PGDip

Diabetes

Datblygu mwy o hyder a dealltwriaeth o reolaeth pobl â Diabetes drwy astudiaethau achos a thrafodaeth.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae'r cwrs clinigol hwn mewn diabetes, sy'n cael ei gynnal gyda'n partner cydweithredol Diploma MSc, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bwriad y cwrs yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i weithwyr proffesiynol i ddarparu gwasanaeth diabetes o'r radd flaenaf.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrsio arbenigol diabetes 
  • Nyrs Practis 
  • Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd 

Y sgiliau a addysgir

  • Arweinyddiaeth 
  • Datrys problemau 

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r cwrs ar-lein yn para un flwyddyn galendr ac mae'n gwrs dysgu o bell rhan-amser. Mae'n cynnwys chwe modiwl y flwyddyn, pob un yn para chwe wythnos, fel a ganlyn:

  • Egwyddorion Diabetes 
  • Dulliau o Ofalu 
  • Hyrwyddo Hunanofal 
  • Rheoli Diabetes 
  • Cymhlethdodau (Micro-fasgwlaidd) 
  • Cymhlethdodau (Macro-fasgwlaidd)

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol fel arfer, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried amrywiaeth eang o brofiad blaenorol. 

Gofynion ychwanegol 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

COSTAU YCHWANEGOL

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi'n dysgu

Er y byddwch chi'n dysgu'n gyfan gwbl ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill. 

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser. 

Mae'r cwrs yn rhoi asesu wrth wraidd dysgu drwy ddefnyddio senarios clinigol i hwyluso datrys problemau, dadansoddi beirniadol a gofal seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r senarios yn canolbwyntio ar ddysgu ac asesu, gan ymgorffori asesu yn y broses ddysgu. 

Staff addysgu

Cyflwynir y cwrs diploma ôl-raddedig mewn diabetes gan dîm arloesol a phrofiadol sydd ag enw da rhyngwladol ym maes diabetes ac addysg feddygol. Byddwch yn datblygu sgiliau datrys problemau wrth baratoi ar gyfer rolau arwain yng nghyd-destun byd-eang gofal diabetes. 

  • Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs 

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedig

Mae'r cwrs Diploma Ôl-raddedig mewn Diabetes yn uniongyrchol berthnasol i ofynion rolau gweithio a bydd yn cynorthwyo i wella gyrfa a chefnogi arbenigedd. Rhagwelir y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr mewn swyddi sy'n gysylltiedig â diabetes neu'n dyheu am swyddi o'r fath. 

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs yn darparu paratoad ôl-gymhwyso priodol ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, nyrsio arbenigol diabetes, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol. Yn yr un modd, mae cwmnïau fferyllol yn awyddus i gefnogi eu cynrychiolwyr mewn addysg ôl-raddedig a bydd y cymhwyster hwn yn cael ei ystyried yn ffafriol wrth gamu ymlaen mewn gyrfa ac wrth arbenigo.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna