Archwilio Fforensig a Chyfrifeg
Mae cyfrifeg fforensig a disgyblaeth gysylltiedig archwilio fforensig yn feysydd sy’n datblygu’n gyflym yn y byd masnachol.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda niManylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£10,800*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,900*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Mae cwrs Meistr mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifyddu uchel ei barch Prifysgol De Cymru – yr unig gwrs o’i fath yn y DU – wedi bod ar waith ers dros ddeng mlynedd ac mae’n darparu sgiliau arbenigol mewn ymchwilio i dwyll, prisio, helpu i ddatrys anghydfodau, adroddiadau arbenigol ac ymchwiliadau seiber.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Myfyrwyr israddedig sydd â graddau mewn meysydd cysylltiedig fel cyfrifeg neu fusnes, ymgeiswyr sydd heb ymwneud ag addysg ffurfiol ers nifer o flynyddoedd ac sy’n awyddus i wella eu sgiliau.
Llwybrau Gyrfa
- Ymchwilydd twyll
- Cyfrifydd fforensig
- Dadansoddwr ariannol
- Ymgynghorydd risg
- Asesydd iawndal economaidd
Y sgiliau a addysgir
- Gwerthuso data
- Dyluniad ymchwil
- Didwylledd rheolaethol
- Datrys anghydfod
- Ymchwilio i dwyll
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd yr MSc mewn Archwilio Fforensig a Chyfrifeg yn meithrin eich hyder yn yr archwiliad fforensig o ddata busnes ac yn rhoi sgiliau dadansoddi, gwerthuso a datrys problemau uwch i chi. Byddwch yn dysgu sut i werthuso egwyddorion llywodraethu corfforaethol da a gonestrwydd rheoli, ac yn deall rôl technegau fforensig cyfrifiadurol mewn cyd-destun ymchwilio a chyfreithiol.
Dadansoddiad Ariannol Fforensig
Trosolwg o ddadansoddiad ariannol gan gynnwys meysydd fel prisio, dadansoddi datganiadau ariannol, adnabod asedau cudd, adfer asedau, a meintioli colledion sy’n deillio o sefyllfaoedd trychineb.
Archwilio, Llywodraethu a Rheoli Risg
Mae'r modiwl hwn yn cysylltu llywodraethu a thwyll ac yn rhoi pwyslais ar reoli risg twyll a rheolaethau mewnol. Mae’n canolbwyntio ar y technegau archwilio fforensig arbenigol yn ogystal â sgiliau archwilio statudol generig.
Dulliau Ymchwil mewn Cyfrifeg a Chyllid
Cyflwyniad i ddulliau a methodoleg ymchwil academaidd gan ganolbwyntio ar gyllid a chyfrifeg.
Ymchwiliadau Seiber a Digidol
Gwybod am offer, technegau ac ymarfer gwaith fforensig digidol. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin â'r gyfraith sy'n ymwneud â gwaith fforensig digidol, seiberdroseddu a mesurau lliniaru.
Troseddau Ariannol a Thystion Arbenigol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar rôl y tyst arbenigol a datrys anghydfodau. Rydym hefyd yn edrych ar waith Timau Adennill Asedau Rhanbarthol, Unedau Troseddau Trefnedig Rhanbarthol, a deddfwriaeth gysylltiedig.
Archwilio Twyll
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar fethodolegau archwilio twyll o gynllunio ymchwiliadau i ymgyfreitha, ymgysylltu, ysgrifennu adroddiadau a thechnegau ymchwilio arbenigol.
Traethawd Hir – Cyfrifeg a Chyllid
Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gynnal darn trylwyr a manwl o ymchwil ar faes pwnc o'u dewis.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut byddwch chi’n dysgu
Defnyddir dull ymarferol dan arweiniad myfyrwyr sy'n cwmpasu dulliau dysgu gweithredol, cydweithredol sy'n seiliedig ar broblemau, lle mae myfyrwyr yn dod i gysylltiad â sefyllfaoedd yn y byd go iawn ac yn cael y sgiliau a'r cyfleoedd i ddod o hyd i atebion ymarferol. At hynny, mae ein prosesau addysgu wedi'u gwreiddio mewn ymchwil gyfoes a phrofiadau diwydiant ymarferol y tîm addysgu.
Staff addysgu
Rydym yn ymfalchïo mewn cynnig amgylchedd cefnogol lle gall myfyrwyr ddatblygu eu hyder, eu galluoedd technegol ac ymchwil a'u sgiliau cyflogadwyedd. Rydym yn dod â chysyniadau’n fyw gan ddefnyddio ein profiad a’n hymchwil yn y byd go iawn.
Lleoliadau
Mae myfyrwyr yn cael cyfle i wirfoddoli ar gyfer gwaith prosiect ac ymgynghori gyda'n Clinig Ysgol Busnes.
Cyfleusterau
Bydd gennych fynediad at Ganolfan Astudio Israddedig bwrpasol, sy’n gartref i’n hystafell efelychu Masnachu Ariannol bwrpasol, sy’n cael ei phweru gan feddalwedd Global Investor Simulations. Gall myfyrwyr hefyd gael mynediad at labordai cyfrifiadurol arbenigol gyda meddalwedd fforensig cyfrifiadurol cysylltiedig.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Darperir gwerslyfrau drwy lyfrgell PDC ond efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno prynu eu copïau preifat eu hunain. Mae'r gost hon yn ddewisol.
Cost: I fyny at £300
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.