Dylunio Gemau
Adeiladwch eich sgiliau creadigol a thechnegol i ddylunio, datblygu a chyflwyno eich gemau eich hun i'r farchnad.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
I610
Dyddiad Cychwyn
Medi 2026
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Ffioedd
Myfyrwyr cartref: £9,790*
Myfyrwyr rhyngwladol: £16,800*
Côd UCAS
I610
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Caerdydd
Côd y Campws
B
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Trosolwg o'r Cwrs
Ewch ati i greu a chynhyrchu gemau o'r diwrnod cyntaf.
Mwynhewch brofiadau ymarferol mewn digwyddiadau gemau, cyflwynwch eich gwaith i gystadlaethau cenedlaethol fel Tranzfuser, a chysylltwch ag arbenigwyr yn y diwydiant. Defnyddiwch labordai o'r ansawdd uchaf gydag Unreal Engine ac Adobe Suite ac adeiladwch eich rhwydwaith o fewn y diwydiant gemau.
Partneriaethau
Unreal Engine Academic Partner
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Byddwch yn cychwyn drwy archwilio’r elfennau mwyaf hanfodol ac yn creu gemau yn syth bin.
Yn ystod eich chwe wythnos gyntaf, byddwch yn crefftio eich gêm gyntaf ac erbyn diwedd y flwyddyn byddwch wedi adeiladu o leiaf tri ohonynt. Gyda’r modiwlau ymarferol ar bynciau megis Dylunio Lefelau, Mecanwaith Gemau ac Adeiladu Bydoedd, byddwch yn cyfuno creadigrwydd gyda sgiliau technegol o’r dechrau un.
Byddwch yn creu prototeipiau digidol ac yn archwilio strwythur, mecanwaith a naratif gemau. Byddwch yn arbrofi gyda rheolau ac esthetig wrth i chi ddatblygu a chyflwyno syniadau ac chynhyrchu gemau drwy wahanol brosiectau.
Byddwch yn datblygu ac yn cynhyrchu gem mewn grwpiau ac yn canolbwyntio ar fecanwaith a dylunio rhyngweithiol. Byddwch yn defnyddio ymchwil, arbrofion ac adborth. Byddwch yn rhoi hwb i’ch sgiliau drwy weithio o fewn y stiwdio a thrwy ymdrwytho mewn prosiect.
Archwiliwch ddamcaniaeth ddylunio gemau gyda gwaith injan ymarferol. Crëwch lefelau drwy ganolbwyntio ar gynllunio, profi’r chwarae a dylunio rhyngweithiol. Datblygwch ac arddangoswch eich gwaith drwy ddysgu gydag eraill a dysgu’n annibynnol.
Dysgwch am y damcaniaethau a’r arferion o fewn Astudiaethau Gemau. Byddwch yn ymchwilio, yn dadlau ac yn dadansoddi gemau er mwyn deall datblygiad a diwylliant. Byddwch yn datblygu sgiliau beirniadol fydd yn gymorth i chi ennill dealltwriaeth academaidd ac ymarferol.
Datblygwch sgiliau gwerthuso a datrys problemau dylunio drwy ganolbwyntio ar gynllun sy’n canolbwyntio ar y chwaraewyr. Byddwch yn dysgu sut i gyfathrebu cysyniadau gêm drwy ymarferion ymarferol a heriau yn y byd go iawn.
Daeth yr amser i ymrafael a phrosiectau soffistigedig gyda briffiau byw, a’r nod o greu gemau graenus, sy’n barod i’w cyflwyno fel syniad i arbenigwyr y diwydiant.
Byddwch yn ymchwilio meysydd megis Systemau a Mecanwaith neu Rinweddau Cynhyrchu Gemau, ac yn dwysau eich dealltwriaeth o ddamcaniaeth dylunio. Byddwch yn arbenigo yn y meysydd sydd o ddiddordeb i chi er mwyn paratoi at eich blwyddyn olaf.
Gwthiwch ffiniau o fewn y byd dylunio gemau drwy archwilio ffordd flaengar o chwarae, technoleg newydd a themâu unigryw. Byddwch yn dilyn cyfarwyddyd er mwyn creu fersiwn cynnar gellir ei chwarae, gan ganolbwyntio ar wreiddioldeb a chyflawniad ymarferol.
Byddwch yn creu gêm wedi ei selio ar gyfarwyddyd gan gleient, byddwch yn gweithio mewn tîm ac yn cydweithio gydag eraill o wahanol gyrsiau. Byddwch yn datblygu proffesiynoldeb a sgiliau sy’n berthnasol i’r diwydiant drwy ddysgu sut i gyflwyno syniad i bobl brofiadol o fewn y diwydiant.
Meistrolwch sut i gynhyrchu cynnwys gemau drwy ganolbwyntio ar lif gwaith a phibellau injan. Byddwch yn gwrthbwyso esthetig, creadigrwydd a therfynau technegol drwy ddefnydd ymarferol.
Dysgwch am astudiaethau gêm uwch drwy ymchwil a thrafodaeth. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol, byddwch yn datblygu dadleuon deallusol, ac yn cywreinio’ch sgiliau dan gyfarwyddyd eich cyfoedion ac aelodau staff.
Y flwyddyn derfynol yw eich cyfle i ddisgleirio! Byddwch yn creu prototeip ac yn cynhyrchu gem ar lefel broffesiynol, fydd yn waith neilltuol ar gyfer eich portffolio.
Dysgwch sut i arddangos eich sgiliau, ceisio am swyddi, a llwyddo mewn cyfweliadau. Bydd eich traethawd estynedig yn caniatáu i chi ymdrwytho mewn pwnc dylunio gemau rych yn angerddol yn ei gylch.
Archwiliwch ac arbrofwch er mwyn datblygu gêm brototeip sy’n gweithio, gan ganolbwyntio ar fecanwaith craidd, profiad y chwaraewyr a steil. Datblygwch brototeipiau a dogfennau dylunio gan ddefnyddio eich sgiliau a’ch dysg i’ch paratoi chi at eich gyrfa.
Byddwch yn cwblhau ac yn a chyhoeddi gêm, drwy ganolbwyntio ar gryfderau eich cynnyrch. Byddwch yn dogfennu eich penderfyniadau dylunio, yn rheoli ystod eich prosiect a byddwch hefyd yn creu gêm sy’n barod ar gyfer portffolio gyda deunydd hyrwyddo ar gyfer arddangosfa gyhoeddus.
Ymchwiliwch bwnc dylunio gemau sydd o ddiddordeb i chi, dysgwch am faterion allweddol a thrafodaethau o bwys. Cyflwynwch ddadl wreiddiol, ac iddi resymeg dda, gan ddefnyddio tystiolaeth neu ddealltwriaeth sy’n seiliedig ar eich gwaith.
Ystyriwch eich llwyddiannau ac amcanion eich gyrfa. Cryfhewch eich CV, eich portffolio a’ch proffil LinkedIn. Mynychwch ddigwyddiadau gyrfaol, mynnwch gyngor a pharatowch at gyfweliadau swydd o fewn y diwydiant.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar waith ymarferol, sy'n seiliedig ar brosiectau, gan ganiatáu ichi ddatblygu portffolio proffesiynol drwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau datblygu gemau, briffiau creadigol, cyflwyniadau a gwaith cydweithredol, gan eich helpu i ddangos eich sgiliau technegol a'ch meddwl creadigol mewn cyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Byddwch yn neidio'n syth i ddysgu ymarferol gyda phrosiectau grŵp, gweithdai ymarferol a chyflwyniadau. Disgwyliwch gymysgedd o ddarlithoedd, tiwtorialau ac amser stiwdio i hogi eich sgiliau. Byddwch hefyd yn gweithio ar eich portffolio, yn cwblhau prosiectau byd go iawn ac yn mynd ar deithiau maes.
Mae'r asesiad yn canolbwyntio ar waith ymarferol, sy'n seiliedig ar brosiectau, gan ganiatáu ichi ddatblygu portffolio proffesiynol drwy gydol eich astudiaethau. Byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau datblygu gemau, briffiau creadigol, cyflwyniadau a gwaith cydweithredol, gan eich helpu i ddangos eich sgiliau technegol a'ch meddwl creadigol mewn cyd-destunau sy'n berthnasol i'r diwydiant.
Yn eich ail flwyddyn, mae'r modiwl Ymarfer Proffesiynol yn cynnwys prosiectau briff byw. Erbyn eich trydedd flwyddyn, mae cynllun Tranzfuser yn cynnig y cyfle i ddatblygu gwaith ar gyfer cystadleuaeth Cronfa Gemau'r DU.
Ar gampws Caerdydd PDC, bydd gennych fynediad at gyfleusterau arloesol, meddalwedd o safon y diwydiant, ac offer proffesiynol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi eich datblygiad creadigol. Mae myfyrwyr dylunio gemau cyfrifiadurol yn gweithio gydag offer fel Unreal Engine, Unity, Autodesk Suite ac Adobe Suite, ochr yn ochr â thechnoleg uwch gan gynnwys cardiau graffeg Nvidia RTX, monitorau llydan iawn, a phecynnau VR. Mae system rheoli ffynhonnell ar y cwmwl yn galluogi cydweithio di-dor ar y campws ac o bell. Byddwch hefyd yn elwa o fynediad at ystod eang o offer trwy ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim, gan gynnwys camerâu, goleuadau, offer sain ac adnoddau stiwdio, gyda staff technegol arbenigol wrth law i ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant drwy gydol eich astudiaethau.
Arweinydd y Cwrs
Dann Rees
Dann Rees yw Arweinydd y Cwrs BA (Anrh) Dylunio Gemau, gyda dros 25 mlynedd o brofiad ar draws gemau, apiau a chyfryngau rhyngweithiol. Gan arbenigo mewn dylunio gemau, systemau chwarae gemau a datblygu Unreal Engine, mae'n mabwysiadu dull ymarferol o addysgu, gan helpu myfyrwyr i feithrin hyder creadigol, datblygu sgiliau perthnasol i'r diwydiant a dod â'u syniadau gêm yn fyw.
Gofynion ychwanegol
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.Cynigion cyd-destunol
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys pwnc celf a dylunio perthnasol
Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC mewn Safon Uwch gyda phwnc celf a dylunio perthnasol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU mewn pwnc celf a dylunio perthnasol gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
Pasio (C ac uwch) mewn pwnc celf a dylunio perthnasol
Ffioedd a Chyllid
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Deunyddiau Celf
Cost: £50 - £100
PC / Gliniadur
(Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £1500 - £2000
PC Peropherals
PC Peropherals (y flwyddyn)
Cost: £30 - £100
Fesul blwyddyn
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Deunyddiau Celf
Cost: £50 - £100
PC / Gliniadur
(Pob blwyddyn academaidd)
Cost: £1500 - £2000
PC Peropherals
PC Peropherals (y flwyddyn)
Cost: £30 - £100
Benthyciadau Cyfryngau
Mynnwch fynediad at gamerâu, offer goleuo, sain ac offer recordio o safon y diwydiant, gyda chymorth gan ein gwasanaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a dod â'ch gwaith yn fyw'n hyderus.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Dylunio Gemau
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
-
Apply direct
Dylunio Gemau
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Caerdydd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.
Straeon ac uchafbwyntiau cysylltiedig
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion
Erthygl Newyddion