Paige Leach
Ni fyddai fy lleoliad yn Givenchy wedi bod yn bosibl heb gysylltiadau diwydiant PDC
Ffasiwn/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/14-features/features-paige-leach.jpeg)
Gwireddwyd breuddwyd.
O enillydd cystadleuaeth i fod yn intern yn Givenchy
Mae’r myfyriwr ffasiwn Paige Leach wedi ennill cystadleuaeth sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Ffasiwn Prydain ac wedi ymgymryd â chontract chwe mis gyda’r tŷ ffasiwn Givenchy.
Curodd Paige gronfa enfawr o fyfyrwyr o bob rhan o’r DU i ennill y wobr a bu’n gweithio o ganolbwynt Givenchy ym Mharis.
Dywedodd Paige, sydd ym mlwyddyn olaf ei gradd dylunio ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru, ei bod ar ben ei digon gyda'i buddugoliaeth.
"Roeddwn wrth fy modd o gael fy nghyhoeddi fel enillydd cystadleuaeth Dylunio Ffasiwn Givenchy mewn cydweithrediad â Chyngor Ffasiwn Prydain. Gwireddwyd breuddwyd," meddai.
“Hefyd, roedd y cyfle i gyflwyno fy ngwybodaeth ymchwil a dylunio i rai o’r bobl allweddol sy’n arwain y diwydiant yn un o’r profiadau gorau hyd yma.
Dewch o hyd i'ch cwrsPennod newydd, gyffrous i Ffasiwn yn PDC
Ychwanegodd Steven Wright, Pennaeth Pwnc, Ffasiwn, Marchnata a Ffotograffiaeth: “Mae’r llwyddiant hwn yn nodi lefel newydd gyffrous i Ffasiwn yn PDC.
“Mae ein cysylltiad â Chyngor Ffasiwn Prydain a’r diwydiant ffasiwn byd-eang wedi rhoi cipolwg newydd i ni ar y posibiliadau sydd ar gael i ddylunwyr ffasiwn ifanc heddiw.
“Mae’r cwrs dylunio ffasiwn wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ganolbwyntio ar ddatblygu dylunwyr sy’n gallu mynd i’r afael â thrylwyredd tirwedd diwydiant sy’n newid. Gwneir hyn trwy ddull addysgol radical sy’n canolbwyntio ar annibyniaeth myfyrwyr, y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant a meddwl o ran dylunio.
“Mae buddugoliaeth Paige yn dangos y dalent enfawr yng Nghymru a sut y gall gystadlu’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.”
Ffasiwn yn PDCDiddordeb mewn Ffasiwn?
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn.