Arwain mewn Gofal Iechyd
Bydd y cymhwyster Meistr hwn yn datblygu gwybodaeth am ddulliau a thechnegau ymchwil yn ogystal â'r strategaethau personol a damcaniaethol sy'n ofynnol i sicrhau newid.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-msc-leadership-in-healthcare-placeholder-01.jpg)
Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso amrywiaeth o ddamcaniaethau ac athroniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth i sefyllfaoedd cymhleth mewn lleoliadau gofal iechyd, a sut i harneisio potensial adnoddau dynol mewn sefydliadau gofal iechyd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Bwriedir ar gyfer
- Rheolwyr Meddygfeydd Teulu
- Rheolwyr Fferyllfeydd
- Rheolwyr Cyfarwyddiaethau Gofal Iechyd
- Rheolwyr Cwmnïau Fferyllol
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Cyfathrebu
- Cymhelliant
- Darparu Ysbrydoliaeth ac Arweiniad
- Annog Gweithwyr
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r MSc mewn Arwain mewn Gofal Iechyd yn cael ei gynnal dros un flwyddyn galendr. Gan ddechrau gyda modiwl ar-lein cychwynnol 12 wythnos i ddatblygu sgiliau mewn arfarnu beirniadol a gwybodaeth am fethodolegau ymchwil, yna bydd myfyrwyr yn cwblhau'r modiwl prosiect proffesiynol sy'n cynnwys cynnig 1,500 o eiriau ac adroddiad proffesiynol 10,500 o eiriau.
Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
Nod y modiwl hwn yw helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau sy'n benodol i ymchwil arweinyddiaeth. Bydd yn eich paratoi ar gyfer y prosiect proffesiynol drwy edrych ar ddulliau ansoddol a meintiol.
Prosiect Proffesiynol
Bydd y modiwl yn dibynnu ar greu darn o waith yn seiliedig ar brosiect clinigol penodol sy'n berthnasol i ymarfer y myfyriwr. Gall y prosiect gynnwys adolygiad llenyddiaeth ac arfarniad o'r dystiolaeth; archwilio ymarfer gan gynnwys sefydliadol neu glinigol; adolygu a gweithredu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth; ymchwil ansoddol neu feintiol (ni ragwelir ymchwil ffurfiol sy'n cynnwys pynciau dynol); adolygiad yn seiliedig ar achos(ion) ac ansawdd gwasanaeth gydag arfarniad beirniadol; adroddiad achos, adolygiad o lenyddiaeth ac asesiad sefydliadol.
Gofynion mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
I wneud cais am y cwrs hwn mae angen i chi fod wedi cwblhau'r cwrs PGDip Arweinyddiaeth mewn Gofal Iechyd yn llwyddiannus neu gymhwyster tebyg.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Er y byddwch chi'n dysgu'n gyfan gwbl ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio’ch ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna