Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
Mae'r cwrs Datblygu Gemau Cyfrifiadurol hwn yn cynnig set o sgiliau a fydd yn eich helpu i gael gwaith fel rhaglennydd gemau
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Trosolwg o'r Cwrs
Gallech fod wrth wraidd y broses datblygu gemau cyfrifiadurol, o ysgrifennu cod, profi a thrwsio chwilod, i gynhyrchu offer er mwyn i aelodau eraill o'r tîm eu defnyddio.
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Datblyga dy sgiliau rhaglennu drwy ddysgu sut i ddatrys problemau, datblygu meddalwedd ac ysgrifennu cod clir sy’n hawdd ei gynnal. Byddi di’n archwilio rhaglennu gwrthrych-ganolog, cyfieithwyr, systemau gweithredu ac amgylcheddau datblygu.
Datblyga dy ddealltwriaeth o systemau gwybodaeth drwy gymhwyso sgiliau ymarferol mewn dylunio a gweithredu. Byddi di hefyd yn dysgu nodi risgiau diogelwch, gwendidau a bygythiadau posibl mewn gwahanol amgylcheddau cyfrifiadurol.
Adeilada dy ddealltwriaeth o sut mae systemau cyfrifiadurol yn gweithio drwy archwilio eu trefniadaeth, eu pensaernïaeth a’u cysylltedd. Byddi di’n dysgu sut mae gwahanol gydrannau’n gweithio gyda’i gilydd i gefnogi cyfathrebu a chyfrifiadura.
Archwilia sut mae’r diwydiant cyfrifiaduron yn gweithio drwy ddatblygu gemau, wrth ddatblygu dy sgiliau academaidd, proffesiynol a chyflogadwyedd. Byddi di’n ystyried materion cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol ym maes cyfrifiadura.
Adeilada dy hyder gyda chysyniadau mathemategol ac ystadegol a dysga sut i’w cymhwyso i broblemau cyfrifiadurol. Byddi di’n datblygu sgiliau datrys problemau ac yn gwerthuso cryfderau a chyfyngiadau dy atebion.
Datblyga dy sgiliau rhaglennu drwy archwilio strwythurau data cyffredin a’r algorithmau a ddefnyddir i weithio gyda nhw’n effeithlon. Byddi di hefyd yn adeiladu ar dy ddealltwriaeth o raglennu gwrthrych-ganolog a’i gymwysiadau ymarferol.
Archwilia rôl systemau gweithredu mewn cyfrifiadura modern a datblyga dy ddealltwriaeth o sut maent yn rheoli adnoddau, yn cefnogi cymwysiadau ac yn darparu’r sylfeini ar gyfer systemau cyfrifiadurol bob dydd.
Archwilia hanfodion graffeg gyfrifiadurol a dysga sut i ddefnyddio APIs graffeg modern. Byddi di’n datblygu dy ddealltwriaeth o theori graffeg ac yn meithrin sgiliau ymarferol i greu a gweithio gyda graffeg gyfrifiadurol.
Datblyga dy ddealltwriaeth o biblinellau datblygu gemau 2D a 3D wrth greu offer a chymwysiadau ymarferol. Byddi di’n dysgu sut mae’r offer hyn yn cefnogi’r broses o gynhyrchu cynnwys ar gyfer gemau a pheiriannau gemau.
Archwilia bensaernïaeth gemau a graffeg ryngweithiol wrth ennill profiad o ddatblygu meddalwedd fel rhan o dîm. Byddi di hefyd yn ystyried y materion cyfreithiol, moesegol a phroffesiynol sy’n ymwneud â datblygu gemau.
Archwilia realiti rithwir a realiti estynedig, amgylcheddau trochi a’r technolegau y tu ôl i’r Metafyd. Byddi di’n ymchwilio i rwydweithio, delweddu a chysylltedd, wrth ystyried effaith gymdeithasol profiadau trochi aml-chwaraewr.
Ennilla brofiad ystyrlon yn y diwydiant cyfrifiadura drwy brofiad gwaith dan oruchwyliaeth a dysgu seiliedig ar waith. Byddi di’n datblygu sgiliau ymarferol ac yn ehangu dy ddealltwriaeth o amgylcheddau gwaith proffesiynol.
Ehangâ dy brofiad diwylliannol ac addysgol drwy astudio mewn sefydliad partner dramor. Byddi di’n profi amgylchedd dysgu gwahanol, yn datblygu dy annibyniaeth ac yn ennill persbectif ehangach ar gyfrifiadura.
Cymhwysa dy sgiliau ymarferol, ymchwil a dadansoddi i brosiect unigol sy’n mynd i’r afael ag angen go iawn. Byddi di’n datblygu ateb arloesol, yn rheoli dy brosiect yn annibynnol ac yn gwerthuso dy waith a dy ddull gweithredu’n feirniadol.
Archwilia dechnegau rhaglennu GPU a ddefnyddir i greu effeithiau graffeg amser real. Byddi di’n dysgu gwerthuso perfformiad algorithmau GPU ac ymgysylltu ag ymchwil ym maes graffeg i ddatblygu dy wybodaeth a dy sgiliau ymhellach.
Archwilia ddylunio peiriannau gemau modern a’r technegau diweddaraf a ddefnyddir yn y diwydiant. Byddi di’n dysgu sut mae peiriannau gemau wedi’u strwythuro, eu rôl mewn datblygu a’r technolegau sy’n sail iddynt.
Archwilia theori a chymhwysiad ymarferol rhaglennu cyfochrog a chydamserol. Byddi di’n dysgu sut i ddylunio a gweithredu systemau sy’n gallu cyflawni tasgau lluosog ar yr un pryd ac yn deall yr heriau sy’n gysylltiedig â hyn.
Archwilia theori a chymhwysiad ymarferol deallusrwydd artiffisial wrth ddysgu sut mae systemau deallus yn cael eu dylunio a’u datblygu. Byddi di’n meithrin dealltwriaeth eang o sut y gellir defnyddio AI i ddatrys problemau a chefnogi penderfyniadau.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Byddwch yn treulio 16 awr bob wythnos mewn darlithoedd, sesiynau tiwtorial a sesiynau ymarferol. Byddwch hefyd yn treulio pedair awr yr wythnos, fesul modiwl, ar waith cwrs, darllen cyffredinol a gwaith paratoadol arall. Gallwch hefyd fod yn rhan o'n Cymdeithas Gemau Cyfrifiadurol weithredol a mwynhau ymweliadau cwmnïau a darlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant.
Byddwch yn dysgu trwy wneud, defnyddio cyfrifiaduron perfformiad uchel ac yn gweithio'n unigol ac mewn tim i gynhyrchu gemau i derfynau amser tynn. Byddwch yn gweithio ar broblemau go iawn a fydd yn eich paratoi ar gyfer y byd gwaith ac yn datblygu sgiliau allweddol i gefnogi dysgu gydol oes a fydd yn eich helpu i gadw'n gyfredol yn y maes hwn sy'n newid yn gyflym.
Mae asesu yn cynnwys arholiadau, gwaith cwrs ac ymarferion sy'n seiliedig ar broblemau, a addysgir gan ddefnyddio senarios bywyd go iawn.
Cyngor Derbyn
Rydym yma i helpu. P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
-
Dylunio a Datblygu Gemau Cyfrifiadurol
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-