Holly Grindlay

Gwneud Gwahaniaeth Drwy’r Gyfraith a Phrofiad yn y Byd Go Iawn

Y Gyfraith
Law student, Holly, smiles at the camera for a profile shot.

Mae ymuno â PDC drwy cynllun Network75 wedi caniatáu i mi weithio mewn cwmni cyfreithiol ochr yn ochr ag astudio.


Darganfod y Llwybr Cywir yn PDC

Ar ôl astudio mewn prifysgol wahanol i ddechrau, roedd y diffyg cefnogaeth yn llethol i mi ac fe wnes i adael yn y diwedd. Wrth chwilio am waith amser llawn, des i ar draws cynllun Rhwydwaith75 PDC. Po fwyaf y gwnes i ymchwilio iddo, y mwyaf y teimlais mai dyma'r dewis cywir i mi. Ers cofrestru, mae lefel y gefnogaeth gan ddarlithwyr a staff wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, gan ailgynnau fy nghariad at astudio'r gyfraith a'm helpu i sylweddoli fy mod wedi gwneud y dewis cywir.

Mynychu Diwrnod Agored PDC a gyflwynodd fi i Rhwydwaith75, er nad oeddwn i'n deall yn iawn beth oedd yn ei olygu ar y pryd. Nawr fy mod i ar y cynllun, rwy'n gweithio mewn cwmni cyfreithiol ochr yn ochr â'm hastudiaethau. Mae hyn wedi caniatáu i mi ennill profiad ymarferol ac adeiladu rhwydwaith o fewn y proffesiwn cyfreithiol. Rwyf hefyd yn aelod o Adran y Cyfreithwyr Iau ar gyfer Caerdydd a Dwyrain Cymru, sydd wedi rhoi mynediad i mi i ddigwyddiadau rhwydweithio a chyfleoedd hyfforddi pellach.

Dewch o hyd i'ch cwrs

MAE’R CWRS WEDI RHOI HYDER, SGILIAU A CIPOLWG I MI AR Y PROFFESIWN CYFREITHIOL.

Holly Grindlay

Myfyriwr Y Gyfraith - Cynllun Rhwydwaith75

Sgiliau Byd Go Iawn Trwy'r Clinig Cyfreithiol

Fy hoff brofiad hyd yn hyn yw'r amrywiaeth o asesiadau—yn enwedig y rhai yn y Ffug Lys Barn, sydd wedi helpu i ddatblygu fy hyder mewn siarad cyhoeddus a dadlau cyfreithiol. Mae'r Clinig Cyngor Cyfreithiol hefyd wedi bod yn rhan werthfawr o'm cwrs, gan ganiatáu i mi gyfweld â chleientiaid go iawn a chyfrannu at ddarparu cyngor cyfreithiol hygyrch. Mae'r profiadau hyn yn rhoi cipolwg gwirioneddol i mi ar yr hyn y bydd gyrfa gyfreithiol yn ei olygu.

Ar ôl graddio, rwy'n gobeithio sefyll fy arholiadau SQE a sicrhau contract hyfforddi gyda chwmni cyfraith fasnachol. Er fy mod i'n ymddiddori mewn cyfraith cyflogaeth ar hyn o bryd, rwy'n edrych ymlaen at ennill profiad ar draws gwahanol arbenigeddau. I unrhyw un sy'n ystyried astudio'r gyfraith, byddwn i'n dweud byddwch yn barod i weithio'n galed a chofleidio pob rhan o'r cwrs—efallai y byddwch chi'n darganfod angerdd newydd ar hyd y ffordd.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Diddordeb mewn Y Gyfraith?

Bydd cyrsiau’r gyfraith o Ysgol Busnes De Cymru yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodol o fewn y diwydiant cyfreithiol a thu hwnt trwy brofiadau byd go iawn.