MA

Astudiaethau Bwdhaidd

Cyfle i astudio Bwdhaeth yn drwyadl o unrhyw le yn y byd. Mae'r MA hyblyg, cwbl ar-lein hwn yn rhoi'r offer i chi archwilio’r meddwl, traddodiadau ac arferion Bwdhaidd trwy lens feirniadol a chreadigol. Mae croeso i bobl sy’n Fwdhyddion a phobl nad ydyn nhw’n Fwdhyddion yn y rhaglen ôl-raddedig gynhwysol hon.

Sut i wneud cais Archebu lle ar noson agored Siarad â ni

Manylion Cwrs Allweddol

Byddwch yn archwilio traddodiadau Bwdhaidd dan arweiniad arbenigwyr ac yng nghwmni cyd-fyfyrwyr o bedwar ban byd, ar-lein, yn rhan amser, mewn ffordd sy’n addas i chi.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae'r cwrs hwn ar gyfer pobl chwilfrydig. Boed yn Fwdhydd gweithredol, yn ymarferydd ymwybyddiaeth ofalgar, yn academydd, neu’n syml yn rhywun sydd â diddordeb mawr yn y pwnc, bydd yma le i archwilio, cwestiynu ac ymgysylltu heb orfod rhoi’r gorau i’ch swydd bob dydd na gadael eich gwlad enedigol.

Llwybrau Gyrfa

  • Ymchwil ddoethurol
  • Addysgu ac addysg uwch
  • Cwnsela ac iechyd meddwl
  • Gweithio mewn sefydliadau diwylliannol neu grefyddol – gan gynnwys caplaniaethau
  • Ysgrifennu, y cyfryngau ac addysg gyhoeddus

Sgiliau a addysgir

  • Meddwl beirniadol
  • Ysgrifennu Academaidd
  • Mewnwelediad traws-ddiwylliannol
  • Cyd-destunau Bwdhaidd ehangach
  • Sgiliau ymchwilio

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Ystafell ddosbarth fyd-eang

Byddwch yn ymgysylltu â myfyrwyr o bob cwr o'r byd - o academyddion a mynachod ordeiniedig i therapyddion a gwneuthurwyr ffilmiau. Gallwch ddisgwyl sgyrsiau bywiog, meddylgar gyda phobl na fyddech chi fel arall yn cwrdd â nhw.

Dysgu hyblyg ar eich cyflymder eich hun

Mae'r cwrs hwn yn gweithio o gylch eich amserlen chi. Byddwch yn astudio'n rhan amser, ar-lein, dros dair blynedd. Bydd y rhan fwyaf o ddeunyddiau’r modiwl ar gael o'r cychwyn, felly gallwch achub y blaen neu ddal i fyny pan fo angen.

Perchenogi eich dysgu

Boed yn astudio o ddiddordeb personol neu'n datblygu eich ymarfer proffesiynol, byddwch yn gallu siapio eich dysgu trwy ddewis traethodau o blith opsiynau eang, a thraethawd hir ar bwnc sy'n bwysig i chi.

Meddwl yn ddwfn ac ehangu’ch persbectif

Byddwch yn archwilio’r meddwl ac ymarfer Bwdhaidd mewn dyfnder, gydag eglurder, ac o bellter critigol, dan arweiniad tiwtoriaid arbenigol. Ar hyd y ffordd, byddwch yn datblygu'r sgiliau i gwestiynu syniadau mawr ac adfyfyrio ar eich byd-olwg eich hun.

Wedi'i ddylunio a'i addysgu gan ymarferwyr profiadol, mae ein cyrsiau yn eich annog i feddwl yn feirniadol, archwilio persbectifau newydd, ac ymgysylltu ag syniadau mewn ffordd ystyrlon.


