Arwain mewn Chwaraeon
Mae natur y diwydiant chwaraeon yn newid yn gyflym ac mae llawer mwy o angen nag erioed o'r blaen am gydlynwyr, swyddogion datblygu a rheolwyr yn y meysydd chwaraeon, cymunedol a gweithgaredd corfforol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/sport/ma-leadership-in-sport.png)
Manylion Cwrs Allweddol
Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid yn y diwydiant
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r rhaglen yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n llawn amser mewn diwydiant ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu arweinyddiaeth i gynorthwyo arweinwyr y presennol a'r dyfodol yn y proffesiwn.
Llwybrau Gyrfa
- Swyddog Datblygu
- Rolau arwain
- Rolau Cyfarwyddwr Rhanbarthol
- Cyfarwyddwr Hyfforddi
Sgiliau a addysgir
- Arweinyddiaeth
- Hyfforddi Effeithiol
- Ymchwil
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae’r MA Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon wedi’i dylunio mewn ymgynghoriad agos ag amrywiaeth o bartneriaid diwydiant i sicrhau bod myfyrwyr yn gweld eu bod yn cael gwerth am arian yn astudio modiwlau pwysig sy’n angenrheidiol ar gyfer eu datblygiad proffesiynol.
- Prosiect Ymchwil
- Arwain Pobl mewn Chwaraeon
- Egwyddorion Busnes Chwaraeon
- Datblygiad Proffesiynol yn Seiliedig ar Waith
- Yr Amgylchedd Perfformiad o Safon (dewisol)
- Hyfforddi Effeithiol (dewisol)
- Menter ac Arloesi mewn Chwaraeon (dewisol)
- Arweinyddiaeth Strategol mewn Chwaraeon (dewisol)
- Dylunio Cwricwlwm a Dulliau Cyfoes o Ddatblygu Chwaraewyr (dewisol)
- Addysgeg mewn Pêl-droed (dewisol)
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Mae yna ddull unigryw o gyflwyno cyrsiau trwy gyflwyno hyblyg a chynnwys dysgu cyfunol. Bydd y cwrs yn cynnig modiwlau a fydd yn cael eu cyflwyno trwy gyflwyniad bloc preswyl a chynnwys ar-lein, i wneud y cwrs yn fwy hygyrch i'r rhai sy'n gweithio'n llawn amser yn y diwydiant. Bydd arddull cyflwyno blociau preswyl yn mabwysiadu dull rhwydwaith sydd fwy fel 'gweithdy' i annog dysgu gan eraill ar draws y grŵp.
Mae’r cwrs MA Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon yn cael ei gyflwyno drwy amrywiaeth o wahanol ddulliau. Mae'r rhain yn cynnwys: darlithoedd wyneb yn wyneb; tiwtorialau; trafodaethau grŵp; rhwydweithio; darlithoedd gyda gwestai, dysgu’n seiliedig ar waith; mae rhai modiwlau’n cael eu cyflwyno ym Mhrifysgol De Cymru ac mewn lleoliadau amrywiol ar draws De Cymru; astudiaeth ar-lein (trwy Blackboard, grwpiau trafod, cyfryngau cymdeithasol).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Tom Overton, Arweinydd y Cwrs
Jay Probert
Rob Griffiths
Tony Wallis
Stephen Woodfine
Melanie Tuckwell
Grant Kalahar
Dr Lee Baldock
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Lleoliadau
I fyfyrwyr nad ydynt yn gweithio yn y diwydiant ar hyn o bryd ond sy'n astudio'r radd hon, bydd y cwrs yn rhoi cyfle gwych iddynt weithio gydag ystod o bartneriaid. I'r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant, y gobaith yw y bydd y cwrs yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio ychwanegol a rhannu syniadau trwy drafodaethau anffurfiol, a all ddod â buddion ychwanegol enfawr ar ben eu dysgu ffurfiol.
Mae dysgu’n seiliedig ar waith wedi'i ymgorffori drwy gydol y cwrs gyda phwyslais arbennig ar y modiwl Datblygiad Proffesiynol yn Seiliedig ar Waith, lle bydd myfyrwyr yn gweithio gyda chyflogwr am 140 awr. Ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant, gallai hyn fod naill ai gyda'u cyflogwr presennol neu gyflogwr arall.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Bydd gennych fynediad i ystafell ddadansoddi nodiannol a dros 30 erw o gaeau chwarae, gan gynnwys pum cae â llifoleuadau. Mae gennym gae 'astroturf' wedi'i drin â thywod, yn ogystal â chae 3G maint llawn a gymeradwyir gan FIFA. Yn ogystal â’r caeau pob tywydd hyn, mae chwe chae pêl-droed glaswellt, tri chae rygbi glaswellt, a phafiliwn newid mawr. Mae ein cyfleusterau’n cael eu defnyddio’n rheolaidd gan dimau proffesiynol rhyngwladol, megis tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, yn ogystal â charfanau rygbi teithiol Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia. Mae hyn yn cadarnhau ansawdd uchel ein caeau ac amlbwrpasedd ein hoffer.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae mynediad i'r cwrs fel arfer yn gofyn am ddosbarthiad gradd Anrhydedd o 2: 2 o leiaf mewn pwnc perthnasol, er y gellir ystyried profiad gwaith cysylltiedig ee 3 blynedd yn gweithio ym maes datblygu chwaraeon, rheoli hamdden neu hyfforddi.
Gofynion Ychwanegol:
- Efallai y bydd angen cyfweliad.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£16,900
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
*Rhwymedig
Bydd yn rhaid i fyfyrwyr ariannu cost teithio i elfennau preswyl y cwrs.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.