Ffilm
Datblygwch eich uchelgais greadigol a mireiniwch eich llais fel gwneuthurwr ffilm gyda'n gradd BA (Anrh) Ffilm ddeinamig a blaengar. Byddwn yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant sgrin trwy hyfforddiant ymarferol a gwybodaeth ffilm helaeth.
Sut i wneud cais Gwneud Cais drwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
36VA
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Caerdydd
-
Côd y Campws
B
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,250*
Myfyrwyr rhyngwladol
£15,850*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Cyfle i feithrin eich crefft a chreu eich dyfodol yn y diwydiannau ffilm gyda'r cwrs ymarferol a damcaniaethol hwn.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Os ydych chi'n mwynhau adrodd straeon ac yn caru ffilmiau, mae'r cwrs hwn yn berffaith i chi. Rydych chi'n chwaraewr tîm ac yn feddyliwr creadigol, yn agored i ddysgu pob agwedd ar wneud ffilmiau. Rydych chi'n barod i ddysgu sgiliau arbenigol ac ymateb i'r datblygiadau cymdeithasol, diwylliannol a thechnolegol diweddaraf yn y diwydiant.
Wedi’i achredu gan
- ScreenSkills
Llwybrau Gyrfaol
- Cyfarwyddwr
- Cynhyrchwr
- Gweithredwr camera
- Ysgrifennwr ar gyfer y sgrin
- Golygydd
- Recordydd / Peiriannydd Sain
Sgiliau a addysgir
- Technegau camera, sain a golygu
- Ymchwil a dadansoddi beirniadol
- Hyfedredd digidol – y meddalwedd diweddaraf ac offer technegol
- Meddwl yn greadigol
- Adrodd straeon
- Cyfathrebu a chyflwyno
- Datblygiad Proffesiynol ac Ymwybyddiaeth o’r Diwydiant
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r Flwyddyn Gyntaf yn rhoi sgiliau sylfaenol i bob myfyriwr mewn Cyfarwyddo, Cynhyrchu, Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin, Sinematograffeg, Sain a Golygu ar gyfer ffilmiau ffeithiol a ffuglen. Mae'n cyflwyno damcaniaeth ffilm a sut mae hyn yn helpu i lywio syniadau, themâu a safbwyntiau. Mae myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau ymarferol trwy brosiectau gwneud ffilmiau a gynhyrchir ar y cyd.
Gwneud Ffilmiau 1: Ffilm Ddogfen
Mae'r modiwl ymarferol hwn yn cyflwyno sylfeini adrodd straeon drwy gynhyrchu cynnwys ffeithiol. Anogir myfyrwyr i ymgysylltu â'r byd i ddarganfod ac adrodd straeon o ddiddordeb cyfoes.
Crefft 1: Sgiliau a Thechnegau
Drwy gyfres o weithdai ymarferol, bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau technegol craidd mewn gwaith camera, goleuo, recordio sain ac ôl-gynhyrchu.
Gwneud Ffilmiau 2: Ffuglen
Mae myfyrwyr yn datblygu sgiliau sylfaenol mewn adrodd straeon ffuglen, gan weithio mewn criwiau i ysgrifennu, saethu ac ôl-gynhyrchu ffilm fer i safonau cydnabyddedig y diwydiant.
Beth yw Ffilm?
Mae'r modiwl hwn sy'n seiliedig ar ddamcaniaeth yn archwilio union natur a rolau amrywiol ffilm mewn cymdeithas. Mae myfyrwyr yn archwilio ac yn trafod statws ffilmiau fel adloniant celf a masnachol; ar draws ystod eang o genres, o realaeth i ffantasi. Mae myfyrwyr yn edrych ar swyddogaethau ac effeithiau cymdeithasol a gwleidyddol ffilm; ei statws presennol a'i phosibiliadau yn y dyfodol.
Crefft 2: Paratoi ac Ymarfer
Bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau craidd mewn ysgrifennu ar gyfer y sgrin, cynhyrchu a chyfarwyddo drwy gyfres o ddarlithoedd a gweithdai wrth ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol, a’u hymarfer proffesiynol fel gwneuthurwyr ffilm.
Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar flwyddyn un i ddatblygu sgiliau ymarferol ac yn annog myfyrwyr i arbenigo mewn maes penodol o grefft ffilm fel ffocws craidd eu gradd. Drwy archwilio arferion gwneud ffilmiau amrywiol ac arbrofol, anogir myfyrwyr i archwilio dulliau newydd o adrodd straeon mewn cyd-destunau ffeithiol a ffuglen wrth ddyfnhau eu dealltwriaeth o sut mae'r diwydiant hwn yn gweithio.
