Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt
Wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol (RSB), mae ein cwrs unigryw yn eich arfogi â'r arbenigedd i ddeall, diogelu a chefnogi bywyd gwyllt mewn byd sy'n newid.
Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Côd UCAS
C347
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*
Côd UCAS
C348
Dyddiad Cychwyn
Medi 2027
Lleoliad
Pontypridd
Côd y Campws
A
Pwyntiau UCAS
96
Trosolwg o'r Cwrs
Dysgwch gan arbenigwyr sy'n ymchwilwyr gweithredol, dewch i wybod am offer a theorïau arloesol, ac enillwch brofiad ymarferol yn y DU, De Affrica, a De America.
Taflwch eich hun i ganol profiad ymdrochol o ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt gyda gwaith maes ymarferol ar dri chyfandir. Datblygwch sgiliau i ddeall, rheoli a chynnal bywyd gwyllt mewn byd sy'n newid.
Yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy'n dechrau neu'n symud i yrfa'n ymwneud â bywyd gwyllt. Mae'r cwrs hwn yn cynnig profiadau maes helaeth ac yn mynd i'r afael â themâu allweddol mewn ecoleg a chadwraeth bywyd gwyllt y byd cyfoes. Byddwch yn ennill sgiliau y mae galw mawramdanynt yn rhyngwladol, ac a fydd yn eich paratoi ar gyfer llwyddiant mewn rolau cadwraeth a rheoli bywyd gwyllt.
Achrediadau
Wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.
Pam astudio'r cwrs hwn?
Beth fyddwch chi'n ei astudio
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn sefydlu sylfaen gadarn mewn bioleg bywyd gwyllt a sgiliau maes hanfodol.
Daw’r flwyddyn i ben gydag phenllanw cyffrous: taith maes breswyl i Dde Affrica sy'n sail i fodiwlau pob un o'r tair blynedd ac sy’n cynnig cyfle unigryw i roi eich dysgu ar waith yng nghyd-destun cadwraeth fyd-eang.
Dysgwch am dacsonomeg a dosbarthiad organebau, a chymhwyso theori at waith maes a gwaith labordy, a datblygu eich sgiliau ymarferol.
Astudiwch gydrannau cellog mewn organebau procaryotig ac ewcaryotig a defnyddio technegau microbioleg sylfaenol.
Archwiliwch theori geneteg ac esblygiad, gan gynnwys strwythur DNA, atgynhyrchiad, etifeddiaeth, ac esblygiad.
Byddwch yn dod i ddeall theori ecolegol drwy gyfrwng darlithoedd, gwaith maes, ac ymarferion labordy, gan ganolbwyntio ar hierarchaeth, prosesau a chylchoedd.
Enillwch sgiliau sylfaenol darllen, ysgrifennu, cyfeirio, dadansoddi beirniadol, ac ystadegau, sy'n hanfodol ar gyfer eich astudiaethau a'ch gyrfa.
Mae modd astudio'r modiwl hwn 25% drwy gyfrwng y Gymraeg
Cewch arsylwi bywyd gwyllt mewn cynefinoedd naturiol a rhoi egwyddorion ecolegol ar waith gyda gwaith ymarferol proffesiynol yn Ne Affrica.
Byddwch yn dod i ddeall y rhyngweithio rhwng ymddygiad, ecoleg, ac esblygiad gan ddefnyddio fframweithiau damcaniaethau ecoleg ymddygiadol.
Astudiwch brosesau genetig a mecanweithiau esblygiadol sy'n hanfodol ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth mewn byd sy'n newid.
Archwiliwch esblygiad fertebratau trwy astudio ffurfiau anatomegol, swyddogaethau ffisiolegol, a ffyrdd o fyw cymharol gydol hanes y Ddaear.
Astudiwch gymunedau ecolegol trwy theori a gwaith maes, wedi'i lywio gan yr angen i ddeall a mesur cyfansoddiad a strwythur gwahanol systemau.
