MSc

Economeg Iechyd Cymhwysol

Mae'r cwrs MSc Economeg Iechyd ar-lein, a gyflwynir mewn partneriaeth â Diploma MSc, yn darparu llwybr dilyniant ar gyfer y cwrs Diploma Ôl-raddedig Economeg Iechyd.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Nod yr MSc Economeg Iechyd yw creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu’n feirniadol, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth Economeg Iechyd.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bydd y radd meistr ar-lein mewn Economeg Iechyd yn rhoi’r wybodaeth ofynnol i fwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i drin cleifion.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Sgiliau a addysgir

  • Ymchwil
  • Gwerthuso
  • Datrys problemau
  • Arweinyddiaeth

Trosolwg o'r Modiwl

Helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i Economeg Iechyd Cymhwysol ar gyfer ymchwil gwneud penderfyniadau gofal iechyd.

Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol

Helpu myfyrwyr i gydnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i Economeg Iechyd Cymhwysol ar gyfer ymchwil gwneud penderfyniadau gofal iechyd.

Prosiect Proffesiynol

I gynhyrchu'r prosiect proffesiynol, mae myfyrwyr yn parhau i ddefnyddio'r cwrs ar-lein; fodd bynnag mae llawer o'r gwaith yn hunangyfeiriedig. Disgwylir i fyfyrwyr yn yr wyth wythnos gyntaf ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol. Mae myfyrwyr yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb / cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau). Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 gair) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Mewn partneriaeth â

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dan gos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

I astudio dros flwyddyn bydd angen i chi fod wedi cwblhau'r Diploma Ôl-raddedig mewn Economeg Iechyd Cymhwysol yn llwyddiannus - naill ai gyda Diploma MSc neu brifysgol arall yn y DU wedi cwblhau modiwlau tebyg. Gallwn drafod hyn gyda chi fel rhan o'ch cais.

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Disgwylir i fyfyrwyr ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol yn yr 8 wythnos gyntaf. Yna byddwch yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).

Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.

Staff addysgu

Bydd y myfyriwr a'r tiwtor yn rhyngweithio'n rheolaidd (wythnosol) ar ardal drafod benodol y myfyrwyr / tiwtor neu drwy unrhyw ddulliau cyfathrebu eraill y mae'r ddau barti yn eu hystyried yn briodol (ffôn/SKYPE/e-bost).

Cyfleusterau

Bydd gan fyfyrwyr fynediad at dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion a thrafodion cynadleddau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna