Mae rheolwyr yn gyfrifol am gynllunio, trefnu, arwain a rheoli swyddogaethau mewn sefydliad. Bydd y cwrs ar-lein yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-postgraduate-diploma-leadership-in-healthcare-placeholder-01.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
Bydd y cymhwyster ôl-raddedig hwn yn eich helpu i ddatblygu diwylliant tîm o ymddiriedaeth sy'n sicrhau canlyniadau; llywio timau drwy newid gyda dycnwch; mynd i'r afael â heriau’n arloesol ac yn foesegol a gwneud penderfyniadau cadarnhaol yn hyderus.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd y cwrs arweinyddiaeth ar-lein hwn, a fwriedir ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio, yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fod yn arweinydd.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Meddygfa Deulu
- Rheolwr Fferyllfa
- Rheolwr Cyfarwyddiaeth Gofal Iechyd
- Rheolwr Cwmni Fferyllol
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Cyfathrebu
- Cymhelliant
- Darparu Ysbrydoliaeth ac Arweiniad
- Annog Gweithwyr
Trosolwg o'r Modiwl
Mae hwn yn fwy na chwrs rheoli. Mae rheolwyr yn gyfrifol am gynllunio, trefnu, arwain a rheoli swyddogaethau mewn sefydliad. Ond nid yw pob rheolwr yn arweinydd. Byddwch chi'n astudio'n gyfan gwbl ar-lein am un flwyddyn galendr. Byddwch chi'n astudio chwe modiwl, pob un yn para chwe wythnos.
Arweinyddiaeth mewn Gofal Iechyd
Drwy gydol y modiwl hwn, byddwch yn archwilio cymhlethdodau cymhwyso damcaniaethau arweinyddiaeth mewn lleoliadau gofal iechyd ‘byd go iawn’.
Datblygu Potensial Dynol a Sefydliadol mewn Gofal Iechyd
Bydd y modiwl hwn yn rhoi’r gallu i chi fel arweinydd i ddatblygu a gwella gwasanaethau drwy harneisio'r potensial dynol a sefydliadol mewn sefydliadau gofal iechyd.
Llywodraethu Ansawdd, Clinigol a Chorfforaethol mewn Gofal Iechyd
Drwy gydol y modiwl hwn, byddwch yn cymhwyso theori ac ymarfer Llywodraethu Clinigol a Gwella Ansawdd i leoliadau gofal iechyd cymhleth.
Datblygu Gyrfa a Thîm mewn Sefydliadau Gofal Iechyd
Drwy gydol y modiwl hwn, byddwch yn archwilio amrywiaeth o adnoddau datblygu tîm a gyrfa a gwerthuso eu rôl wrth gyfrannu at ddatblygiad sefydliadol.
Strategaeth ac Arloesi ar gyfer Arweinwyr Gofal Iechyd
Drwy gydol y modiwl hwn, byddwch yn datblygu sgiliau lefel uchel i ddeall gwerth strategaeth ac arloesedd i arweinwyr mewn sefydliadau gofal iechyd.
Rheoli Newid mewn Sefydliadau Gofal Iechyd
Drwy gydol y modiwl hwn, byddwch yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hyblyg a'r gallu i arwain newid o fewn strwythurau sefydliadol gofal iechyd cymhleth.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Gradd anfeddygol yn gweithio mewn rôl gofal iechyd
- Gradd feddygol
- Cymwysterau gofal iechyd proffesiynol perthnasol (e.e. meddyg, nyrs).
Mae pob cais yn cael ei asesu’n unigol felly os nad oes gennych chi un o’r uchod efallai y bydd eich profiad blaenorol yn cael ei ystyried.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Er y byddwch chi'n dysgu'n gyfan gwbl ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna