MSc

Endocrinoleg

Cwrs meistr ar-lein yw MSc Endocrinoleg sy'n ymarferol gyda ffocws clinigol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Nod cynnwys a strwythur y cwrs yw creu gweithwyr proffesiynol sydd â mwy o hyder a dealltwriaeth o reoli cleifion ag anhwylderau endocrin, drwy astudiaethau achos a thrafodaeth.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs yn darparu paratoad ôl-gymhwyso priodol ar gyfer rolau mewn timau arbenigol cysylltiedig ag endocrin, nyrsio arbenigol, nyrsio practis, ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sydd am ddarparu gwasanaethau cysylltiedig ag endocrin mewn gofal sylfaenol.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Trosolwg o'r Modiwl

Mae myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r cwrs Diploma Ôl-raddedig yn gwneud yr MSc blwyddyn sy'n cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
  • Prosiect Proffesiynol

Bydd myfyrwyr sy'n penderfynu cofrestru'n uniongyrchol ar yr MSc (yn hytrach na'r Diploma Ôl-raddedig) yn gwneud y fersiwn dwy flynedd, sy'n cynnwys y modiwlau canlynol:

  • Anhwylderau'r hypothalamws a'r bitẅidol
  • Anhwylderau'r thyroid
  • Anhwylderau'r adrenals
  • Anhwylderau’r parathyroidau, calsiwm ac asgwrn
  • Endocrinoleg atgenhedlu
  • Canser sy'n gysylltiedig ag endocrin
  • Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol 
  • Prosiect Proffesiynol

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.

Staff addysgu

cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i ddefnyddio ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna