Llywio polisïau ar gyfer gwarchod bioamrywiaeth ddaearol drofannol
Mae Ymchwil yn Gwella Ymdrechion Cadwraeth Byd-eang.
Ymchwil yn PDC Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/research-case-studies-informing-policy-for-tropical-terrestrial-biodiversity-conservation.jpg)
Yn fyd-eang, mae straen anthropogenig yn bygwth bron i 28% (35,765) o rywogaethau y mae gwerthusiad o’u statws cadwraeth yn bodoli ar eu cyfer. Ers 2011, mae gwaith ymchwil gan Brifysgol De Cymru ar gydfodoli rhwng pobl a bywyd gwyllt, yng nghyd-destun rhywogaethau sydd dan fygythiad byd-eang, wedi canolbwyntio ar fannau problemus mewn bioamrywiaeth – sef Costa Rica, sy’n enghraifft o lwyddiant gwaith cadwraeth, ac Indonesia, lle ceir dirywiad o bwys mewn bioamrywiaeth.
Mae ymchwilwyr PDC wedi datblygu dulliau newydd ar gyfer gwerthuso dylanwadau anthropogenig ar brimatiaid, ac ar gyfer llywio sylfeini tystiolaeth am fioamrywiaeth sy’n sail i Gonsesiynau Adfer Ecosystemau (ERCs).
Drwy Grwpiau Arbenigol y Comisiwn Goroesi Rhywogaethau yn yr Undeb Rhyngwladol ar gyfer Cadwraeth Natur, mae’r gwaith ymchwil hwn wedi trawsnewid yr arferion gorau ar gyfer rhywogaethau yng nghanol America a de-ddwyrain Asia. Mae wedi bod o fudd i ecosystemau, ac wedi dylanwadu ar bolisi amgylcheddol yn Indonesia, gan fod o fudd ar yr un pryd i fioamrywiaeth, pobl ac ecosystemau.
Effaith Ymchwil PDC
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)