LLB (Anrh)

Cyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

Cyfunwch radd gyfraith draddodiadol â phrofiad cleientiaid go iawn a pharatoi ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1).

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni

Côd UCAS

Y54L

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

104


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Côd UCAS

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

104

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein gradd LLB Cyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE) yn eich paratoi ar gyfer ymarfer cyfreithiol ac Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr 1 (SQE1).

Mae myfyrwyr yn ymgysylltu ag achosion go iawn yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan ddatblygu gwybodaeth gyfreithiol a sgiliau rhyngbersonol hanfodol sy'n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr. Mae adborth gan y diwydiant yn dangos y byddwch yn cael eich gwerthfawrogi'n fawr gan gwmnïau cyfreithiol.

Mae'r cwrs yn caniatáu ichi adeiladu sylfeini academaidd a phroffesiynol cryf wrth ymdrin â phob maes a asesir ar SQE1, gan ennill cipolwg ar y gyfraith ar waith. Mae ystod o fodiwlau dewisol yn caniatáu ichi addasu eich profiad dysgu, gan alinio eich astudiaethau â'ch diddordebau penodol a'ch dyheadau gyrfa.

Cewch eich addysgu gan gyfreithwyr sy'n ymarfer ar hyn o bryd ac eraill sydd wedi ymarfer yn y gorffennol, ac sy'n gyfredol â'r tueddiadau cyfreithiol a'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Mae eu profiad o weithio mewn cwmnïau cyfreithiol yn golygu eu bod yn deall yn union beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano a gallant eich helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol hynny, gan wella eich cyflogadwyedd.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Un o'r ychydig gyrsiau yn y DU sydd nid yn unig yn rhoi gradd LLB yn y gyfraith i chi, ond hefyd profiad cyfreithiol a pharatoi ar gyfer SQE.

Profiad Gwaith Cymwys (QWE)

Cael profiad o ddarparu cyngor cyfreithiol pro bono i gleientiaid go iawn yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol safon uchaf.

Cyfleusterau ardderchog ar y campws

Cewch astudio ac ymarfer yn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, Canolfan Hydra (ystafell efelychu), ac ystafell lys ffug.

Wedi'i werthfawrogi gan gyflogwyr

Bydd galw mawr amdanoch gan gwmnïau cyfreithiol sy'n gwerthfawrogi ein graddedigion am eu profiad cyfreithiol heb ei ail a'u sgiliau cyfreithiol proffesiynol.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfreithiol academaidd a phroffesiynol, yn ogystal ag archwilio meysydd cyfreithiol sylfaenol i gael dealltwriaeth glir o systemau a strwythur y llysoedd.

Mae'r modiwl hwn yn meithrin sgiliau hanfodol ar gyfer astudio a chymhwyso'r gyfraith ac yn gwella eich galluoedd academaidd, gan sicrhau eich bod yn rhagori trwy gydol eich cwrs.

*Mae modd astudio'r modiwl hwn 100% drwy gyfrwng y Gymraeg

Datblygwch wybodaeth, dealltwriaeth a chymhwysiad o gyfraith droseddol, gan edrych ar wahanol fathau o droseddau a dadansoddi atebolrwydd.

Edrychwch ar natur, egwyddorion a hanes y gyfraith yng nghyfansoddiad y DU yn ogystal â chyfraith yr UE.

Deallwch weithrediad y system Eingl-Gymreig; ei ffynonellau, sefydliadau, personél a phrosesau, a'r cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol y mae'n gweithredu ynddo.

Dysgwch hanfodion cyfraith contractau, conglfaen atebolrwydd sifil a'r sylfaen ar gyfer llawer o rannau eraill o'r cwrs, gan ei chymhwyso mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd.

Dysgwch hanfodion cyfraith camweddau, conglfaen atebolrwydd camweddus preifat a chyhoeddus, gan osod y sylfeini eto ar gyfer astudio yn y dyfodol trwy gydol y cwrs.

Archwiliwch sut mae gweithleoedd yn gweithio mewn gwirionedd. Archwiliwch foeseg, tegwch a lles wrth ddysgu sut mae penderfyniadau rheoli pobl yn llunio sefydliadau, cymunedau a dyfodol gwaith.

Ewch ar y daith dechrau busnes o syniad i dwf. Gweithiwch gydag eraill i ddatrys her a osodir gan PDC a phartner diwydiant ac adeiladwch feddylfryd, hyder a sgiliau entrepreneur.

Dysgwch sut i ddenu sylw i’ch syniadau. Meddyliwch o safbwynt marchnata mewn senarios go iawn wrth feithrin sgiliau cynllunio, creadigrwydd a brand personol cryf i gefnogi eich gyrfa yn y dyfodol.

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn mynd ar leoliad ffurfiol am y tro cyntaf yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, a byddwch yn astudio modiwlau maes ymarfer sy'n rhan o'r asesiadau SQE. Bydd y rhain yn eich galluogi i sicrhau’r profiad a'r sgiliau ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa gyfreithiol lwyddiannus.

Mae'r modiwlau dewisol yn amodol ar newid. Gallwch weld enghraifft o'r modiwlau dewisol a gynigir isod.

Ymgymerwch â lleoliad 20 wythnos yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol am 4 awr yr wythnos. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarfer cyfreithiol allweddol ac yn arsylwi cyfweliadau â chleientiaid go iawn.

Datblygwch wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ynghylch gweithdrefnau troseddol a llysoedd troseddol, o gynghori cleientiaid mewn gorsafoedd heddlu i ddedfrydu yn y llys.

Datblygwch wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ynghylch gweithdrefnau sifil a llysoedd sifil, gan gynnwys y technegau a'r confensiynau sy'n ofynnol gan eiriolwr sy’n cyflwyno yng nghyd-destun achos sifil.

Cynyddwch eich gwybodaeth am feysydd allweddol y gyfraith gan gynnwys trethiant, cyfrifon cyfreithwyr, ewyllysiau a gweinyddu ystadau, moeseg, ymddygiad proffesiynol a gwasanaethau cyfreithiol.

Trwythwch eich hun yn hanfodion cyfraith tir gan gynnwys natur tir, teitlau tir, prydlesi, cydberchnogaeth ac ymddiriedolaethau.

Archwiliwch sut mae'r dirwedd dechnolegol yn effeithio ar ymarfer cyfreithiol, gan edrych ar Ddeallusrwydd Artiffisial, data mawr, seiberddiogelwch a mwy, yn ogystal â materion proffesiynol a moesegol.

Archwiliwch strwythurau, personél, dulliau a deddfau sylweddol System Gyfreithiol Lloegr a systemau cyfreithiol eraill yn feirniadol, gan werthfawrogi gwahanol safbwyntiau cyfreithiol.

Gall y modiwlau dewisol newid. Gallwch weld enghraifft o fodiwlau dewisol a ddarperir uchod.

Gweithiwch mewn grwpiau i ddatblygu prosiect ymchwil i addysgu aelodau o ysgol, elusen, grŵp cymunedol neu sefydliad lleol.

Archwiliwch benderfyniadau deddfwriaethol a barnwrol a'u heffaith ar fusnes, gan gwmpasu gwerthu nwyddau, rhwymedïau, trosglwyddo eiddo, danfon, derbyn a thalu.

Datblygwch eich gwybodaeth am egwyddorion hanfodol a sut mae'r gyfraith yn ymwneud â'r berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan gwmpasu contractau cyflogaeth, hawliau statudol, diswyddo anghyfreithlon ac annheg, colli swydd a gwahaniaethu yn y gwaith.

Archwiliwch sut mae caffael, logisteg a gweithrediadau yn gyrru busnes modern. Cymhwyswch lythrennedd carbon a meddwl o safbwynt cynaliadwyedd i optimeiddio cadwyni cyflenwi wrth gydbwyso effeithlonrwydd, gwerth a chyfrifoldeb byd-eang.

Datblygwch hyder ariannol i ddehongli, rheoli a dylanwadu ar ganlyniadau busnes. Dadansoddwch senarios byd go iawn, gwnewch benderfyniadau strategol, a dewch i ddeall sut mae cyllid yn gyrru effaith sefydliadol a chymdeithasol.

Dewch i ddeall sut mae systemau economaidd yn llunio busnes a chymdeithas. Archwiliwch broblemau busnes yn y byd go iawn, cysylltwch theori ag ymarfer, ac ystyriwch sut y gall busnesau greu effaith gynaliadwy a chadarnhaol.

Gweithiwch mewn timau i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol go iawn. Cydweithiwch ar draws cyrsiau, datryswch broblemau ar gyfer partneriaid diwydiant, a dangoswch atebion arloesol, ymarferol mewn lleoliad proffesiynol.

Enillwch brofiad gweithle dilys trwy leoliad pum wythnos. Cymhwyswch yr hyn a ddysgwch, datblygwch sgiliau proffesiynol, ac ewch ati i ymdrin â her fusnes go iawn wrth feithrin hyder a chyflogadwyedd.

Treuliwch flwyddyn gyfan yn y DU neu dramor yn ennill profiad yn y gweithle neu'n rhyngwladol. Adeiladwch bersbectif byd-eang, datblygwch rwydweithiau proffesiynol, a myfyriwch ar eich twf fel arweinydd y dyfodol.

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd â lleoliad mwy manwl yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan gael mwy o gyfrifoldeb ac ymreolaeth. Byddwch yn parhau â'ch astudiaeth o feysydd ymarfer y mae’r SQE yn eu hasesu ac yn datblygu eich meysydd arbenigedd drwy ddewis modiwlau fel cyfraith teulu ar waith neu gleient preifat ar waith.

Mae'r modiwlau dewisol yn amodol ar newid. Gallwch weld enghraifft o'r modiwlau dewisol a gynigir isod.

Cymhwyswch eich gwybodaeth i ddatrys problemau cyfreithiol sy'n ymwneud â rheolau a gweithdrefnau busnes, cyllid, llywodraethu corfforaethol a chydymffurfiaeth, awdurdod partner, ansolfedd a mwy.

Gweithiwch yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol am yr hyn sy'n cyfateb i 1 diwrnod yr wythnos am 20 wythnos, gan ddatblygu eich sgiliau ymarferol mewn amgylchedd cyfreithiol dan oruchwyliaeth ond gyda mwy o ymreolaeth.

Cymhwyswch y gyfraith i broblemau cymhleth sy'n ymwneud ag ymddiriedolaethau datganedig ac ymhlyg, y berthynas ymddiriedol, dyletswyddau ymddiriedolwyr, pwerau ac atebolrwydd a rhwymedïau ecwitïol.

Cyfle i ddeall a chymhwyso'r camau hanfodol mewn trafodion eiddo preswyl a masnachol sy'n ymgorffori tir rhydd-ddaliadol a lesddaliadol, cynllunio a threth eiddo.

Cyfle i ddeall a chymhwyso'r gyfraith sy'n ymwneud â hawliau plant, amddiffyn plant (llys teulu), a phlant sy'n gwrthdaro â'r gyfraith (llys ieuenctid).

Gweithiwch drwy senarios sy'n ymwneud â materion megis statws cyflogaeth, terfynu contractau, trosglwyddo busnes, chwythu'r chwiban, tribiwnlysoedd cyflogaeth a mwy. 

Cwblhewch leoliad 20 wythnos, 4 awr yr wythnos yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gan weithio ar brosiectau yn y gymuned i ategu eich profiad Ymarfer Clinigol.

Cyfle i ddysgu a chymhwyso egwyddorion caffaeliadau busnes a meddiannu corfforaethol, gan ystyried materion fel diwydrwydd dyladwy, gwarantiadau a threthiant.

Gan ganolbwyntio ar drethi a chynllunio ystadau, ewyllysiau, hawliadau etifeddiaeth, ac atwrneiaeth, cymhwyswch y gyfraith i ystod o senarios.

Archwiliwch benderfyniadau deddfwriaethol a barnwrol a'u heffaith ar fusnes, gan gwmpasu gwerthu nwyddau, rhwymedïau, trosglwyddo eiddo, danfon, derbyn a thalu.

Datblygwch eich gwybodaeth am egwyddorion hanfodol a sut mae'r gyfraith yn ymwneud â'r berthynas rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan gwmpasu contractau cyflogaeth, hawliau statudol, diswyddo anghyfreithlon ac annheg, colli swydd a gwahaniaethu yn y gwaith.

Datblygwch eich gwybodaeth sylfaenol, gan gwmpasu ymreolaeth a chydsyniad, esgeulustod clinigol, atgenhedlu, genedigaeth a rhianta, a materion diwedd oes fel ewthanasia a rhoi organau.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Byddwch yn cael eich addysgu gan gyfreithwyr gweithredol a chyn-gyfreithwyr sy'n meddu ar y wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau cyfreithiol a'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Mae eu profiad mewn cwmnïau cyfreithiol yn golygu eu bod yn gwybod yn union beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano a gallant eich helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol hynny, gan roi hwb i'ch cyflogadwyedd.

Cewch eich addysgu gan gyfreithwyr sy'n ymarfer ar hyn o bryd ac eraill sydd wedi ymarfer yn y gorffennol, ac sy'n gyfredol â'r tueddiadau cyfreithiol a'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Mae eu profiad o weithio mewn cwmnïau cyfreithiol yn golygu eu bod yn deall yn union beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano a gallant eich helpu i ddatblygu'r sgiliau allweddol hynny, gan wella eich cyflogadwyedd.

Byddwch yn cyfuno damcaniaeth gyfreithiol â dysgu ymarferol yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, lle byddwch yn profi'n uniongyrchol sut mae'r gyfraith yn gweithredu ac yn effeithio ar bobl go iawn. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau grŵp yn ein hystafell efelychu Hydra a'n ffug ystafell lys. Mae eich dysgu hefyd yn cael ei wella gan sgyrsiau gwadd gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, teithiau maes, a lleoliadau gwirfoddol. 

Gellir defnyddio eich amser yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol tuag at eich Profiad Gwaith Cymhwysol (QWE), sydd ei angen arnoch i gymhwyso fel cyfreithiwr.

Byddwch yn cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd drwy gydol eich gradd, gan gynnwys arholiadau, traethodau, cyflwyniadau a dadleuon. Mae modiwlau ymarferol yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyfreithiol proffesiynol trwy weithgareddau fel drafftio dogfennau cyfreithiol yn ogystal ag arholiadau amlddewis arddull SQE1 i'ch helpu i baratoi ar gyfer fformat yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE1), os dewiswch ei sefyll ar ôl graddio.

Paratoi ar gyfer Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE)

Arholiadau SQE 1 ac SQE 2 yw'r llwybr at gymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. Caiff SQE 1 ei asesu'n ganolog dros ddau ddiwrnod ar ffurf un ateb gorau i gwestiynau amlddewis. Mae SQE 1 yn profi gwybodaeth gyfreithiol ymgeisydd mewn meysydd craidd, a elwir yn Wybodaeth Gyfreithiol Weithredol.

Caiff SQE 2 ei asesu'n ganolog dros sawl diwrnod ac mae'n profi sgiliau cyfreithiol ymarferol ymgeisydd fel cyfweld a chynghori, a dadansoddi achosion.

Yn ogystal â phasio SQE 1 ac SQE 2, rhaid i ymgeiswyr hefyd feddu ar radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn unrhyw bwnc, cwblhau dwy flynedd o Brofiad Gwaith Cymwys a bodloni gofynion cymeriad ac addasrwydd yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA).

Ym mlynyddoedd 2 a 3, bydd eich lleoliadau ffurfiol, gorfodol o fewn ein Clinig Cyngor Cyfreithiol, lle byddwch yn gweithio gyda chleientiaid go iawn, yn asesu ac ymchwilio i'w problemau cyfreithiol, ac yn drafftio cyngor cyfreithiol - i gyd o dan arweiniad cyfreithwyr profiadol a chymwys. Mae'r profiad ymarferol hwn yn cyfrif tuag at y profiad gwaith sydd ei angen i gymhwyso fel cyfreithiwr. Gallwch hefyd fanteisio ar gyfleoedd profiad gwaith dewisol, er enghraifft addysgu disgyblion ysgol neu aelodau’r gymuned ynglŷn â materion cyfreithiol, neu weithio fel intern gyda’n partneriaid diwydiant fel Capital Law neu Hugh James. 

