MSc

Diabetes

Wedi'i gynllunio i arfogi gweithwyr proffesiynol â'r wybodaeth a'r sgiliau i ddarparu gwasanaeth diabetes o'r radd flaenaf.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae'r radd Meistr hon mewn diabetes sydd â ffocws clinigol, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn darparu paratoad ôl-gymhwyso ar gyfer rolau mewn timau diabetes arbenigol, nyrsio arbenigol diabetes, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Myfyrwyr mewn swyddi sy'n gysylltiedig â diabetes

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrsio Arbenigol Diabetes
  • Nyrsio Practis

Trosolwg o'r Modiwl

Mae myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r cwrs Diploma ôl-raddedig Diabetes yn gwneud yr MSc blwyddyn sy'n cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol 
  • Prosiect Proffesiynol

Bydd myfyrwyr sy'n penderfynu cofrestru'n uniongyrchol ar yr MSc (yn hytrach na'r Diploma ôl-raddedig) yn gwneud y fersiwn dwy flynedd, sy'n cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Egwyddorion Diabetes
  • Dulliau o Ofalu
  • Hyrwyddo Hunanofal
  • Rheoli Diabetes
  • Cymhlethdodau (Micro-fasgwlaidd)
  • Cymhlethdodau (Macro-fasgwlaidd)
  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol 
  • Prosiect Proffesiynol

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

Gofynion mynediad

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn ystod yr 8 wythnos gyntaf. Mae myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Staff addysgu

Bydd y myfyriwr a'r tiwtor yn rhyngweithio'n rheolaidd (wythnosol) ar ardal drafod benodol y myfyrwyr / tiwtor neu drwy unrhyw ddulliau cyfathrebu eraill y mae'r ddau barti yn eu hystyried yn briodol (ffôn/SKYPE/e-bost).

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae cymhwyster MSc Diabetes yn uniongyrchol berthnasol i ofynion rolau gweithio a bydd yn cynorthwyo i wella gyrfa a chefnogi arbenigo. Rhagwelir y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr mewn swyddi sy'n gysylltiedig â diabetes neu'n gobeithio cael swyddi o'r fath.

Mae'r cwrs yn darparu paratoad ôl-gymhwyso priodol ar gyfer rolau mewn timau arbenigol diabetes, nyrsio arbenigol diabetes, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd â’r nod o ddarparu gwasanaethau diabetes mewn gofal sylfaenol. Yn yr un modd, mae cwmnïau fferyllol yn awyddus i gefnogi eu cynrychiolwyr mewn addysg ôl-raddedig a bydd y cymhwyster hwn yn cael ei ystyried yn ffafriol mewn dilyniant gyrfa ac arbenigedd.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna