Astudiaethau Iechyd Cymunedol (Ymarferydd Arbenigol Nyrsio Ardal)
Ydych chi'n nyrs gofrestredig sy'n gweithio yn y gymuned ac yn awyddus i ddatblygu eich gyrfa?
Sut i wneud cais Archebu Lle ar Ddiwrnod Agored Siarad gyda Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/GettyImages-473016104.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£1,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Symudwch i faes arwain a rheoli drwy gwblhau ein Cymhwyster Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal (CYANA), wedi’i gofnodi gyda’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae ein cwrs yn eich paratoi i ddod yn Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal cymunedol yn dilyn Safonau Hyfedredd y CNB (2022) ar gyfer Cymwysterau Ymarfer Arbenigol Nyrsio Cymunedol.
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferydd Arbenigol mewn Nyrsio Ardal
Y sgiliau a addysgir
- Ymarfer ag Ymreolaeth Seiliedig ar Ymarfer
- Arweinyddiaeth a Rheoli
- Asesiadau’n cynnwys meddwl beirniadol, gwneud penderfyniadau a datrys problemau
- Sut i wella ansawdd mewn lleoliadau gofal iechyd
- Addysg Iechyd a Hybu Iechyd
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r cwrs yn para o fis Medi i fis Awst ar sail ran amser dros ddwy flynedd. Mae gofyniad i gwblhau oriau ar waith theori a chlinigol ar gyfer pob modiwl. Byddwch yn derbyn Dogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan (DAY) ar gyfer yr elfennau clinigol gorfodol. Cyflwynir y cwrs drwy ddull dysgu cyfunol - gan ddefnyddio addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.
Mae tri modiwl ym Mlwyddyn Un gyda'r nod o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol myfyrwyr mewn ymarfer annibynnol, asesu a chynllunio gofal, ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth.
Ymarfer ag Ymreolaeth mewn Nyrsio Arbenigol yn y Gymuned
Nod y modiwl yw datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol y myfyriwr fel ei fod yn gallu gweithio’n effeithiol fel nyrs broffesiynol ac atebol ag ymreolaeth, ac i reoli cymhlethdod a risgiau cynyddol yn ddiogel mewn ymarfer yn y gymuned.
Mae hyn yn cyfeirio at y bobl y maen nhw’n yn gofalu amdanyn nhw, y llwythi achos maen nhw’n eu rheoli, a'r gwasanaethau maen nhw’n gweithio ynddyn nhw - yn annibynnol ac mewn ffordd sydd wedi’i hintegreiddio ag asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a disgyblaethau eraill.
Asesu a Chynllunio Gofal fel Ymarferydd Arbenigol yn y Gymuned
Y bwriad yw hwyluso datblygiad gwybodaeth, sgiliau a galluoedd gwneud penderfyniadau'r ymarferydd yn y prosesau asesu a chynllunio gofal.
Darparu ac Arfarnu Gofal Seiliedig ar Dystiolaeth
Mae datblygu gwybodaeth a sgiliau ymhellach i ddefnyddio ystod o ymyriadau wrth ddarparu a gwerthuso gofal yn seiliedig ar arfer gorau hefyd yn un o nodau’r cwrs.
Mae tri modiwl ym Mlwyddyn Dau gyda'r nod o ddatblygu gwybodaeth a sgiliau myfyrwyr wrth hyrwyddo iechyd a lles, arwain a rheoli a gwella ansawdd mewn gofal iechyd cymunedol.
Hybu Iechyd a Lles yng Nghyd-destun Ymarfer Arbenigol yn y Gymuned
Y bwriad yw ymestyn gwybodaeth a dealltwriaeth o ymyriadau er mwyn sicrhau bod iechyd yn cael ei amddiffyn cymaint â phosibl a hyrwyddo iechyd a lles i bobl, teuluoedd, cymunedau a phoblogaethau sy'n gysylltiedig â'r maes ymarfer.