Mae ein Clinig Cyngor Cyfreithiol arobryn yn cynnig cyfle unigryw i ennill profiad ymarferol amhrisiadwy gyda chleientiaid cyfreithiol go iawn. Rydym yn darparu paratoad heb ei ail drwy ein cyfleusterau arbenigol. Defnyddiwch ein llys ffug i fireinio eich sgiliau llys, a manteisiwch ar ystafelloedd cyfweld lle gall staff arsylwi ar eich rhyngweithiadau a darparu adborth. Mae'r canolfan efelychu Hydra yn gwella eich hyfforddiant ymhellach drwy eich galluogi i ymarfer gwneud penderfyniadau allweddol mewn amrywiaeth o senarios, gan gynnig paratoad delfrydol ar gyfer ymarfer cyfreithiol yn y byd go iawn.

Arweinydd y Cwrs

Leane Barnes

Mae Leane yn gyfreithiwr cymwys, yn ddarlithydd ac yn Arweinydd Cwrs y radd LLB Cyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE). Mae Leane yn arwain y cwrs israddedig hwn gyda ffocws ar ymarfer cyfreithiol gan sicrhau bod graddedigion yn hyderus, yn fedrus ac yn barod i ymarfer. Cyn ymuno â Phrifysgol De Cymru, bu Leane yn gweithio mewn practis cyfreithiol preifat am flynyddoedd lawer, gan ddefnyddio ei phrofiad helaeth fel cyfreithiwr cymwys yn ei haddysgu, gan lywio ei dull ymarferol, sy'n canolbwyntio ar sgiliau, o ddysgu. Mae Leane yn goruchwylio myfyrwyr yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol ac yn addysgu ar draws modiwlau allweddol gan gynnwys Cyfraith Eiddo ar Waith, Ymddygiad Proffesiynol, Cynllunio Ewyllysiau ac Ystadau a Chleient Preifat ar Waith, gan gefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer eu gyrfaoedd cyfreithiol yn y dyfodol.

Rhagolygon Gyrfa

Mae'r cwrs hwn yn darparu sylfaen gref ar gyfer gyrfa yn y gyfraith a thu hwnt. Er byddwch wedi'ch paratoi'n dda i sefyll arholiad SQE1 ar ôl graddio, gallech ddewis cymhwyso fel bargyfreithiwr neu Weithredwr Cyfreithiol Siartredig yn lle hynny. Fel arall, gallwch ddilyn cyfleoedd mewn meysydd cysylltiedig wrth i chi raddio gyda'r wybodaeth gyfreithiol a'r sgiliau trosglwyddadwy y mae cyflogwyr ar draws ystod o ddiwydiannau'n chwilio amdanynt.

Eich Gyrfa yn y Dyfodol

Mae'r rhan fwyaf o'n graddedigion yn dod yn gyfreithwyr neu'n fargyfreithwyr, gyda chwmnïau cyfreithiol yn gwerthfawrogi eich profiad ymarferol a'ch sgiliau wrth ymdrin â sefyllfaoedd cymhleth - sgiliau sy'n gwneud i chi sefyll allan. Mae nifer o'n graddedigion cyfraith yn dewis rolau mewn technoleg gyfreithiol, gwaith cymdeithasol, yr heddlu, sefydliadau'r trydydd sector, busnes, cyllid ac AD (i enwi ond rhai).

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys

Cyfreithiwr
Bargyfreithiwr
Gweithredwr Cyfreithiol Siartredig
Gwasanaeth Sifil
Gweithiwr Proffesiynol AD

Law student, Stephanie, smiles at the camera for a profile shot.

"Daeth y ffug lys barn â phopeth yn fyw a gwnaeth iddo deimlo fel achos llys go iawn."

