Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff
Mae'r cwrs MSc Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Corff yn eich galluogi i ddatblygu eich dealltwriaeth ddamcaniaethol o'r maes pwnc, datblygu eich galluoedd mesur ac yn y pen draw eich helpu i arbenigo yn eich maes diddordeb.
Gwneud Cais Yn Uniongyrchol Gwneud Cais Drwy UCAS Archebu Lle Ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio Gyda NiMae'r cwrs hwn yn defnyddio ein labordai a gymeradwywyd gan Gymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES) ar Gampws Glyn-taf a'n hystafelloedd dadansoddi cryfder a chyflyru a pherfformiad o'r radd flaenaf yn ein Parc Chwaraeon.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy’n dymuno datblygu eu gyrfa mewn chwaraeon, iechyd a/neu wyddor ymarfer corff. Mae'n darparu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn perfformiad chwaraeon elitaidd neu ymarfer corff er budd iechyd.
Llwybrau Gyrfa
- Ffisiolegydd (Ymarfer Corff/Clinigol)
- Academia (Ymchwil/Hyfforddiant)
- Chwaraeon Perfformiad
- Gwasanaethau Brys
- Dysgu
Sgiliau a addysgir
- Profi Ffitrwydd
- Sgrinio Iechyd
- Dadansoddiad Maeth
- Cynnal Ymchwil
- Casglu/Dadansoddi Data
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Byddwch yn cwblhau'r cwrs dros gyfnod o 12 mis. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn astudio 5 modiwl penodol i ddatblygu eich dealltwriaeth graidd o'r maes pwnc, ochr yn ochr â 3 modiwl dewisol sy'n eich galluogi i deilwra'r cwrs i'ch diddordebau penodol.
Prosiect Ymchwil
Nod y modiwl hwn yw eich galluogi i ddangos y sgiliau angenrheidiol i gynhyrchu astudiaeth, adnodd neu adroddiad ymchwil empeiraidd, manwl ac ysgolheigaidd. Dewiswch eich goruchwyliwr eich hun i sicrhau bod gennych y cymorth angenrheidiol.
Proses Ymchwil
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich gallu i ddylunio a dadansoddi ymchwil yn ystadegol, gwerthfawrogi cryfderau a chyfyngiadau gwahanol ddyluniadau ymchwil, a rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynhyrchu adolygiad manwl a chynnig ar gyfer astudiaeth ymchwil.
Datblygiad Proffesiynol yn Seiliedig ar Waith
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr i'ch helpu i fod yn fwy cyflogadwy.
Ffisioleg Ymarfer Corff
Nod y modiwl hwn yw gwella eich dealltwriaeth o ffisioleg ymarfer corff, gyda ffocws penodol ar yr hyn sy'n cyfyngu ar berfformiad ymarfer corff. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau technegol a ddefnyddir i asesu perfformiad ymarfer corff ac iechyd.
Cryfder a Chyflyru
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich gallu i roi rhaglenni cryfder a chyflyru effeithiol ar waith mewn amrywiaeth o amgylcheddau perfformio. Mae cysylltiad agos rhyngddo a'r safonau proffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer achredu gan yr NSCA a'r UKSCA.
Maeth ar gyfer Iechyd a Pherfformiad
Byddwch yn datblygu sgiliau uwch sy'n hanfodol ar gyfer deall y gofynion maethol i sicrhau perfformiad ymarfer corff a hybu iechyd gorau posibl.
Dadansoddi Symudiad
Nod y modiwl hwn yw datblygu eich ymwybyddiaeth o ddadansoddi perfformiad chwaraeon, gyda phwyslais arbennig ar ddadansoddi techneg a dadansoddi nodiannol.
Gweithgaredd Corfforol ac Iechyd
Nod y modiwl hwn yw gwella eich dealltwriaeth o'r berthynas rhwng gweithgaredd corfforol ac atal, trin a rheoli clefydau cronig.
Epidemioleg a Bioystadegau ar gyfer Iechyd y Cyhoedd
Nod y modiwl hwn yw eich cyflwyno i gysyniadau sylfaenol ac uwch mewn epidemioleg a chymhwyso'r cysyniadau hyn wrth astudio iechyd y cyhoedd.
Seicoleg ar gyfer yr Hyfforddwr/Ymarferydd Chwaraeon
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth i fyfyrwyr am sut y gallai seicoleg effeithio ar allu rhanddeiliaid allweddol ym maes chwaraeon i berfformio, ffynnu a phrofi lles meddyliol ym maes chwaraeon.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Fel arfer gradd Anrhydedd yn nosbarth 2: 2 neu'n uwch mewn pwnc gwyddoniaeth perthnasol fel Gwyddor Chwaraeon, Gwyddoniaeth Biofeddygol neu Ffisiotherapy, er y gellir ystyried profiad weithiau.
Croesewir ceisiadau rhyngwladol:
Mae cymwysterau rhyngwladol cyfwerth yn dderbyniol. Bydd y rhai heb gymwysterau o'r fath yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad proffesiynol blaenorol.
Gofynion iaith Saesneg
Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am lefel Saesneg IELTS o 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£1,200
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Cyflwynir y cwrs trwy ddarlithoedd, sesiynau ymarferol a gweithdai grŵp bach; bydd rhai ohonynt yn cael eu harwain gan fyfyrwyr. Mae’r holl ddeunydd addysgu yn cael ei gefnogi gan yr ymchwil diweddaraf, yn ogystal ag ysgogwyr polisi cenedlaethol a lleol. Defnyddir platfform e-ddysgu rhyngweithiol i gefnogi eich dysgu drwy gydol y cwrs. Defnyddir amrywiaeth eang o asesiadau cymhwysol, academaidd a galwedigaethol ar y cwrs modern ac arloesol hwn. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyflwyniadau llafar, adroddiadau labordy, astudiaethau achos, traethodau beirniadol ac mewn un modiwl (Epidemioleg a Bioystadegau ar gyfer Iechyd y Cyhoedd) arholiad.
Staff addysgu
Arweinydd eich cwrs fydd Dr Chris Marley, sy'n un o gyn-fyfyrwyr y brifysgol. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd yr ymennydd fel ymarfer corff, maeth, hypocsia a chyfergyd. Mae ymchwil diweddar Chris wedi canolbwyntio ar yr effaith y mae penio’r bêl mewn pêl-droed yn ei chael ar iechyd yr ymennydd ac mae wedi goruchwylio gwaith sydd wedi ennyn diddordeb y cyfryngau ar led. Mae gan dîm y cwrs gyfoeth o brofiad ym maes gwyddor chwaraeon, iechyd ac ymarfer corff, sy'n cynnwys Dr Lee Baldock, deiliad Trwydded B UEFA ac ymarferydd Seicoleg Chwaraeon; Nathan Evans, hyfforddwr cryfder a chyflyru wedi’i achredu gan yr UKSCA sydd â phrofiad o hyfforddi athletwyr rhyngwladol; a Mel Tuckwell, Cyn-gynghorydd Technegol Pêl-rwyd Cymru a Hyfforddwr Cynorthwyol.
Lleoliadau
Mae'r cwrs yn gofyn i chi gwblhau lleoliad gwaith fel rhan o'n modiwl lleoliad gwaith proffesiynol. Mae hyn yn sicrhau nad yn unig y cewch gyfle i raddio gyda chymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol, ond byddwch hefyd yn cael profiad sy'n berthnasol i'r diwydiant, sy'n hanfodol ar gyfer y myfyriwr graddedig modern. Gan ddefnyddio ein Canolfan Cyflogadwyedd, Menter ac Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon (CEELS), byddwn yn gweithio gyda chi i sicrhau’r lleoliad mwyaf perthnasol ar gyfer eich dyheadau gyrfa yn y dyfodol. Mae rhai enghreifftiau o leoliadau y mae ein myfyrwyr wedi ymgymryd â nhw yn ddiweddar yn cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Academi CPD Dinas Caerdydd, y GIG, swyddi arddangos technegol gyda sefydliadau AU, yn ogystal ag mewn campfeydd a chynlluniau atgyfeirio ymarfer corff gydag awdurdodau lleol.
Cyfleusterau
Bydd gennych fynediad i'n labordai pwrpasol BASES cymeradwy sy'n llawn offer arbenigol. Mae’r labordai hyn a rhai enghreifftiau o’r offer sydd ynddynt wedi’u crynhoi isod:
-Y Labordy Ffisioleg Ymarfer Corff: Ergomedrau, dulliau o asesu ffitrwydd aerobig/anaerobig, samplu gwaed/wrin, profi gweithrediad yr ysgyfaint.
- Labordy Cyfansoddiad y Corff: System pwyso o dan ddŵr, dadansoddiad o rwystriant biodrydanol, caliperau plyg-croen.
-Labordy Biomecaneg: llwyfan grym, dynamomedr isocinetig, dadansoddi cerddediad, meddalwedd dadansoddi fideo.
- Labordy Amgylcheddol: Siambr amgylcheddol normobaidd a all efelychu gwahanol amgylcheddau o bob rhan o'r byd, unedau uwchsain.