Sam Ball

Astudio cwrs Hyrwyddo Ffasiwn yn PDC oedd un o brofiadau gorau fy mywyd

Ffasiwn
Fashion graduate, Sam, stands in front of sign to her copywriting event

Mae’r hyn a ddysgodd y Brifysgol a’r cwrs hwn i mi wedi bod yn amhrisiadwy, nid yn unig am fy maes astudio, ond am fywyd yn gyffredinol.


Profiad bythgofiadwy 

“Astudio cwrs Hyrwyddo Ffasiwn yn PDC oedd un o brofiadau gorau fy mywyd. Rwy’n golygu hynny’n llwyr. Mae’r hyn a ddysgodd y brifysgol a’r cwrs hwn i mi wedi bod yn amhrisiadwy, nid yn unig am fy maes astudio, ond am fywyd yn gyffredinol. Mae wedi rhoi mwy o gred i mi ynof fy hun nag a gefais erioed.  

Mae yna dîm gwych o staff i’ch cynorthwyo, i fod yn gefn i chi, ac i fod yn gefnogwyr personol i chi – nid ydynt am i chi lwyddo er eu lles nhw, maen nhw am i chi lwyddo am eu bod nhw wir yn credu ynoch chi. Rhyngddynt i gyd, mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth o'u hamser yn y diwydiant, ac maent bob amser yn gwneud amser i chi fynd atynt am gyngor! 

Ond y peth gorau? Pan fyddwch chi wedi graddio ac efallai eich bod wedi gadael y ddinas ar ôl, dim ond e-bost i ffwrdd ydyn nhw o hyd, a byddant bob amser yn eich croesawu â breichiau agored pan fyddwch chi'n ymweld nesaf." 

Dewch o hyd i'ch cwrs

Diddordeb mewn Ffasiwn?

Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn.