Dychwelyd i Addysgu

Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi i ddychwelyd i addysgu mewn ysgol gynradd, neu'n eich helpu os ydych yn bwriadu symud o addysgu mewn ysgol uwchradd i addysgu mewn ysgol gynradd.

Sut i Wneud Cais Sgwrsio Gyda Ni

Manylion Cwrs Allweddol

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arwain, datblygu amrywiaeth o strategaethau rheoli ymddygiad, a meithrin a gwella eich sgiliau cymhwysedd digidol yn yr ystafell ddosbarth.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Os ydych mewn gwaith cyflenwi rheolaidd ac yn gobeithio cael swydd addysgu hirdymor neu barhaol, bydd y cwrs Dychwelyd i Addysgu yn rhoi'r hyder i chi wneud cais am swydd addysgu barhaol

Llwybrau Gyrfa

  • Athro Ysgol Uwchradd
  • Athro Ysgol Gynradd
  • Gweithio gyda phlant mewn amrywiaeth o leoliadau (e.e. amgueddfeydd, llyfrgelloedd, amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored)

Sgiliau a addysgir

  • Arweinyddiaeth
  • Cymhwysedd Digidol

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Cyfleoedd i drefnu lleoliadau

Bydd pob aelod o'r cwrs yn cwblhau 10 diwrnod neu gyfnod cyfatebol yn gweithio mewn ysgolion, naill ai'n wirfoddol neu am dâl.

Cyfleusterau rhagorol

Mae gennym nifer o ystafelloedd pwrpasol sy'n efelychu ystafelloedd dosbarth ym Mhrifysgol De Cymru lle y gallwch ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau cyfredol.

Dysgu rhyngweithiol

Gallwch astudio gydag athrawon cymwysedig eraill a byddwch yn adolygu, yn gwella ac yn atgyfnerthu eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth mewn perthynas ag ymarfer llwyddiannus mewn addysg gynradd.

Trosolwg o'r Modiwl

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut y byddwch yn dysgu

Caiff y cwrs ei gynnal un diwrnod yr wythnos dros 10 wythnos. Caiff y sesiynau yn y Brifysgol eu cynnal ar gampws Casnewydd bob dydd Mercher am 10 wythnos gan ddechrau ym mis Mawrth.

Bydd y darlithoedd yn cael eu traddodi gan amrywiaeth o academyddion prifysgol a darlithwyr gwadd o ysgolion cynradd lleol, a bydd pob sesiwn yn canolbwyntio ar faes penodol yn y cwricwlwm cynradd neu amgylchedd yr ysgol.

Lleoliadau

Yn ogystal â'r 10 diwrnod yn y Brifysgol, bydd pob aelod o'r cwrs yn cwblhau 10 diwrnod neu gyfnod cyfatebol yn gweithio mewn ysgolion, naill ai'n wirfoddol neu am dâl. Bydd y profiad yn yr ystafell ddosbarth yn gyfle i ddatblygu hyder, sgiliau a dealltwriaeth.

Er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, bydd angen llwyddo yn yr aseiniad. Log myfyriol yn seiliedig ar y 10 diwrnod yn yr ysgol fydd yr aseiniad.

Cyfleusterau

Mae gennym nifer o ystafelloedd pwrpasol sy'n efelychu ystafelloedd dosbarth ym Mhrifysgol De Cymru lle y gallwch ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau cyfredol.

Staff addysgu

  • Sallyann Seaward, arweinydd y cwrs.

Bydd polisi drws agored ar waith ar y cwrs hwn, a fydd yn galluogi gweithwyr proffesiynol i gymryd rhan mewn trafodaethau adeiladol a dychwelyd i'r ystafelloedd dosbarth gynradd yn hyderus.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Statws Athro Cymwysedig (cynradd neu uwchradd) a gwiriad Manylach y  Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar y Gweithlu Plant a'r Rhestr Gwahardd Plant. 

Gofynion Ychwanegol:

Llanlwythwch y canlynol i'ch cais ar-lein: 

  • Tystiolaeth o'ch Rhif DfES - llythyr swyddogol gan y cyngor addysgu 
  • Geirda ar bapur pennawd llythyr sefydliad / cwmni 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£804

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae myfyrwyr blaenorol wedi nodi mai'r trafodaethau grŵp a gynhelir gyda gweithwyr proffesiynol o'r un anian sydd wir yn cyfoethogi'r profiad o fod ar y cwrs.

Ymhlith y gyrfaoedd posibl mae addysgu mewn ysgol gynradd a gweithio gyda phlant oed ysgol gynradd mewn amrywiaeth o leoliadau addysg amgen, e.e. amgueddfeydd, llyfrgelloedd ac amgylcheddau dysgu yn yr awyr agored.

 

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb a restrir yn careers.southwales.ac.uk/gyrfaoedd yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau penodol i gyrsiau neu bynciau pwysig eraill yn cael eu rhedeg yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P'un a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr y diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wellau eu natur gystadleuol a dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi hyder, anogaeth a chymhelliant i ddarpar fyfyrwyr ymrwymo i wneud cais. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.