Ffeindiwch gwrs
Datblygwch seilwaith y dyfodol gyda'n gradd achrededig. Byddwch yn tyfu eich arbenigedd a'ch sgiliau trwy ein dulliau addysgu arloesol a thechnolegau digidol gan gynnwys modelu gwybodaeth am adeiladau (BIM), dronau, a chipio safle diffiniad uchel.
- Israddedig
- Pontypridd
Mae syrfewyr meintiau yn deall pob agwedd ar adeiladu, mae galw mawr amdanynt ac maent yn ennill cyflogau deniadol. Nhw yw rheolwyr ariannol y diwydiant adeiladu ac mae angen iddynt reoli costau’n effeithiol wrth ystyried ansawdd, cynaliadwyedd ac anghenion y cleient. Mae’n yrfa werth chweil sy’n talu’n dda.
- Israddedig
- Pontypridd
Bydd myfyrwyr yn archwilio materion troseddegol manwl ac yn cwestiynu a gwerthuso’n feirniadol ddadleuon ynglŷn â syniadau o drosedd a chyfiawnder mewn ffyrdd athronyddol a chysylltiedig ag ymarfer, ac o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Mae astudio Troseddeg yn PDC yn caniatáu ichi archwilio trosedd fel un o faterion mwyaf cymhleth a heriol cymdeithas. Byddwch yn archwilio pam mae trosedd yn digwydd, sut mae cymdeithas yn diffinio ac yn ymateb i ymddygiad troseddol, a sut mae dioddefwyr, troseddwyr, cymunedau a sefydliadau yn profi'r system cyfiawnder troseddol.
- Israddedig
- Pontypridd
Paratowch ar gyfer gyrfa mewn Troseddeg wrth adeiladu'r sgiliau academaidd sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol.
- Israddedig
- Pontypridd
Mae ein BSc Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid yn canolbwyntio ar un o'r cwestiynau pwysicaf mewn cyfiawnder troseddol: sut y dylai cymdeithas ymateb pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio gan drosedd, niwed, bregusrwydd neu droseddu?
- Israddedig
- Pontypridd
Paratowch am yrfa mewn Troseddeg a Chyfiawnder Ieuenctid wrth adeiladu'r sgiliau academaidd sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol.
- Israddedig
- Pontypridd
Archwiliwch pam mae pobl yn troseddu, sut mae dioddefwyr yn profi niwed, a sut y gall damcaniaethau seicolegol a throseddegol ein helpu i ddeall risg, bregusrwydd, adsefydlu a chyfiawnder.
- Israddedig
- Pontypridd
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydym yn cefnogi ac yn datblygu myfyrwyr i ddysgu ‘yn y swydd’ gyda’n gradd ryngweithiol ac ymarferol yn y gyfraith.
- Israddedig
- Pontypridd
Sbardunwch eich gyrfa gyfreithiol gyda’r cwrs hyblyg hwn sy’n cynnig profiad cyfreithiol go iawn i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau blwyddyn o addysg uwch.
- Israddedig
- Pontypridd
Mae Cyfraith a Throseddeg yn PDC yn rhoi'r gorau o'r ddau fyd i chi: cymhwyster LLB llawn mewn cyfraith ynghyd ag astudiaeth arbenigol o droseddu, cyfiawnder troseddol, a'r systemau cymdeithasol sy'n eu llunio.
- Israddedig
- Pontypridd
Mae ein gradd LLB Cyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE) yn eich paratoi ar gyfer ymarfer cyfreithiol ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1).
- Israddedig
- Pontypridd
Byddwch yn ymgysylltu â themâu cyfreithiol go iawn, o gyfiawnder troseddol i ymarfer proffesiynol, trwy weithgareddau ymarferol a myfyrio.
- Israddedig
- Pontypridd
Lluniwyd y cwrs hwn i roi’r sgiliau i fyfyrwyr er mwyn iddynt allu darparu’r gofal mwyaf effeithiol a’r ymarfer mwyaf cyfredol â phosibl, gan eu galluogi i gymhwyso a gwneud cais i gofrestru fel Ymarferydd Adran Lawdriniaeth gyda Chyngor y Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).
- Israddedig
- Pontypridd
Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i roi profiad i chi o ddefnyddio strategaethau asesu ac ymyrryd yn y maes dadansoddi ymddygiad mewn ffordd foesegol ar draws ystod o leoliadau a phoblogaethau.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Datblygwyd y cwrs hwn i adlewyrchu'r lefelau uwch o wybodaeth a sgiliau sydd eu hangen i ddod yn Rhagnodwr Annibynnol. Hanfod y cwrs hwn yw y bydd fferyllwyr, bydwragedd, nyrsys, parafeddygon a ffisiotherapyddion yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'i gilydd a'u hasesu gan ddefnyddio'r un meini prawf asesu.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Mae'r cwrs MSc Ymarfer Proffesiynol yn canolbwyntio ar y datblygiad proffesiynol sy'n angenrheidiol ar gyfer ymarfer a rolau arwain lefel uwch. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn rhyngwladol sydd wedi'i gynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, i ennill swyddi o fewn gwasanaethau cymdeithasol ac iechyd yn fyd-eang.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Mae’r llwybr Ymarfer Proffesiynol LLM gyda’r Arholiad Cymhwyso i Gyfreithwyr (SQE) yn cynnig cyfle i chi baratoi ar gyfer SQE1, cael cyflwyniad i sgiliau cyfreithiol SQE2 a chael rhywfaint o Brofiad Gwaith Cymwys (QWE). Yn ystod y broses hon, byddwch yn ennill cymhwyster LLM a gydnabyddir yn rhyngwladol.
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Bydd yr MSc Ymarfer Uwch yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau ar lefel uwch, a thrwy hynny fodloni'r gofynion a bennir gan yr Asiantaeth Arweinyddiaeth ac Arloesi Genedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd (NLIAH).
- Ôl-raddedig
- Pontypridd
Yr unig ffordd o ennill y set sgiliau eang a deinamig sydd ei hangen i ddatrys troseddau yw trwy brofiad ymarferol. Mae ein BSc Ymchwiliad Fforensig yn eich paratoi ar gyfer gweithredu yn y byd archwilio safleoedd troseddau, wrth i chi ymchwilio i safleoedd troseddau efelychiadol, defnyddio offer labordy o safon diwydiant a rhoi tystiolaeth fel tyst arbenigol.
- Israddedig
- Pontypridd