Dylunio Ffasiwn
Mae’r cwrs wedi ei gynnwys ymysg y deg uchaf yn y DU yn y Guardian University Guide 2024 ar gyfer asesu mewn ffasiwn a thecstilau, ac mae ein myfyrwyr yn cymryd camau radical i wella’r diwydiant ffasiwn ac yn manteisio ar y potensial i fod yn herfeiddiol, arloesol a chynhwysol.
Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
W231
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Côd UCAS
W230
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£785*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Gwthiwch y ffiniau ym maes dillad, byddwch yn ddewr a dewch â'ch dyluniadau’n fyw gyda'n gradd Dylunio Ffasiwn.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs dylunio ffasiwn yn berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n gwirioni ar ddillad, diwylliant a deunyddiau, a mynegi eu hunain drwy ddylunio. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unigolion creadigol sy'n mwynhau gwthio ffiniau a chydweithio. Os oes gennych angerdd tuag at ffasiwn a mynegi eich hunan, mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i chi.
Llwybrau Gyrfa
- Entrepreneuriaid ffasiwn
- Dylunwyr tecstilau
- Prynwyr
- Dylunwyr
- Curaduron
- Addysgwyr
- Dylunwyr gwisgoedd
Mewn cydweithrediad â
- Cyngor Ffasiwn Prydain
Sgiliau a addysgir
- Ffyrdd o feddwl am ddylunio
- Creadigrwydd
- Datrys problemau
- Rheoli prosiectau
- Cyfathrebu effeithiol
- Negodi
- Ffyrdd o feddwl yn arloesol
- Darlunio a dylunio technegol
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn adeiladu sylfaen gadarn mewn sgiliau hanfodol fel gwnïo, darlunio, torri patrymau, dylunio, ac ymchwilio, sydd oll yn hollbwysig i'ch gyrfa fel dylunydd.
Peirianneg Ffasiwn 1 – Cyflwyniad i Ffasiwn
Byddwch yn dechrau drwy ddysgu sut i saernïo dillad, technegau gwnïo diwydiannol, drafftio a thorri patrymau, dogfennaeth dechnegol, a rheoli prosiectau.
Dylunio Ffasiwn 1 – Dulliau Dylunio Ffasiwn
Byddwch yn dysgu sut i arloesi gan ddefnyddio'r broses ddylunio, technegau dylunio ffasiwn, dulliau dylunio, a rheoli prosiectau.
Peirianneg Ffasiwn 2 – Cynhyrchu Cynaliadwy
Byddwch yn dysgu am brosesau gwnïo cynaliadwy, technegau torri patrwm diwastraff a chynaliadwy, a gorchuddio.
Dylunio Ffasiwn 2 – Dylunio Ffasiwn Cylchol
Byddwch yn darganfod dulliau dylunio cynaliadwy newydd, ffasiwn cylchol, dylunio ar gyfer dadosod, ac uwchgylchu.
Diwylliannau Ffasiwn 1 – Astudiaethau Ffasiwn
Byddwch yn ymchwilio’n fanwl i hanes dylunio a ffasiwn, astudiaethau rhywedd, theori dylunio cynaliadwy, moeseg ffasiwn, gan ddatblygu sgiliau ymchwil academaidd mwy cyffredinol.
Cyfathrebu Ffasiwn - Iaith Weledol
Cewch ddysgu am ddarlunio ffasiwn, cyfathrebu gweledol, sgiliau darlunio ar gyfer dyluniadau, darlunio digidol, a darlunio technegol.
Yn yr ail flwyddyn bydd gofyn i chi gysylltu â'r diwydiant drwy bartneriaethau a phrosiectau a fydd yn gwella eich gwaith dylunio. Mae’n bryd dechrau meddwl am leoliadau gwaith os ydych am ddechrau defnyddio eich sgiliau hefyd.
Peirianneg Ffasiwn 3 – Ffasiwn Digidol a Ffisegol
Byddwch yn darganfod y technegau saernïo digidol a ffisegol mewn cyd-destun modern, technegau adeiladu blaengar, a phrosesau blaengar ar gyfer torri patrymau.
Dylunio Ffasiwn 3 – Ffasiwn Digidol Arbrofol
Byddwch yn dysgu sut i wthio ffiniau dylunio, gan archwilio a dod i ddeall prosesau digidol a ddefnyddir yn y diwydiant ar gyfer dylunio ac arloesi.
Diwylliannau Ffasiwn 2 – Ffasiwn a Chymdeithas
Byddwch yn dysgu am safbwyntiau beirniadol mewn perthynas â hunaniaeth, moeseg, diwylliannau'r cyfryngau ac arferion y diwydiant, yn ogystal â dulliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer eich traethawd hir.
Dylunio Ffasiwn 4 – Dylunio Cydweithredol
Byddwch yn datblygu eich hunaniaeth fel dylunydd drwy weithio ar brosiect cydweithredol i ddeall y diwydiant ffasiwn byd-eang a dylunio yn y dyfodol.
Peirianneg Ffasiwn 4 – Torri Patrymau a Deunyddiau Lefel Uwch
Gwthiwch y ffiniau saernïo gyda dulliau argraffu 3D, sgiliau technegol, laser a thorri patrymau, gan feistroli dealltwriaeth o ddeunyddiau.
Paratoi ar gyfer y Diwydiant Ffasiwn – Sgiliau a Phrofiad yn y Diwydiant*
Byddwch yn dysgu am frandio personol, paratoi portffolio, datblygu CV, sgiliau proffesiynol, a rôl brandio mewn dylunio.
Gellir astudio 25% o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Blwyddyn ryngosod ddewisol - Diploma Profiad yn y Diwydiant Ffasiwn Byddwch yn diffinio eich lle yn y byd ffasiwn a dylunio drwy weithio ar leoliad, adeiladu rhwydweithiau a chael profiad wrth baratoi ar gyfer eich blwyddyn olaf.
Yn eich blwyddyn olaf mae rhwydd hynt i chi fod yn greadigol, a byddwch yn datblygu fel dylunydd. Bydd gennych y sgiliau a’r creadigrwydd i ddiffinio’ch hun fel gweithiwr proffesiynol cyfoes ac arloesol yn y diwydiant.
Ymchwil Beirniadol mewn Ffasiwn
Byddwch yn datblygu sylfaen ymchwil ar gyfer eich casgliad graddio ac yn gwella eich sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer eich traethawd hir.
Ymarfer Proffesiynol 1 – Ymchwil i lansio casgliad
Byddwch yn ymchwilio ac yn dylunio ar gyfer lansio eich casgliad eich hun, datblygu briff, dylunio, arbrofi a chwblhau prosesau dylunio digidol.
Ymarfer Proffesiynol 2 – Lansio casgliad
Byddwch yn creu casgliad i’w lansio, rheoli eich proses gynhyrchu a mwynhau cydweithio ar draws y diwydiant cyfan.
Strategaethau Proffesiynol
Byddwn yn helpu i lunio eich proffil proffesiynol, adeiladu eich brand personol, datblygu eich CV a’ch strategaeth ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, deall ymddygiad yn y diwydiant, a chynllunio eich gyrfa.
Gellir astudio 25% o'r modiwl hwn drwy gyfrwng y Gymraeg
Dyfodol Ffasiwn
Byddwch yn dysgu am ragfynegi tueddiadau, ymchwil weledol, a chystadlaethau’r diwydiant i'ch paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant ar ôl graddio.
Portffolio Proffesiynol
Byddwch yn datblygu eich portffolio proffesiynol, eich llyfr edrychiadau, sesiynau tynnu lluniau, yn gweithio gyda modelau, ac yn lansio eich hun yn y diwydiant. Byddwch yn dysgu ffyrdd newydd o hyrwyddo eich hun a'ch gwaith.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc perthnasol
- BTEC: Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Safon Uwch gyda phwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£9,250
fesul blwyddyn*£785
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Caiff eich gradd mewn dylunio ffasiwn ei hasesu drwy waith cwrs rheolaidd, yn ogystal ag asesiadau ymarferol, cyflwyniadau, portffolio a phrosiectau cydweithredol. Mae'r asesiad terfynol wedi'i gynllunio i gefnogi eich gweithgaredd dysgu a'ch helpu i gyflawni eich uchelgeisiau. Pinacl eich holl waith caled fydd sioe ffasiwn fawreddog i’n graddedigion lle y byddwch yn lansio eich casgliad ac yn arddangos eich dyluniadau yn y byd go iawn.
Drwy gydol eich cyfnod astudio byddwch yn gallu manteisio ar y cyfle i ddefnyddio technoleg draddodiadol a thechnoleg flaengar, gan helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r creadigrwydd i’ch diffinio fel dylunydd ffasiwn cyfoes ac arloesol.
Staff addysgu
Mae ein tîm addysgu yn cynnwys gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, arbenigwyr technegol a phobl sy’n gwirioni ar y byd ffasiwn yn gyffredinol. Byddant yn eich arwain i ddatblygu eich stamp fel dylunydd, gan feithrin eich dawn greadigol a’ch annog i ddefnyddio dulliau blaengar a dulliau traddodiadol o ddylunio a chreu eitemau. Pan fyddwch ar y campws byddwch yn astudio yn ein cyfleusterau mwyaf arloesol, gan rannu gofod gyda myfyrwyr tebyg i chi sy’n dilyn cyrsiau ffotograffiaeth, ffilm, celf a llawer o bobl greadigol eraill.
Byddwch yn datblygu’r holl sgiliau a nodweddion proffesiynol sydd eu hangen arnoch fel arweinydd yn y diwydiant, p’un a ydych yn dewis sefydlu eich brand ffasiwn eich hun, arwain timau’r dyfodol neu ymuno â thŷ ffasiwn sefydledig.
Lleoliadau a phrofiad gwaith
Yn PDC, rydym yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y byd ffasiwn o'r cychwyn cyntaf. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant drwy gydol eich gradd, gan fagu profiad gwerthfawr drwy interniaethau, profiad gwaith a lleoliadau gwaith.
Mae ein cysylltiadau cryf â phartneriaid fel Next, Size?, yn ogystal â brandiau annibynnol a byd-eang, yn gallu arwain at gynnig profiad gwaith a lleoliadau drwy gydol eich cyfnod astudio. Yn y diwydiant byd-eang hwn, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cysylltu ein myfyrwyr â brandiau rhyngwladol i roi cyfleoedd iddynt ar draws y byd.
Byddwch yn cael y cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau dylunio cenedlaethol a rhyngwladol, gan arddangos eich gwaith ar lwyfan byd-eang.
Cyfleusterau
Mae myfyrwyr ffasiwn yn elwa o lawr cyfan ar ein campws yng Nghaerdydd sydd wedi ei neilltuo i ddylunio ffasiwn, hyrwyddo, a busnes a marchnata ffasiwn. Mae'r cyfleusterau hyn yn cynnwys dwy stiwdio ddylunio, sydd wedi eu creu gyda’r nod o’ch ysbrydoli wrth i chi ddarlunio, dylunio a chreu.
Mae gennym hefyd ystod lawn o gyfarpar gweithgynhyrchu, gan gynnwys peiriannau gwnïo diwydiannol yn ogystal â'r dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer dylunio a meddalwedd 3D a 2D. Mae’r cymysgedd hwn o ddylunio byw a digidol yn rhoi profiad unigryw i’n myfyrwyr, gan ganiatáu iddynt greu casgliadau digidol a chael mantais broffesiynol.
Offer
Ar ein Campws yng Nghaerdydd, mae gennym ni amrywiaeth eang o offer y byddwch chi'n cael eich hyfforddi i'w defnyddio fel rhan o'ch cwrs. I helpu i gefnogi eich astudiaethau, mae gennym gyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau sy'n eich galluogi i logi'r offer, am ddim, fel y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich aseiniadau a'ch gwaith ymarferol. Mae gennym ni gamerâu ffilm a ffotograffiaeth sylfaenol ac o’r radd flaenaf, offer goleuo a sain cludadwy yn ogystal ag amrywiaeth o ficroffonau a ddefnyddir mewn stiwdios proffesiynol, offerynnau ac offer cysylltiedig i'w defnyddio yn ein stiwdios cerddoriaeth neu ar leoliad. Mae'r tîm o swyddogion technegol a hyfforddwyr hefyd ar gael i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a materion technegol.