Gwneud ffilmiau 3: Arbrofi
Drwy astudio'n fanwl o ffilmiau presennol ac arbrofi ymarferol, mae'r modiwl ymarferol hwn yn rhoi cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o ffilm fel cyfrwng mynegiant athronyddol ac fel adloniant.
Crefft 3: Stiwdio Uwch
Drwy weithdai crefft arbenigol a sesiynau dilyniant dan oruchwyliaeth, mae'r modiwl hwn yn atgyfnerthu arferion ac ymddygiadau proffesiynol, creadigol a logistaidd wrth baratoi ar gyfer diwydiant.
Damcaniaeth 3: Hanes a Damcaniaeth Ffilm Ddogfen
Mae'r modiwl damcaniaeth hwn yn edrych ar ddatblygiad hanesyddol a 'dulliau' amrywiol, traddodiadau a thueddiadau ffilm ddogfen. Mae'n helpu i ehangu dealltwriaeth ac asesu rhai o'i ffurfiau a'i swyddogaethau allweddol.
Damcaniaeth 3: Sinema Fyd-eang
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i enghreifftiau pwysig, o sinema gelf Ewropeaidd ac Asiaidd, i sinema chwyldroadol ac ôl-drefedigaethol o Affrica, Asia ac America Ladin ac i sinema drawswladol gyfoes sy'n arwydd o’n byd cynyddol fyd-eang.
Gwneud ffilmiau 4: Datblygu
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau creadigol a chyfathrebu yng nghyd-destun iaith ffilm gymhwysol gyda ffocws ar gynrychioli cymeriad. Bydd myfyrwyr hefyd yn dewis arbenigeddau crefft unigol i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
Prosiect Cydweithredol
Gan weithio ar friffiau allanol byw, bydd myfyrwyr yn ymgysylltu'n weithredol â chleientiaid y byd go iawn i gynhyrchu ffilmiau masnachol, hyrwyddo neu weithredu cymdeithasol.
Mae'r flwyddyn olaf yn dwyn ynghyd y profiadau cyfoethog a gafwyd ar draws y radd. Mae myfyrwyr yn gweithio tuag at eu ffilmiau gradd terfynol a fydd yn cael eu rhyddhau mewn gŵyl ffilm. Bydd myfyrwyr yn datblygu gwaith ymchwil annibynnol estynedig drwy naill ai draethawd hir neu adroddiad myfyriol beirniadol. Bydd pob myfyriwr yn cynhyrchu offer marchnata proffesiynol i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith a hyrwyddo eu hunain yn y diwydiant sgrin.
Datblygiad Adrodd Straeon Uwch
Gall straeon ddatblygu o lawer o wahanol ffynonellau, o ddeunydd presennol, profiadau bywyd, neu ddychymyg. Mae'r modiwl hwn yn cefnogi myfyrwyr i ddatblygu pecyn adrodd straeon ar gyfer naill ai ffilm radd fer neu leoliad diwydiant 'byd go iawn'.
Crefft Uwch
Yn dilyn Datblygiad Adrodd Straeon Uwch, mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar gydweithio creadigol a datblygu crefft uwch, gan adeiladu ar sgiliau o flwyddyn un a blwyddyn dau. Bydd myfyrwyr yn ymgolli'n llwyr yng nghamau cyn-gynhyrchu prosiect wedi'i sgriptio neu heb ei sgriptio ac yn lansio ymgyrch cyllido torfol i gefnogi eu ffilm derfynol.
Gwneud Ffilmiau Uwch: Ymgysylltu
Mae'r modiwl hwn yn dwyn ynghyd y profiadau a'r wybodaeth am gysyniadau ffilm, arbrofi a sgiliau ymarferol a enillwyd drwy gydol y cwrs, gan arwain at gynhyrchu ffilm radd o safon broffesiynol, yn barod i’w rhyddhau mewn gŵyl ffilm.
Damcaniaeth Uwch: Traethawd Hir
Mae'r modiwl dewisol hwn yn cynnig cyfle i astudio pwnc ffilm (neu gyfryngau cysylltiedig) yn fanwl, gan arwain at ddarn estynedig o ymchwil unigol o safbwynt damcaniaethol.
Damcaniaeth Uwch: Adroddiad Beirniadol
Mae’r modiwl dewisol hwn yn galluogi myfyrwyr i ymgysylltu â chyfleoedd allanol o ffynonellau annibynnol ac archwilio 'ymarfer fel ymchwil' gan ddefnyddio technegau adrodd myfyriol.
Gyrfa ac Arddangosfa
Mae'r modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd drwy archwilio'r diwydiant a llwybrau cyflogaeth yn y meysydd cyfagos. Bydd myfyrwyr yn ystyried eu huchelgeisiau proffesiynol unigol drwy ddatblygu sgiliau cyfweld, cyfryngau cymdeithasol a hunan-farchnata.
Bydd myfyrwyr hefyd yn atgyfnerthu eu prosiectau ffilm terfynol ar gyfer dangosiadau gŵyl ac yn eu paratoi ar gyfer hyrwyddo ac arddangos ar y sgrin fawr.
GOFYNION MYNEDIAD
Pwyntiau UCAS: 96 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: CCC i gynnwys pwnc perthnasol
- BTEC: Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol
- Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru: Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a CC Safon Uwch gyda phwnc perthnasol
- Mynediad i AU: Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.
Gofynion Ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,250
fesul blwyddyn*£15,850
fesul blwyddyn*Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Cost: £30 - £60
Benthyca Offer Cyfryngau
Gallwch logi amrywiaeth o offer, ar gyfer eich aseiniadau a’ch gwaith ymarferol, am ddim o’n cyfleuster Benthyca Offer Cyfryngau.
Benthyca Offer CyfryngauSicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Bywyd yn PDC
Mae neuaddau yn rhan fawr o’ch profiad fel myfyriwr ac mae llety ym mhob un o’n tri lleoliad. Os nad ydych chi eisiau byw yn agos at y campws, mae yna gysylltiadau trafnidiaeth gwych i'ch cadw chi mewn cysylltiad.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Byddwn yn eich dysgu sut i wneud ffilm, gyda pha bynnag stori rydych chi am ei hadrodd. Mae ein modiwlau wedi'u creu i ddatblygu sgiliau crefft, meddwl yn feirniadol ac ymarfer proffesiynol sy'n cyd-fynd â safonau a disgwyliadau'r diwydiant.
Bydd y ffilm fer rydych chi'n ei chynhyrchu cyn graddio yn arddangos eich galluoedd fel gwneuthurwr ffilmiau wrth i chi fynd i mewn i'r diwydiant ffilm.
Byddwch yn falch o wybod mai cwrs heb arholiadau yw hwn - mae'r cyfan yn seiliedig ar waith cwrs. Trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, tiwtorialau, a goruchwyliaeth prosiect, byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gyfleu'ch syniadau ar y cyd ac yn unigol.
Staff addysgu
Rydym yn dîm medrus iawn, gydag ystod eang o brofiad diweddar yn y diwydiant. Mae ein staff yn cynnwys gwneuthurwyr ffilmiau arobryn sy'n parhau i weithio yn y diwydiant, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i fod yn gyfredol ac yn flaengar drwy gydol y radd.
Mae BA (Anrh) Ffilm yn manteisio ar ein cysylltiadau â gweithwyr proffesiynol presennol yn y diwydiant trwy ddarlithoedd gwadd, dosbarthiadau meistr, ymweliadau allanol, a chyfleoedd ymgynghori.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â'n tudalennau proffil i ddysgu mwy am ein hymchwil, ffilmiau, cyhoeddiadau, ac ymgysylltiad â'r sector.
Lleoliadau
Rydym yn falch o weithio gydag ystod eang o sefydliadau diwydiant yng Nghymru a thu hwnt, gan gynnwys Channel 4, BBC Cymru, BAFTA Cymru, Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru (RTS), Ffilm Cymru, a Llywodraeth Cymru. Fel partner addysg i Gynghrair Sgrin Cymru, byddwch yn cael y cyfle i wneud cais am gyfleoedd lleoliad gwaith yn ystod eich gradd, sy’n amrywio o swyddi gwirfoddol mewn gwyliau ffilm i rolau cynhyrchu ar ffilmiau a rhaglenni teledu.
Cewch gyfle i ennill cymwysterau ychwanegol trwy Bartneriaeth Albert Educational a Sefydliad Mark Milsome. Mae'r rhain yn gymwysterau dewisol nad ydynt yn rhan o'r cwrs ond a gynigir i helpu i wella'ch CV.
Cyfleusterau
Rydym yn cynnig cyfleusterau o safon y diwydiant yn ein Campws Caerdydd sydd newydd gael ei ddiweddaru, sy'n cynnwys sinema ar y safle lle gallwch chi arddangos eich gwaith a gwylio eich hoff ffilmiau.
Fel myfyriwr ffilm, gallwch elwa o'n stiwdio ffilm llawn offer gan gynnwys Arri Alexa, Black Magic Ursa, a chamerâu Sony, amrywiaeth o ficroffonau proffesiynol, goleuadau LED, traciau, dolis ac offer gafael. Popeth sydd ei angen arnoch i wneud ffilmiau mewn man diogel.
Rydym hefyd yn cynnig ystafelloedd gorffen o'r radd flaenaf ar gyfer golygu fideo proffesiynol, cymysgu sain, a graddio lliw. Gan gynnwys Adobe Creative Packages, Movie Magic a Final Draft.