Ffeindiwch gwrs

Doethur mewn Athroniaeth - PhD

Dod yn arbenigwr, datrys heriau cymhleth, a chael effaith ystyrlon trwy ymchwil wreiddiol.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Busnes a Rheolaeth Doethur mewn Gweinyddu Busnes - DBA

Mae'n cefnogi uwch arweinwyr i ddod yn unigolion sy'n meddwl yn feirniadol sydd â'r gallu i gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn lleoliad cymhwysol i wneud newid go iawn. Ar gael yn llawn amser neu ran-amser, mae Doethuriaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes PDC yn ddewis rhagorol i unigolion sy'n dymuno ymgymryd ag astudiaeth Ddoethurol tra’u bod mewn swyddi rheoli llawn amser.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Addysg ac Addysgu Dychwelyd i Addysgu

Bydd y cwrs yn eich galluogi i ymgyfarwyddo â'r safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arwain, datblygu amrywiaeth o strategaethau rheoli ymddygiad, a meithrin a gwella eich sgiliau cymhwysedd digidol yn yr ystafell ddosbarth.

  • Israddedig
  • Casnewydd
Nyrsio Dychwelyd i Ymarfer

Bydd y cwrs yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu, adnewyddu a gwella’r wybodaeth, y sgiliau, y gwerthoedd proffesiynol a’r hyfedredd sy'n ofynnol gan nyrs gofrestredig i ailymuno â chofrestr broffesiynol y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth neu aros arni yn ei maes ymarfer arfaethedig.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Cyfrifiadura Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol - BSc (Anrh)

Gallech fod wrth wraidd y broses datblygu gemau cyfrifiadurol, o ysgrifennu cod, profi a thrwsio chwilod, i gynhyrchu offer er mwyn i aelodau eraill o'r tîm eu defnyddio.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Ffasiwn Dylunio Ffasiwn - BA (Anrh)

Adeiladwch eich hunaniaeth greadigol eich hun a datblygwch y sgiliau i droi syniadau yn ddyluniadau blaengar. Cewch brofiad ymarferol ym meysydd dylunio ffisegol a digidol wrth archwilio technolegau newydd, arferion y diwydiant a dulliau cyfrifol o ymdrin â ffasiwn.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Dylunio Gemau - BA (Anrh)

Ewch ati i greu a chynhyrchu gemau o'r diwrnod cyntaf.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Dylunio Dylunio Mewnol - BA (Anrh)

Dewch yn ddylunydd creadigol, meddylgar a phroffesiynol yn PDC. Profwch addysgu sy'n canolbwyntio ar ddiwydiant o'r diwrnod cyntaf gyda briffiau byd go iawn i roi hwb i'ch gyrfa yn y maes cyffrous hwn.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Dylunio Dylunio Setiau Teledu a Ffilm - BA (Anrh)

Ymgollwch ym myd cyffrous dylunio cynyrchiadau ffilm a theledu trwy ddysgu prosesau dylunio, cyfarwyddo ffilmiau byr a pharatoi i gamu i adrannau celf ffilm a theledu.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Gwyddoniaeth Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt - BSc (Anrh)

Dysgwch gan arbenigwyr sy'n ymchwilwyr gweithredol, dewch i wybod am offer a theorïau arloesol, ac enillwch brofiad ymarferol yn y DU, De Affrica, a De America.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Gwyddoniaeth Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen - BSc (Anrh)

Dysgwch gan arbenigwyr sy'n ymchwilwyr gweithredol, dewch i wybod am offer a theorïau arloesol, ac enillwch brofiad ymarferol yn y DU, De Affrica, a De America.

  • Israddedig
  • Pontypridd
Economeg Iechyd Cymhwysol - MSc

Nod yr MSc Economeg Iechyd yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth Economeg Iechyd.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Economeg Iechyd Cymhwysol - PGDip

Mae'r cwrs yn helpu myfyrwyr i ddeall pam mae Economeg Iechyd wedi dod yn rhan annatod o wneud penderfyniadau gofal iechyd, yn ogystal â deall yr egwyddorion, y methodolegau a'r prosesau sylfaenol.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Gemau, Animeiddio ac Effeithiau Gweledol Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol - BA (Anrh)

Gwnewch y mwyaf o’ch rhyddid creadigol ac ymdeimlad o berthyn wrth i chi ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau sy’n cael eu chwennych gan stiwdios gorau’r byd o ran ffilm, teledu a hysbysebion.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Peirianneg Electroneg a Thechnoleg Gwybodaeth - MSc

Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Electroneg a TG. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

  • Ôl-raddedig
  • Pontypridd
Endocrinoleg - MSc

Nod cynnwys a strwythur y cwrs yw creu gweithwyr proffesiynol sydd â mwy o hyder a dealltwriaeth o reoli cleifion ag anhwylderau endocrin, drwy astudiaethau achos a thrafodaeth.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Endocrinoleg - PGDip

Bydd y cwrs ar-lein hwn, sy'n cael ei gynnal gyda'r partner cydweithredol Diploma MSc, yn eich helpu i ddatblygu dulliau creadigol o ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a dod yn eiriolwr pwysig wrth ddarparu gofal i bobl â phroblemau sy'n gysylltiedig ag endocrinoleg.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein
Ffilm a'r Cyfryngau Ffilm - BA (Anrh)

Datblygwch eich uchelgais greadigol a mireiniwch eich llais fel gwneuthurwr ffilm gyda'n gradd BA (Anrh) Ffilm ddeinamig a blaengar. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant sgrin trwy hyfforddiant ymarferol a gwybodaeth ffilm helaeth.

  • Israddedig
  • Caerdydd
Ffilm ac Effeithiau Gweledol Ffilm Ddogfen - MA

Byddwch yn gweithio gyda'r gweithwyr proffesiynol gorau yn y diwydiant ac yn ennill profiad o weithio mewn cwmni cynhyrchu ffeithiol. Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau angenrheidiol i chi ddod yn wneuthurwr ffilmiau dogfen yn y diwydiant heddiw, gan gynnwys adrodd storïau, sgiliau ymchwil, hunan-ffilmio, gwneud ffilmiau gyda chamera sengl a golygu ffilmiau.

  • Ôl-raddedig
  • Caerdydd
Ffisioleg Glinigol - MSc

Os ydych yn barod i symud ymlaen ond ddim eisiau gohirio’ch gyrfa, ein MSc Ffisioleg yw eich llwybr cyflym i swyddi uwch.

  • Ôl-raddedig
  • Ar-lein