PGDip

Endocrinoleg

Creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a'i defnyddio i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â gofal endocrin yn feirniadol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Bydd y cwrs ar-lein hwn, sy'n cael ei gynnal gyda'r partner cydweithredol Diploma MSc, yn eich helpu i ddatblygu dulliau creadigol o ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd clinigol cymhleth a dod yn eiriolwr pwysig wrth ddarparu gofal i bobl â phroblemau sy'n gysylltiedig ag endocrinoleg.

CYLUNIWYD AR GYFER

Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Endocrinoleg yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol sydd â diddordeb arbenigol mewn endocrinoleg – a allai ddod i gysylltiad â phobl ag anhwylderau sy'n gysylltiedig ag endocrin.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Nyrs Arbenigol
  • Nyrs Practis
  • Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd

Trosolwg o'r Modiwl

Mae'r cwrs diploma ôl-raddedig yn seiliedig ar Hyfforddiant Arbenigedd Coleg Brenhinol y Meddygon. Mae'r cwrs ar-lein yn para un flwyddyn galendr ac mae'n gwrs dysgu o bell rhan-amser, gyda chwe modiwl y flwyddyn, pob un yn para chwe wythnos.

  • Anhwylderau'r hypothalamws a'r bitẅidol
  • Anhwylderau'r thyroid
  • Anhwylderau'r chwarennau uwcharennol
  • Anhwylderau parathyroidau, calsiwm ac esgyrn
  • Endocrinoleg atgenhedlu
  • Canser sy'n gysylltiedig ag endocrin

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

GOFYNION MYNEDIAD

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Gradd Anrhydedd 2:2 o leiaf mewn disgyblaeth briodol, neu HNC ynghyd â phum mlynedd mewn diwydiant, neu HND ynghyd â thair blynedd mewn diwydiant. Os nad oes gennych y cymwysterau hyn, byddwn yn ystyried eich achos yn unigol. 

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol ac yn gofyn am Saesneg ar lefel IELTS 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth. 

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut fyddwch chi'n dysgu

Yn ystod y cwrs ar-lein, rhennir ymgeiswyr yn grwpiau o 10-15 o fyfyrwyr. Mae pob grŵp yn cael ei oruchwylio gan ddarlithydd sy'n hwyluso'r grŵp, yn monitro ac yn asesu pob myfyriwr drwy gydol y modiwl.

Mae gan bob un o'r chwe modiwl yr un fformat asesu:

  • Fforwm Academaidd - 40%
  • Dyddiadur Myfyriol - 10%
  • Gweithgarwch modiwl - 20%
  • Arholiad yn seiliedig ar achosion - 30%

Staff addysgu

  • Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs
  • Dr Atul Kalhan, Cyfarwyddwr y Cwrs

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'r cwrs yn darparu paratoad ôl-gymhwyso priodol ar gyfer rolau mewn timau arbenigol cysylltiedig ag endocrin, nyrsio arbenigol, nyrsio practis a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau cysylltiedig ag endocrin mewn gofal sylfaenol. Yn yr un modd, mae cwmnïau fferyllol yn awyddus i gefnogi eu cynrychiolwyr mewn addysg ôl-raddedig a bydd y cymhwyster hwn yn cael ei ystyried yn ffafriol mewn dilyniant gyrfa ac wrth arbenigo.

Cymorth gyrfaoedd

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna