MSc

Diogelwch Rhyngwladol a Rheoli Risg (Gwrthderfysgaeth)

Mae deall risgiau cymhleth a'r peryglon y maent yn eu hachosi, yn hanfodol i reoli diogeledd a rhwystro bygythiadau ar raddfa fyd-eang.

Gwneud Cais Uniongyrchol Bwcio Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar faterion allweddol ym maes diogeledd rhyngwladol - y modd y gallwn eu hadnabod a’u rhwystro. Mae’n archwilio materion hollbwysig, megis terfysgaeth, rhyfela hybrid a throseddau cyfundrefnol, ac yn archwilio’r modd y gall sefydliadau, llywodraethau a chwmnïau rhyngwladol reoli risgiau byd-eang o’r fath.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Os ydych eisoes yn gweithio ym maes diogeledd neu reoli risg, neu os oes gennych ddyheadau o weithio yn y maes, bydd ein MSc Diogeledd Rhyngwladol a Rheoli Risg yn eich helpu i gael gwybodaeth ddyfnach ac ymarferol am y risgiau a’r heriau diogeledd sy’n wynebu ein hoes, a datblygu atebion i fynd i'r afael â nhw.

Achredwyd gan

.

Llwybrau Gyrfa

  • Dadansoddwr Diogeledd Cenedlaethol
  • Dadansoddwr Gwrthderfysgaeth
  • Dadansoddwr Risg
  • Arbenigwr Seiberddiogeledd
  • Dadansoddwr Cudd-wybodaeth

Sgiliau a Addysgir

  • Meddwl yn Feirniadol
  • Casglu data
  • Dadansoddi data
  • Dadansoddi risg
  • Cyfathrebu

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyfleoedd Gwaith Gwych

Mae'r cwrs hwn wedi helpu nifer o'n myfyrwyr i ganfod eu swyddi delfrydol yn y sectorau diogeledd a rheoli risg.

Paratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol

Bydd cyfraniad ymarferwyr i’r cwrs yn golygu y byddwch yn cymryd aseiniadau a fydd yn eich paratoi chi’n uniongyrchol ar gyfer y gweithle.

Staff addysgu sydd ar flaen y gad yn eu maes

Cyflwynir y rhaglen hon gan dîm rhyngwladol o arbenigwyr sydd â chyfoeth o brofiad academaidd ac ymarferol.

Cefnogaeth Eithriadol i Fyfyrwyr

Byddwch yn cael digon o gefnogaeth ac anogaeth gyda’ch aseiniadau neu geisiadau am swyddi.

Aelod aur o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn y DU

Mae'r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr yn annog cyflogwyr i gefnogi amddiffyn ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r cwrs hwn yn hynod hyblyg a gellir ei deilwra i'ch anghenion a'ch dewisiadau. Mae'n ofynnol i chi gwblhau modiwlau gwerth cyfanswm o 180 credyd ar gyfer cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus gan gynnwys 7 modiwl gwerth 20 credyd yr un ac 1 modiwl (prosiect ymchwil) gwerth 40 credyd.

Bydd pob myfyriwr yn cwblhau 8 modiwl gwerth 180 credyd i gyd: 7 modiwl craidd (20 credyd yr un) a modiwl y traethawd hir (40 credyd).

  • Damcaniaethau a Dulliau Diogelwch Rhyngwladol
  • Terfysgaeth a Gwrthderfysgaeth yn Ewrop
  • Astudiaethau Cudd-wybodaeth
  • Rheoli Risg a Dadansoddi
  • Terfysgaeth, Rhyfela Hybrid A Dadansoddi Gwrthdaro Yn Ewrop A Thu Hwnt
  • Radicaleiddio, Seicoleg ac Ymfudo mewn Astudiaethau Terfysgaeth
  • Terfysgaeth, Gwrthdaro'r Dwyrain Canol ac Ewrop
  • Traethawd hir



GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 mewn pwnc perthnasol neu gymhwyster(cymwysterau) proffesiynol priodol. Mae pynciau perthnasol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, Plismona, Troseddeg/Cyfiawnder Troseddol, Cymdeithaseg, Rheoli Busnes, Gwasanaethau Cyhoeddus, a Seicoleg. Dylai eich cais ddangos diddordeb amlwg yn y cwrs.

Anogir y rhai heb y cymwysterau ffurfiol uchod i wneud cais os oes ganddynt brofiad perthnasol yn y sector. Byddwch yn cael eich ystyried yn unigol lle mae profiad priodol yn cael ei ystyried. 

Mae'r cwrs hefyd yn rhoi mynediad arbennig i bersonél sy'n gwasanaethu a chyn-aelodau o'r lluoedd arfog.

Gofynion Ychwanegol:

Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio i sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

* Rhwymedig

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Mae gennych y dewis i astudio naill ai ar-lein neu ar-gampws. Cewch eich addysgu mewn grwpiau bach, fel y gallwn wneud y sesiynau’n hynod ryngweithiol a diddorol. Bydd ein hamgylchedd dysgu ar-lein, Blackboard, yn darparu adnoddau cwrs o ansawdd uchel i chi.

Mae'r rhaglen MSc hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio efelychwyr lefel-uwch, fel Hydra. Bydd hyn yn rhoi mantais i chi yn y farchnad swyddi gan y byddwch yn arbenigo mewn dylunio ac adeiladu gwahanol senarios cymhleth, yn gweithredu ynddynt i ganfod bygythiadau, ac yn dod o hyd i atebion adeiladol a theilwredig ar eu cyfer. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis EuroSim, sy'n efelychiad trawsiwerydd blynyddol o'r Undeb Ewropeaidd. Cewch eich asesu trwy amrywiaeth o aseiniadau, gan gynnwys adroddiadau a chyflwyniadau, a fydd yn eich galluogi i ddatblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnoch ar gyfer dyfodol eich gyrfa.

Staff Addysgu

Addysgir y cwrs hwn gan dîm rhyngwladol o staff sydd i gyd ar flaen y gad yn y pwnc. Maent i gyd yn aelodau o'r Ganolfan Ryngwladol Heddlua a Diogeledd (yr ICPS), sef canolfan blismona a diogeledd hynaf y DU. Mae ganddynt arbenigedd cryf y maent yn ei gyfuno â phrofiad ymarferol. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich addysgu am y datblygiadau diweddaraf yn eich pwnc ac yn elwa o'u cysylltiadau a'u profiad proffesiynol. Mae pob aelod o’r staff yn ymwneud â phrosiectau a digwyddiadau ymchwil rhyngwladol a bydd gennych chi ddigonedd o gyfleoedd i gymryd rhan ynddynt hwythau hefyd.

Cyfleusterau

Bydd myfyrwyr yn elwa o gyfleusterau rhagorol, sy'n cynnwys Canolfan Efelychu Hydra. Mae hwn yn gyfleuster dysgu ac addysgu unigryw a ddefnyddir i gynnal senarios trochol ac efelychol. Mae rhai modiwlau ar y cwrs hwn yn cynnwys ymarfer efelychu sy'n cael ei redeg gan ddefnyddio Hydra. Bydd hyn yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ar gyfer gwneud penderfyniadau ac arwain.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Mae’r MSc Diogeledd Rhyngwladol a Rheoli Risg yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer ystod amrywiol o yrfaoedd sy’n ymwneud â diogeledd yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys yr asiantaethau cudd-wybodaeth a diogeledd, y lluoedd arfog, yr heddlu, y gwasanaeth sifil, cwmnïau ymgynghori, sefydliadau anllywodraethol a chwmnïau diogeledd preifat.

 

Llwybrau Gyrfa Posibl

Gall dilyn cwrs lefel meistr mewn Diogeledd Rhyngwladol a Rheoli Risg agor llwybrau i amryw o yrfaoedd yn y meysydd hynny. Mae rhai opsiynau posibl o ran gyrfa yn cynnwys dadansoddwr diogeledd cenedlaethol, dadansoddwr gwrthderfysgaeth, dadansoddwr cudd-wybodaeth, dadansoddwr risg, arbenigwr seiberddiogelwch, rheolwr diogeledd corfforaethol, ymgynghorydd, ymchwilydd, cynghorydd polisi a newyddiadurwr diogeledd.

 

Cymorth Gyrfaol

Byddwch yn derbyn cefnogaeth gref i archwilio’ch opsiynau gyrfaol ac i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn yr yrfa o'ch dewis. Bydd cyfraniad gan ymarferwyr y cwrs yn eich galluogi i ddarganfod sut brofiad yw gweithio mewn sector penodol ac i adeiladu’ch rhwydwaith o gysylltiadau. At hynny, bydd yr aseiniadau a seilir yn y byd go iawn yn sicrhau eich bod yn gwbl gymwys ar gyfer y gweithle nesaf.