Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno canolbwyntio ar astudio arweinyddiaeth ar bob lefel o fewn y system addysg.
Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio i ddyfnhau dealltwriaeth o theori’r cwricwlwm, cynllunio, gweithredu ac arweinyddiaeth ym mhob rhan o’r system addysg.
Mae’r llwybr arbenigol hwn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn hyrwyddo tegwch ac archwilio ffyrdd o gefnogi dysgwyr sy’n cael eu heffeithio gan agweddau ar annhegwch.
Dyma gymhwyster addysgu a gydnabyddir yn genedlaethol yn llawn, sydd wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sy’n anelu i addysgu pwnc galwedigaethol a thechnegol fel Gwallt a Harddwch, Adeiladu a Chynnal a Chadw Cerbydau Modur.
Mae’n gymhwyster addysgu llawn a gaiff ei gydnabod yn genedlaethol, ac sydd wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sy’n anelu i addysgu pwnc galwedigaethol mewn meysydd fel Busnes, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Cyfryngau a Thechnoleg Gwybodaeth.
Nod y cwrs yw datblygu athrawon dan hyfforddiant sy’n gyfarwydd ac yn hyderus gyda disgwrs y gwyddorau cymdeithasol, a allai fod â diddordeb yn nes ymlaen mewn dilyn MA mewn Addysg, ac y mae eu hysgrifennu eisoes ar lefel 7 (asesir hyn yn ystod y broses ymgeisio). Mae Prifysgol De Cymru yng Nghasnewydd wedi bod yn arwain y maes addysg athrawon galwedigaethol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Mae';r Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg ar gyfer Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol wedi'i chynllunio'n benodol i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig i ddatblygu a mabwysiadu rôl addysgol mewn pob math o leoliadau – rhai academaidd a rhai seiliedig ar ymarfer.
Mae'r cwrs BA (Anrh) Blynyddoedd Cynnar (Atodol) yn archwilio arferion gorau ym maes addysg y blynyddoedd cynnar o bob cwr o'r byd, gan ganolbwyntio ar feithrin sgiliau meddwl yn feirniadol a gwybodaeth ddamcaniaethol, a magu profiad go iawn mewn lleoliadau addysg lleol.
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio yn unol â gwaith ymchwil blaengar a'r arferion cyfredol, gan sicrhau y bydd gennych y wybodaeth, y sgiliau a'r hyder i allu cael eich cyflogi yng ngweithlu'r blynyddoedd cynnar.
Mae'r cwrs MSc mewn Addysg Feddygol yn cynnig dilyniant o'r Diploma Ôl-raddedig i unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol a chymhwyso addysg feddygol.