PGCert

Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth

Mae ein cwrs Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth yn cynnig y cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel chi weithredu AI yn llwyddiannus yn eich ymarfer, gan ganiatáu datblygiadau amlwg i wasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau gwell i gleifion.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae ein cwrs Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth yn cynnig y cyfle i weithwyr gofal iechyd proffesiynol fel chi weithredu AI yn llwyddiannus yn eich ymarfer, gan ganiatáu datblygiadau amlwg i wasanaethau gofal iechyd a chanlyniadau gwell i gleifion.

Wedi'i gynllunio ar gyfer

Mae'r cwrs PGCert Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth hwn wedi'i anelu at bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd â gradd israddedig gysylltiedig sydd â diddordeb yn y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial mewn gofal iechyd.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Yn addas ar gyfer

  • Meddygon Teulu
  • Nyrsys
  • Fferyllwyr
  • Radiograffwyr
  • Ffarmacolegwyr
  • Gweithwyr meddygol proffesiynol eraill

Trosolwg o'r Modiwl

Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth ar-lein yn caniatáu ichi astudio am chwe mis yn unig ac mae'n gwrs rhan-amser, dysgu o bell. Mae'r cwrs yn werth 60 credyd ac yn cynnwys tri modiwl o 20 credyd, pob un yn rhedeg dros gyfnod o chwe wythnos.

Modiwl 1: Sylfeini Deallusrwydd Artiffisial mewn Gofal Iechyd
Cyflwyno myfyrwyr i hanfodion Deallusrwydd Artiffisial (AI) a'i gymwysiadau mewn meddygaeth. Bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth o dechnolegau AI y gellir eu defnyddio i wella cywirdeb diagnostig, cynllunio triniaethau a chanlyniadau cleifion o fewn lleoliadau gofal iechyd.

Modiwl 2: Cymwysiadau Deallusrwydd Artiffisial mewn Ymarfer Meddygol
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o gymwysiadau cyfredol a rhai sy'n dod i'r amlwg o ddeallusrwydd artiffisial ar draws amrywiaeth o gyd-destunau meddygol, gan wella eu sgiliau dadansoddi beirniadol ac ymdrechu i wella canlyniadau cleifion.

Modiwl 3: Goblygiadau Moesegol, Cyfreithiol a Chymdeithasol Deallusrwydd Artiffisial mewn Meddygaeth
Datblygu gwybodaeth a galluoedd myfyrwyr wrth asesu heriau moesegol, cyfreithiol a chymdeithasol amlochrog sy'n ymwneud ag integreiddio AI mewn gofal iechyd.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut fyddwch chi'n dysgu

Mae'r rhaglen hon yn pwysleisio dysgu trwy gymryd rhan weithredol mewn trafodaethau sy'n seiliedig ar achosion, myfyrio, a senarios bywyd go iawn. Mae myfyrwyr yn ymgysylltu ag achosion clinigol sy'n adlewyrchu arfer bob dydd, gan feithrin datrys problemau a chymhwyso sy'n seiliedig ar dystiolaeth o'r cychwyn cyntaf.

Ar draws y modiwlau, mae asesiadau wedi'u hintegreiddio â dysgu. Bob wythnos, byddwch yn gweithio trwy ddau i dri achos clinigol, gan eu trafod a myfyrio arnynt gyda chymheiriaid dan arweiniad tiwtor arbenigol. Mae'r trafodaethau hyn yn ffurfio craidd eich dysgu ac maent hefyd yn sail i'ch asesiadau.

Mae ein dulliau addysgu arloesol wedi'u cynllunio i'ch helpu i drosi'r dysgu hwn yn arfer clinigol yn y byd go iawn. Bydd angen i chi fewngofnodi'n rheolaidd i gymryd rhan mewn trafodaethau, yn ddelfrydol yn ddyddiol, ac ymrwymo tua dwy awr y dydd i'ch astudiaethau. Mae ein Tîm Cymorth Myfyrwyr ymroddedig ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu, o lywio ein platfform ar-lein i reoli dyddiadau cau.

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Bydd gan ymgeiswyr fel arfer radd dosbarth cyntaf neu gymhwyster cyfatebol (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio.

Ystyrir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. Mewn rhai achosion, gellir gofyn i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyfforddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol angenrheidiol.

Dogfennau Angenrheidiol

  • Copi o'ch CV wedi'i ddiweddaru gan gynnwys eich cyfeiriad a'ch dyddiad geni
  • Copi o'ch tystysgrif gradd israddedig
  • Enw a chyfeiriad e-bost rhywun sy'n gallu darparu geirda, gall hyn fod yn gydweithiwr, cyflogwr neu gyn-diwtor
  • Datganiad personol manwl yn egluro pam yr hoffech chi ymgymryd â'r cwrs
  • Copi o'ch prawf cymhwysedd Saesneg

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Cyfeiriwch at wefan ein partner cydweithredol.

Gwefan Learna

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.