Bydd y modiwl hwn yn galluogi nyrsys cymunedol i ddatblygu sgiliau arbenigol i weithio'n effeithiol gyda phobl sy'n defnyddio gwasanaethau a'u gofalwyr i wneud dewisiadau cadarnhaol i wella eu hiechyd corfforol, meddyliol ac ymddygiadol.
Arwain a Rheoli Timau wrth Gydlynu Gofal yn y Gymuned
Yr amcan yw gwella'r gallu i gynnal dadansoddiadau beirniadol o arddulliau arwain a theorïau rheoli. Bydd myfyrwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon a'r sgiliau hyn wrth gydlynu prosiectau a gwasanaethau.
Bydd y modiwl yn cyfoethogi dealltwriaeth myfyrwyr o ddamcaniaethau a fframweithiau cydweithredu effeithiol i wella iechyd a lles.
Gwella Ansawdd mewn Ymarfer Arbenigol yn y Gymuned
Y bwriad yw datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol yn ymwneud ag ymchwil a dulliau, fframweithiau ac offer gwella ansawdd. Bydd y rhain yn galluogi arweinyddiaeth effeithiol a gweithredu mentrau gwella ansawdd yn eu maes ymarfer cymunedol.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Lleoliadau
Disgwylir i fyfyrwyr ar y rhaglen Astudiaethau Iechyd yn y Gymuned fod yn gweithio mewn gwasanaeth cymunedol â mynediad i Oruchwylydd Ymarfer ac Aseswr Ymarfer cymwys.
Mae’r Brifysgol yn cynnal cysylltiadau agos ac effeithiol â byrddau iechyd cyfagos a thu hwnt, lle ceir rhwydweithiau cymorth i alluogi myfyrwyr i astudio a gweithio i fodloni deilliannau llwyddiannus yn unol â disgwyliadau NMC.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/msc-community-health-studies-practice-nursing.jpg)
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Rhaid i ymgeiswyr fod yn nyrs â chofrestriad NMC (lefel 1). Rhaid hefyd bod â gradd a bod yn gweithio mewn lleoliad sy’n darparu gofal arbenigol yn y gymuned yn berthnasol i faes ymarfer arbenigol yr ymgeisydd.
- Mae angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Manwl (DBS) ar Restr Gwahardd y Gweithlu Plant ac Oedolion a Phlant ac Oedolion a thanysgrifiad i Wasanaeth Diweddaru’r DBS. (Mae angen cyfwerth o dramor ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn dod o'r DU).
Gofynion ychwanegol
- Rhaid i ymgeiswyr gael eu cefnogi a'u henwebu ar gyfer lle ar y cwrs gan eu cyflogwr. Rhaid iddynt ddatgan bod eu hiechyd yn dda a’u bod o gymeriad da.
- Mae gofyn i bob ymgeisydd fynychu cyfweliad. I gael cymorth pellach ar baratoi ar gyfer cyfweliad a beth i'w ddisgwyl yn y cyfweliad, darllenwch ein Cyngor cyn Ymgeisio.
- Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Fe ystyrir cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol a phrofiad clinigol a all gael ei mapio’n unol â deilliannau dysgu’r rhaglen a safonau hyfedredd MNC yn unol â phrosesau RPL/RPEL PDC.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£1,200
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Mae angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae'r gwasanaeth diweddaru yn cael ei argymell.
Cost: £64.74 y flwyddyn ar gyfer DBS uwch a £16 am y gwasanaeth diweddaru.
Bydd angen cyflwyniad crynodol ar ffurf poster A1.
Cost: £11 o Print and Design yn PDC
Astudiwch yng nghanol Pontypridd
Mae ein campws yn Nglyn-taf yng nghanol Cymoedd De Cymru, gyda golygfeydd hardd a thirwedd bryniog. Mae bob amser rhywbeth yn digwydd neu leoedd newydd i'w darganfod.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.