MSc

Cyllid a Buddsoddi

Paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn sector ariannol sy’n tyfu ac sy’n gofyn am raddedigion medrus.

Gwneud cais yn uniongyrchol Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Chwefror

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd ein cwrs MSc mewn Cyllid a Buddsoddi yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddeall damcaniaethau, technegau ac amgylchedd rheoleiddiol buddsoddi yn y farchnad ariannol. Byddwch yn astudio amrywiaeth o fodiwlau cyllid a buddsoddi ac yn defnyddio meddalwedd efelychu pwerus a chronfeydd data ariannol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Myfyrwyr sy'n symud ymlaen o raddau israddedig mewn meysydd cysylltiedig fel cyllid neu fusnes a rheoli, neu unigolion sy'n chwilio am newid gyrfa ar ôl gweithio am sawl blwyddyn. Wedi’i achredu gan.

Llwybrau Gyrfa

  • Rheoli risg
  • Rheoli cynnyrch ariannol
  • Masnachu ariannol
  • Dadansoddwr busnes
  • Buddsoddiad

Y sgiliau a addysgir

  • Meddwl yn feirniadol
  • Ymchwilio
  • Sgiliau dadansoddi
  • Rheoli risg
  • Ysgrifennu adroddiadau

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cynnwys ymarferol a chyfoes

Mae ein cwrs yn cynnwys amrywiaeth o gynnwys o theori cyllid traddodiadol a buddsoddiad i foeseg a materion y farchnad ariannol.

Dysgu drwy brofiad

Profiad o fyd prysur masnachu a buddsoddi ariannol yn ein Hystafell Masnachu Ariannol sy’n cynnig efelychiad realistig drwy feddalwedd o safon diwydiant.

Addysgu gan arbenigwyr yn y diwydiant

Mae gan ein darlithwyr flynyddoedd o brofiad mewn meysydd fel cryptoarian, rheoleiddio bancio, cyllid ymddygiadol, a chyfrifeg cynaliadwyedd. 

Trosolwg o’r Modiwl

Mae ein meistr Cyllid a Buddsoddi yn gosod sylfaen gadarn o ran theori ac ymarfer gwneud penderfyniadau ariannol. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o faterion ymddygiadol, rheoliadol a moesegol yn ogystal â'r sgiliau rheoli a dadansoddi sydd eu hangen i'ch tywys i flaen y gad yn y byd ariannol.

Materion Cyfoes ym maes Cyllid
Ymchwilio'n feirniadol i faterion cyfoes penodol ym maes cyllid, dan arweiniad ymchwilwyr yn y maes ac arbenigwyr pwnc.

Dadansoddi Buddsoddiadau a Phortffolios
Datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i allu buddsoddi’n llwyddiannus mewn cynnyrch sy’n cael ei fasnachu ar farchnadoedd ariannol.

Dulliau Ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid
Dysgu am faterion dull a methodoleg sy’n ymwneud ag ymchwil academaidd yn nisgyblaethau cyllid a chyfrifeg cyn cwblhau traethawd hir.

Cyllid Corfforaethol
Deall materion strategol cyllid mewn lleoliad busnes, o ddulliau gwerthuso buddsoddiadau i fuddsoddi cyfalaf a rheoli asedau tymor byr.

Dulliau Meintiol ar gyfer Rheoli Risg a Chyllid
Dysgu gwybodaeth allweddol a datblygu sgiliau mewn mathemateg, ystadegau, a dadansoddi data ym maes cyllid.

Rheoleiddio a Chydymffurfio Gwasanaethau Ariannol Byd-eang
Deall y fframweithiau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol sy’n berthnasol i wasanaethau ariannol ar sail fyd-eang a gwerthuso fframweithiau rheoleiddio mewn gwahanol wledydd.

Traethawd Hir – Cyfrifeg a Chyllid
Cynnal darn trylwyr a manwl o ymchwil ar bwnc o’ch dewis.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch chi’n dysgu

Defnyddir dull ymarferol dan arweiniad myfyrwyr sy'n cwmpasu dulliau dysgu gweithredol, cydweithredol sy'n seiliedig ar broblemau, lle mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad â sefyllfaoedd yn y byd go iawn ac yn cael y sgiliau a'r cyfleoedd i ddod o hyd i atebion ymarferol. At hynny, mae ein prosesau addysgu wedi'u gwreiddio mewn ymchwil gyfoes a phrofiadau diwydiant ymarferol y tîm addysgu. 

Staff addysgu

Cewch eich addysgu gan arbenigwyr sydd â blynyddoedd lawer o brofiad yn y diwydiannau cyllid a gwasanaethau ariannol ac ymchwilwyr sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd. Mae gan ein darlithwyr hefyd brofiad sylweddol o ddarparu gofal bugeiliol ac arweiniad i fyfyrwyr ôl-raddedig.   

Lleoliadau

Mae myfyrwyr yn cael cyfle i wirfoddoli ar gyfer gwaith prosiect ac ymgynghori gyda'n Clinig Ysgol Busnes. 

Cyfleusterau

Mae ein Hystafell Masnachu Ariannol yn cynnig efelychiad realistig o ystafell fasnachu broffesiynol. Bydd yn rhoi cipolwg i chi ar sgiliau a seicoleg masnachu ariannol ar yr un pryd â’ch helpu i fagu hyder. Byddwch yn dysgu dadansoddi data, gosod archebion, gwneud rhagfynegiadau, a dadansoddi’r newyddion cyn ymateb yn briodol.  

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Bydd pob math o yrfaoedd ariannol ar gael i’n graddedigion Cyllid a Buddsoddi, ym mhob math o sefydliadau. Mae ein graddedigion diweddar wedi symud ymlaen i ymgymryd â rolau mewn gwarantu, paragynllunio, rheoli cynnyrch ariannol, rheoli risg, cyfnewid tramor, dadansoddi busnes, trysorlys/twf/buddsoddiad a phrisio, gweithio i fanciau mawr, cwmnïau yswiriant a chwmnïau gwasanaethau proffesiynol ymhlith eraill.  

 

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn cael eu rhestru yn southwales.ac.uk/careers ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i’r cwrs neu’r pwnc yn cael eu rhedeg ar lefel leol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. P’un ai a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr neu fentoriaid yn y diwydiant, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi’r hyder, yr anogaeth a’r cymhelliant i ymgeisio. 

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion Mynediad

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf  neu mae’n bosib y bydd gymhwyster rhyngwladol cyfatebol hefyd yn dderbyniol. 

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am lefel Saesneg IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth.

Gofynion Ychwanegol:

Nodwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar gyfer cael mynediad i’r cwrs hwn, ni fydd rhai proffesiynau'n ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a'ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, argymhellwn  eich bod yn gwirio gyda'r corff proffesiynol perthnasol neu'n cyfeirio at eu polisi recriwtio er mwyn sicrhau na fydd eich euogfarn yn eich rhoi dan anfantais. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Darperir gwerslyfrau drwy lyfrgell PDC ond efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu eu copïau preifat eu hunain. Mae'r gost hon yn ddewisol.

Cost: I fyny at £300

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.