Stephanie Davies, Myfyriwr Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

Dysgu mwy

Disgwyliadau Cyflog

Gall gradd Y Gyfraith agor cyfleoedd ar draws y sector. Mae gyrfaoedd Y Gyfraith yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol
DU: £43.4k y flwyddyn
Cymru: £36.6k y flwyddyn

Cyfanswm y swyddi yn 2025
DU: 1.35m
Cymru: 54,052

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid Diwydiant

Rydym yn cydweithio â’r cwmnïau cyfreithiol a’r sefydliadau cyhoeddus gorau i roi cyfleoedd lleoliad, siaradwyr gwadd, a digwyddiadau rhwydweithio. Yn y Clinig Cyngor Cyfreithiol, gallwch gysgodi cyfreithwyr o’n partneriaid allanol i ddatblygu eich rhwydwaith proffesiynol. Gallwch hefyd weithio ar draws nifer o'n prosiectau, gan gynnwys Cynllun Cymorth Personol Ymgyfreithwyr y Tribiwnlys Cyflogaeth (ELIPS), lle byddwch yn cysgodi bargyfreithwyr a chyfreithwyr sy'n rhoi cyngor am ddim i ymgyfreithwyr heb gynrychiolaeth gyda hawliadau tribiwnlys cyflogaeth. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

104 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
BCC

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod

Tystysgrif Her Sgiliau Uwch Bagloriaeth Cymru:
Pasio Diploma Uwch Bagloriaeth Cymru gyda Gradd C yn y Dystysgrif Her Sgiliau a BC Safon Uwch gyda phwnc perthnasol.

Mynediad i AU:
Pasio'r Diploma Mynediad i AU gydag o leiaf 104 pwynt tariff UCAS.

Gofynion ychwanegol:
Sylwch, er nad oes angen Gwiriad DBS ar y cwrs hwn ar gyfer mynediad, ni fydd rhai proffesiynau yn ystyried ymgeiswyr sydd â rhai mathau o euogfarnau troseddol. Felly, os oes gennych euogfarn droseddol a’ch bod yn ystyried llwybr gyrfa penodol, byddem yn argymell eich bod yn gwirio gyda’r corff proffesiynol perthnasol neu’n cyfeirio at eu polisi recriwtio i wneud yn siŵr na fydd eich collfarn yn eich rhoi dan anfantais.

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Ffioedd Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr allanol. Bydd angen i fyfyrwyr archebu a thalu am yr arholiadau allanol yn uniongyrchol gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Faint mae SQE yn costio

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,600

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Ffioedd Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr
Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, efallai y bydd myfyrwyr yn dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr allanol. Bydd angen i fyfyrwyr archebu a thalu am yr arholiadau allanol yn uniongyrchol gyda'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.

Faint mae SQE yn costio

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Two USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd am y 6ed flwyddyn yn olynol, a’r 7fed yn y DU (HEBCIS).

A law student is speaking to the judge in the USW moot courtroom on Treforest campus.

Mae'r Gyfraith yn PDC yn 11eg yn y DU (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027)

Archwiliwch ein cyfleusterau

See where you'll study and gain practical legal experience at USW.

Cyfleusterau Y Gyfraith

From our moot courtroom and Legal Advice Clinic to the Hydra Simulation Centre, our specialist facilities help bring legal theory to life and prepare you for professional practice.

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct
  • Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

    • Rhan-amser, 5 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

"Rydw i wedi cael cyfleoedd i brofi'r gyfraith ar waith - treulio amser mewn llysoedd a chael cipolwg ar y byd cyfreithiol. Mae'r profiadau hyn wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu fy nghyflogadwyedd a'm hyder proffesiynol."

Stephanie Davies Myfyriwr Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (SQE)

Gweld proffil myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

"Wrth chwilio am waith amser llawn, des i ar draws cynllun Rhwydwaith75 PDC. Po fwyaf y gwnes i ymchwilio iddo, y mwyaf y teimlais mai dyma'r dewis cywir i mi. Ers cofrestru, mae lefel y gefnogaeth gan ddarlithwyr a staff wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, gan ailgynnau fy nghariad at astudio'r gyfraith a'm helpu i sylweddoli fy mod wedi gwneud y dewis cywir."

Holly Grindlay Myfyriwr Y Gyfraith - Cynllun Rhwydwaith75

Gweld proffil myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?