Cyfle i wella sgiliau dadansoddi data, deall o bell, cartograffeg, a chyfathrebu gwyddonol ar gyfer gyrfa ym maes bioleg bywyd gwyllt.
Mae modd astudio'r modiwl hwn 25% drwy gyfrwng y Gymraeg
Archwiliwch ecoleg a chadwraeth drofannol trwy theori, astudiaethau achos, a thaith maes.
Datblygwch sgiliau ar gyfer gyrfaoedd cadwraeth ac ecoleg yn y DU, a’ch gwneud eich hyn yn fwy cyflogadwy drwy feddu ar wybodaeth arbenigol a throsglwyddadwy.
Modiwl dewisol sy'n cynnig profiad gwaith go iawn neu efelychiadol. Trefnwch leoliad neu weithio gyda chyflogwr i gael brofiad ymarferol.
Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dilyn modiwlau arbenigol sy'n cyd-daro â'ch diddordebau, yn ymgymryd â rhagor o heriau a rhoi popeth rydych chi wedi'i ddysgu hyd yn hyn ar waith yn ymarferol.
Mae ffocws allweddol ar eich prosiect ymchwil, lle cewch gymorth eich goruchwylydd, ac fe gewch eich paratoi i ddefnyddio’ch arbenigedd yn eich gyrfa cadwraeth yn y dyfodol.
Enillwch wybodaeth fanwl am ecosystemau dŵr, eu prosesau, a ffisioleg ac ymddygiad planhigion ac anifeiliaid dyfrol.
Archwiliwch offer arloesol fel System Gwybodaeth Ddaearyddol, droniau, deall o bell, i ennill y sgiliau i ddefnyddio technoleg ym maes monitro a chadwraeth bywyd gwyllt.
Datblygwch sgiliau cynllunio prosiectau, ymchwilio annibynnol, a chyfathrebu a thyfu’n broffesiynol trwy gyfrwng eich traethawd hir terfynol.
Dysgwch sut i reoli cadwraeth ymarferol, a chynllunio a gweithredu strategaethau ar gyfer cadwraeth effeithiol.
Defnyddiwch eich sgiliau gwyddonol i ddadansoddi ymatebion ecolegol i effeithiau dynol fel defnydd tir a’r newid yn yr hinsawdd.
Archwiliwch hunaniaeth ddynol a'n lle yn y byd naturiol trwy ddamcaniaethau palaeoanthropoleg, ecoleg ymddygiadol, ac esblygiad.
Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Addysgu ac Asesu
Adeiladwch eich gwybodaeth a'ch sgiliau trwy gymysgedd deinamig o addysgu, profiad ymarferol ac ymchwil annibynnol. Manteisiwch ar gefnogaeth academaidd bersonol, goruchwyliaeth ymchwil arbenigol a mynediad at gyfleusterau ac adnoddau arbenigol drwy gydol eich astudiaethau. Mae pob elfen o'r cwrs wedi'i chynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r hyder, yr arbenigedd a'r profiad sydd eu hangen i lwyddo.
Ewch â'ch dysgu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth trwy waith maes yn y DU a thramor, sesiynau ymarferol mewn labordai, darlithoedd gwadd gan arbenigwyr diwydiant ac ymchwil, a sesiynau addysgu rhyngweithiol. Byddwch yn archwilio heriau'r byd go iawn, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn ennill profiad gwerthfawr mewn amrywiaeth o amgylcheddau proffesiynol ac ymchwil.
Arddangoswch eich gwybodaeth a'ch galluoedd drwy amrywiaeth o asesiadau a gynlluniwyd i adlewyrchu'r sgiliau y byddwch yn eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol. Gall y rhain gynnwys adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau, gwaith cwrs a phrosiectau ymchwil, gan arwain at draethawd hir terfynol sy'n dangos dyfnder eich arbenigedd a'r sgiliau rydych wedi'u datblygu drwy gydol y cwrs.
Mae'r cwrs yn cynnwys modiwl Ymarfer Proffesiynol a Lleoliad dewisol, a wneir fel arfer ar ôl yr ail flwyddyn. Gallwch weithio gyda chyflogwr go iawn, cyflawni prosiect efelychiadol, neu astudio dramor mewn prifysgol bartner. Mae lleoliadau wyneb i wyneb gyda chwmnïau, ac mae’r rhai efelychiadol yn digwydd o bell. Gall lleoliadau gael eu trefnu gan y brifysgol neu gennych chi, gyda chefnogaeth ein tîm Gwasanaethau Proffesiynol. Mae gwaith maes yn rhan greiddiol o’r cwrs, gyda chyfleoedd yn lleol ac yn rhyngwladol. Byddwch yn gweithio gydaphartneriaid fel yr Ymddiriedolaeth Natur ac Operation Wallacea.
Trwy astudio Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt, byddwch yn gallu defnyddio ein cyfleusterau o'r radd flaenaf ar Gampws Glyn-taf. Mae gennym lawer o offer maes hanfodol a chyfoes, yn ogystal â labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol gyda chyfarpar llawn, gan gynnwysmeddalwedd arbenigol. Byddwch yn defnyddio mannau gwyllt ein campws ar gyfer gweithgareddau ymarferol ac yn gwneud gwaith maes mewn ardaloedd cadwraeth allweddol yn Ne Cymru. Yn ogystal, byddwch yn gallu defnyddio Undeb y Myfyrwyr ar gampws Trefforest gerllaw, sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau bywiog a chefnogaeth.
Arweinydd y Cwrs
Dr Anthony Caravaggi
Mae Dr Anthony Caravaggi yn fiolegydd cadwraeth ac yn Arweinydd Cwrs BSc (Anrh) Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt. Mae'n defnyddio gwaith maes, technoleg, a data ecolegol i edrych ar sut mae anifeiliaid yn defnyddio eu hamgylchedd ac yn llywio penderfyniadaucadwraeth. Mae Anthony wedi cydweithio â sefydliadau cenedlaethol a rhyngwladol i astudio rhywogaethau mor amrywiol â llyngyr tân, adar, walabïau, a siarcod. Mae ei addysgu'n tynnu ar y profiad ymchwil hwn i ddangos sut mae ecoleg yn cael ei chymhwyso'n ymarferol. Ei nod yw helpu myfyrwyr i feithrin hyder, datblygu sgiliau hanfodol, a deall sut mae gwyddoniaeth cadwraeth yn bwydo i wneud penderfyniadau yn y byd go iawn.
Oes gennych chi gwestiynau am y cwrs, yr arddull addysgu neu a yw'n addas i chi? Cysylltwch ag Anthony yn uniongyrchol drwy e-bost.
Gofynion Mynediad
Ychwanegol
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch
Gofynion cymhwyster nodweddiadol
Lefel A:
CCC i gynnwys C mewn Bioleg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
Gofynion Gwyddoniaeth nodweddiadol:
Bydd angen i ymgeiswyr sy'n sefyll Safon Uwch Gwyddoniaeth yn Lloegr basio'r elfen ymarferol ochr yn ochr â chyflawni'r radd (iau) y gofynnwyd amdani
Bagloriaeth Cymru:
Gradd C a CC ar Lefel A i gynnwys Bioleg gradd B ac un pwnc Gwyddoniaeth arall ond i eithrio Astudiaethau Cyffredinol
BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Bioleg
Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS
Safon T:
Pasio (C ac uwch)
Ffioedd a Chyllid
Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).
*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol. Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cit/offer
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau sy'n cynnwys elfennau o waith maes awyr agored wisgo dillad ac esgidiau priodol. Bydd myfyrwyr yn cael gwybod am y gofynion hyn ar ddechrau eu hastudiaethau a chyn pob gweithgaredd. Noder y bydd dillad/esgidiau amhriodol yn atal myfyrwyr rhag cymryd rhan mewn gweithgaredd. I fyny at £300
Bydd angen i fyfyrwyr gyflenwi cyflenwadau priodol o ddeunydd ysgrifennu, llyfrau nodiadau maes a dyfeisiau cof digidol (USB ac ati), ar gyfer gwaith yn yr ystafell ddosbarth ac ar waith maes. I fyny at £50
Taith maes i Dde Affrica: teithiau hedfan a chostau eraill
Costiodd teithiau hedfan £800 yn 2023 ond mae hyn yn amrywio'n sylweddol. Mae myfyrwyr yn teithio fel grŵp prifysgol trwy archeb grŵp a gwneir pob ymdrech i nodi anghenion teithio yn gynnar a sicrhau prisiau isel. Bydd angen teithio hefyd o fewn y DU (h.y., i’r maes awyr ac oddi yno), ac mae costau achlysurol eraill (e.e. byrbrydau wrth deithio) yn debygol. £800+
Taith maes i Dde Affrica: teithiau a gweithgareddau yn y wlad
Mae’r daith maes preswyl orfodol o bedair wythnos i Dde Affrica yn cynrychioli dau fodiwl astudio sy’n rhedeg yn olynol dros gyfnod gwyliau’r haf rhwng y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn. Mae'r daith yn cael ei sybsideiddio'n rhannol (tua hanner cyfanswm y gost) gan yr Ysgol Gwyddorau Biolegol a Fforensig.
Mae costau ychwanegol i fyfyrwyr tua £1,100 i £1,300 ar gyfer teithio, gweithgareddau, ac ati yn Ne Affrica (h.y., cludiant yn Ne Affrica, prydau mewn gorsafoedd maes, offer maes, staff lleol, a llety). I fyny at £1,300
Taith maes: fisas a brechiadau
Efallai y bydd angen fisâu a brechiadau ar gyfer rhywfaint o waith maes rhyngwladol, sydd i’w talu gan y myfyriwr ac a fydd yn amrywio yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Amrywiol
Taith maes trofannol: teithiau a gweithgareddau yn y wlad
Mae’r daith maes breswyl hon o hyd at bythefnos a hanner mewn lleoliad trofannol, gan gynnwys safleoedd astudio morol a daearol, yn cynrychioli modiwl dewisol. Mae safleoedd maes diweddar wedi cynnwys Belize, Mecsico, Honduras, a Borneo.
Mae costau ychwanegol i fyfyrwyr oddeutu £1,750 ar gyfer teithio, gweithgareddau, ac ati yn y wlad sy’n cynnal (sy’n cynnwys hawlenni, llety a bwyd yn y ddau safle maes, offer maes, staff lleol, cludiant yn Belize, offer plymio, meistri plymio a chwch gwibiwr, teithio i/o'r Brifysgol a maes awyr Llundain). £1,750+
Taith maes trofannol – teithiau hedfan a chostau eraill
Gall teithiau hedfan amrywio'n sylweddol. Mae costau achlysurol eraill (e.e. byrbrydau wrth deithio) yn debygol. £1300
Taith maes trofannol – cymhwyster sgwba-blymio Dŵr Agored
Hyfforddiant plymio PADI trofannol - Mae hyn yn ddewisol ac nid yw'n ofynnol. £350
Lleoliad Gwaith*
Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy’n llwyddo i sicrhau lleoliad mewn diwydiant neu dramor i gwblhau eu prosiectau ymchwil dalu eu costau eu hunain – a all amrywio’n sylweddol – yn ystod cyfnod y lleoliad. Amrywiol
Fesul blwyddyn

Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.
Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
-
Apply direct
Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt
-
Gyda Blwyddyn Ryngosod, 4 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
-
Apply direct
Ecoleg a Chadwraeth Bywyd Gwyllt
-
Llawn Amser, 3 blynedd
-
Medi
-
Pontypridd
-
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.