Trosolwg o’r Modiwl

Mae'r MA rhan amser hwn yn eich tywys drwy draddodiadau, athroniaeth, moeseg a myfyrdodau Bwdhaeth. Byddwch yn dysgu mewn cymuned ar-lein amrywiol a chefnogol, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, ac yn cyflwyno traethawd hir ar y diwedd yn adlewyrchu eich diddordebau a'ch nodau eich hun.

Traddodiadau Bwdhaidd (gorfodol)              

Byddwch yn dysgu am gysyniadau ac arferion Bwdhaidd allweddol yn ogystal â chamganfyddiadau ynghylch Bwdhaeth. Hefyd, cewch fewnwelediad i hanes datblygiad Bwdhaeth a'i phrif is-draddodiadau.

Moeseg Fwdhaidd

Byddwch yn ennill dealltwriaeth o Foeseg Bwdhaidd mewn theori ac ar waith mewn nifer o wahanol ddiwylliannau.  Mae’r cwrs yn symud y tu hwnt i ddefnyddio cysyniadau'r Gorllewin i ddadansoddi 'Moeseg' Bwdhaidd, gan astudio’r sila ar ei delerau ei hun.

Myfyrdod a Seicoleg Bwdhaidd

Byddwch yn datblygu eich gwybodaeth am draddodiadau myfyrio Bwdhaidd mewn theori ac ar waith mewn nifer o wahanol ddiwylliannau. Byddwch hefyd yn archwilio ac yn beirniadu'r gwahaniaethau rhwng modelau meddwl ac ymddygiad yn Seicoleg y Gorllewin a meddwl ac ymarfer Bwdhaidd.

Athroniaeth Fwdhaidd

Byddwch yn archwilio cysyniadau Bwdhaidd ynghylch yr 'hunan', achosiaeth, a deffroad mewn sawl traddodiad a llinach.

Iaith Pali (yn dibynnu ar nifer y myfyrwyr)

Byddwch yn datblygu seiliau cadarn yn yr iaith Pali, fydd yn creu sylfaen gref ar gyfer hunan-astudio pellach.

Mae'r MA rhan amser hwn yn eich tywys drwy draddodiadau, athroniaeth, moeseg a myfyrdodau Bwdhaeth. Byddwch yn dysgu mewn cymuned ar-lein amrywiol a chefnogol, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, ac yn cyflwyno traethawd hir ar y diwedd yn adlewyrchu eich diddordebau a'ch nodau eich hun.

Astudiaethau Bwdhaidd Uwch        

Byddwch yn archwilio agweddau cyfoes ar  Astudiaethau Bwdhaidd gan gynnwys Dad-drefedigaethiaeth mewn Astudiaethau Bwdhaidd, a Moderniaeth Fwdhaidd.

Mae'r MA rhan amser hwn yn eich tywys drwy draddodiadau, athroniaeth, moeseg a myfyrdodau Bwdhaeth. Byddwch yn dysgu mewn cymuned ar-lein amrywiol a chefnogol, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, ac yn cyflwyno traethawd hir ar y diwedd yn adlewyrchu eich diddordebau a'ch nodau eich hun.

Traethawd hir (ar gyfer myfyrwyr sy'n symud yn eu blaen i'r MA)          

Darn sylweddol o ymchwil i faes astudio priodol

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut y byddwch chi'n dysgu

Byddwch yn astudio ar-lein, yn rhan amser, dros dair blynedd. Mae pob modiwl yn cynnwys darllen, gweithgareddau a thrafodaethau wythnosol, y cyfan ar ein llwyfan ddysgu rithwir. Byddwch yn gweithio gyda grŵp trafod bach, pawb yn arwain sgyrsiau yn eu tro, ac yn cael cymorth cyson gan diwtor drwy gydol y cwrs.

Staff addysgu

Mae'r cwrs yn cael ei arwain gan Dr Nick Swann, arbenigwr mewn Astudiaethau Bwdhaidd ac anthropoleg crefydd, sydd â degawdau o brofiad mewn dysgu o bell. Byddwch hefyd yn dysgu gan ddarlithwyr ac ymarferwyr profiadol gwadd, ac yn cael eich cefnogi gan diwtoriaid y bydd eich cynnydd yn wirioneddol bwysig iddyn nhw. 

Dr Nick Swann, arweinydd.

Cysylltwch â Nick ar [email protected].

Cyfleusterau

Mae holl ddeunyddiau’r cwrs, ar wahân i'r darlleniadau craidd ar gyfer pob modiwl, ar gael ar ein llwyfan ddysgu rithwir. Mae hyn yn cynnwys darllen ychwanegol, fforymau trafod, adborth, a gweminarau dewisol. Mae'r platfform wedi'i gynllunio i fod yn hawdd i'w ddefnyddio, i weithio'n dda hyd yn oed pan fo’r cysylltiad rhyngrwyd yn araf, ac i barhau’n hygyrch ble bynnag rydych chi'n astudio.

Cwrdd â'ch Arweinydd Cwrs

Dewch i gwrdd â Dr Nick Swan, anthropolegydd cymdeithasol, ymchwilydd crefydd ddigidol, ac Arweinydd Cwrs ar gyfer yr MA Astudiaethau Bwdhaidd. Mae Nick yn arwain y cwrs dysgu o bell rhan-amser hwn gyda ffocws ar berthnasedd ymarferol, gan dynnu ar flynyddoedd o ymchwil, addysgu a gwaith maes mewn lleoliadau Bwdhaidd.

O waith maes mewn mynachlogydd Bwdhaidd i ymchwil arloesol ar grefydd a'r rhyngrwyd, mae ei addysgu’n dod â safbwyntiau byd-eang yn fyw. Oes gennych gwestiynau am y cwrs, arddull addysgu, neu a yw'n addas i chi? Cysylltwch â Nick yn uniongyrchol trwy e-bost neu sgwrsiwch ag ef ar Unibuddy. Dr Swann yw eich prif gyswllt ar gyfer ymholiadau sy'n benodol i'r cwrs.


Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

Mae graddedigion wedi mynd yn eu blaen i astudio at radd PhD, ac i swyddi addysgu a chwnsela, ac yn y celfyddydau a'r cyfryngau, yn ogystal â rolau arweiniol mewn canolfannau Bwdhaidd. Mae eraill yn defnyddio'r cwrs i foddhau diddordeb oes neu i gyfoethogi eu gyrfa bresennol mewn gofal iechyd, addysg neu gyda chyrff dielw.

Mae graddedigion hefyd wedi defnyddio eu MA Astudiaethau Bwdhaidd ar gyfer gyrfaoedd mewn caplaniaethau, yn y fyddin ac yn y gwasanaeth carchar. Mae myfyrwyr yn UDA sydd am weithio mewn caplaniaethau milwrol wedi defnyddio credydau o'r MA Astudiaethau Bwdhaidd tuag at y cymhwyster MDiv sydd ei angen ar gyfer eu gyrfaoedd.

Bydd graddedigion yn gymwys yn awtomatig ar gyfer ein Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr pwnc-benodol, sy'n rhwydwaith byd-eang cefnogol, sy’n prysur dyfu, o ysgolheigion astudiaethau Bwdhaidd.

Cymorth gyrfaoedd

Gyrfaoedd graddedigion

Gofynion mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Gradd anrhydedd dda 2:1 neu’n uwch
  • Mae angen cyfweliad Skype. 

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

* Rhwymedig

Nodwch mai dyma'r cyfartaledd ar gyfer pob modiwl a addysgir. Mae mynediad at werslyfrau yn orfodol ar gyfer pob modiwl a addysgir, ond y gall y rhain fod ar gael mewn llyfrgelloedd academaidd lleol a gellir dod o hyd i lawer ohonynt yn ail law.

Cost: I fyny at £160

 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.