/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/14-features/features-elisedd-howells.jpg)
Heb os, bydd gweithio ym mhrifddinas ffasiwn y byd yn gwneud i’m C.V. sefyll allan, ac rydw i wedi elwa cymaint o gyfarfod a dod yn ffrindiau â phobl mor dalentog.
Meithrin cysylltiadau a helpodd i sicrhau'r lleoliad gwaith
Cafodd myfyrwraig Dylunio Ffasiwn, Elisedd Howells, gynnig oes wrth fynd ar leoliad gwaith gyda’r dylunydd couture, Randi Rahm, yn Efrog Newydd.
“Fe wnes i sicrhau’r lleoliad gwaith yn Randi Rahm ar ôl cadw mewn cysylltiad ag un o’r dylunwyr roeddwn i wedi gweithio gyda nhw ar leoliad gwaith arall mewn Sioe Ffasiwn ym Mharis y llynedd – rwy’n gwybod pa mor bwysig yw lleoliadau gwaith ar gyfer adeiladu fy C.V., felly roeddwn i mor gyffrous pan wnes i a fy nghyd-fyfyriwr, Anna, lwyddo i sicrhau lleoliad gwaith yn Randhi Rahm yn ei swyddfeydd yn Efrog Newydd.
Randi Rahm yw’r prif ddylunydd yn 501 Madison Avenue. Mae ei brand yn creu dillad haute couture ar gyfer cleientiaid uchelraddol. Roedd byw a gweithio yn Efrog Newydd yn brofiad hollol wahanol nag ymweld fel twrist. Roedd cymudo i mewn ac allan o Manhattan bob dydd yn swreal. Daeth ein taith gerdded ddyddiol trwy Times Square a theithiau cyson ar y rheilffordd danddaearol yn rhan o'n bywydau am ddau fis.
Roeddem yn cael ein hanfon yn aml i Garment District Efrog Newydd i gasglu samplau, sicrhau bod ffabrigau o liwiau cyfatebol a chwilio am ategolion penodol. Roeddem yn teimlo fel unigolion go iawn o Efrog Newydd, yn y brifddinas ffasiwn yn cael Starbucks ar y rheilffordd danddaearol ac yn chwilio am ffabrigau yn y Garment District! Mae'r ardal hon yn enfawr, ac roedd amrywiaeth y ffabrigau yn aruthrol, ac yn dangos nad oes unrhyw derfynau i'ch dyluniadau yn y ddinas hon.
Dewch o hyd i'ch cwrsEnnill hyder a sgiliau yn sîn ffasiwn Efrog Newydd
Mae’r lleoliad wedi cryfhau fy sgiliau torri patrwm yn sylweddol gan i ni gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â thorrwr patrwm talentog dros ben, sydd wedi gweithio yn niwydiant ffasiwn Efrog Newydd ers blynyddoedd. Mae gweithio gyda’r brand couture moethus hwn hefyd wedi datblygu fy nealltwriaeth o sut mae brandiau ffasiwn yn gweithredu, a phroses gynhyrchu pob darn sydd wedi’i gynnwys mewn casgliad.
Mae'r lleoliad gwaith hefyd wedi datblygu fy hyder yn fawr. Drwy gydol yr interniaeth buom yn gweithio ar y casgliad priodasol a chawsom gyfle i weld y dillad yn datblygu, o’r dyluniad cychwynnol i’r darn olaf yn y sioe briodas.
Roedd yn heriol wrth i ddyddiad y sioe briodas ddod yn nes, doedd dim amser i wneud camgymeriadau, ond mae delio â’r math yma o bwysau wedi fy ngwneud yn fwy hyderus y gallaf weithio yn yr amgylcheddau mwyaf heriol.
Heb os, bydd gweithio ym mhrifddinas ffasiwn y byd yn gwneud i’m C.V sefyll allan, ac rydw i wedi elwa cymaint o gyfarfod a dod yn ffrindiau â phobl mor dalentog yn y diwydiant ffasiwn a gwrando ar eu cyngor. Rwy’n teimlo’n llawer mwy hyderus yn mynd i fy mlwyddyn olaf ac yn edrych ymlaen at greu fy nghasgliad graddio a fydd, gobeithio, yn rhoi hwb i fy ngyrfa yn y diwydiant ffasiwn.”
Gyrfaoedd a ChyflogadwyeddDiddordeb mewn Ffasiwn?
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn.