofiad ymarferol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich addysgu am y datblygiadau diweddaraf yn eich pwnc ac yn elwa o'u cysylltiadau a'u profiad proffesiynol. Mae pob aelod o’r staff yn ymwneud â phrosiectau a digwyddiadau ymchwil rhyngwladol a bydd gennych chi ddigonedd o gyfleoedd i gymryd rhan ynddynt hwythau hefyd.
Cyfleusterau
Bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau rhagorol, sy'n cynnwys Canolfan Efelychu Hydra. Mae hwn yn gyfleuster dysgu ac addysgu unigryw a ddefnyddir i gynnal senarios trochol ac efelychol. Mae rhai modiwlau ar y cwrs hwn yn cynnwys ymarfer efelychu sy'n cael ei redeg gan ddefnyddio Hydra. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac arwain.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Gradd Anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster(cymwysterau) proffesiynol priodol. Mae pynciau perthnasol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Plismona, Troseddeg/Cyfiawnder Troseddol, Cymdeithaseg, Rheoli Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus, a Seicoleg. Dylai eich cais ddangos diddordeb amlwg yn y cwrs.
Anogir y rhai heb y cymwysterau ffurfiol uchod i wneud cais os oes ganddynt brofiad perthnasol yn y sector. Byddwch yn cael eich ystyried yn unigol lle mae profiad priodol yn cael ei ystyried.
Mae'r cwrs hefyd yn rhoi mynediad arbennig i bersonél sy'n gwasanaethu a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog.
Gofynion Ychwanegol:
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£11,060
fesul blwyddyn*£1,229
fesul blwyddyn*£17,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.