BSc (Anrh)

Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid

Archwiliwch pam mae rhai pobl ifanc yn dod i gysylltiad â'r system gyfiawnder, a sut gall ffactorau fel trawma, tlodi, camfanteisio, addysg, teulu, profiad o ofal, defnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anghydraddoldeb lunio eu bywydau.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.
Yn eich paratoi i fynd i’r afael â heriau’r byd go iawn.

Côd UCAS

M932

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

96

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein BSc Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid yn canolbwyntio ar un o'r cwestiynau pwysicaf mewn cyfiawnder troseddol: sut y dylai cymdeithas ymateb pan fydd plant a phobl ifanc yn cael eu heffeithio gan drosedd, niwed, bregusrwydd neu droseddu?

Mae'r cwrs Troseddeg yn cysylltu astudiaeth academaidd â materion yn y byd go iawn, gan ddefnyddio dysgu cymhwysol, addysgu sy'n seiliedig ar astudiaethau achos, a chyfleusterau arbenigol i'ch helpu i ddeall sut y profir trosedd, niwed a chyfiawnder yn ymarferol.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Profiad o'r byd go iawn

Byddwch yn gweithio gyda heddluoedd, yn mynd i safle trosedd ac yn archwilio achosion go iawn i brofi'r hyn rydych wedi'i ddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth.

Partneriaethau yn y diwydiant

Rydym yn gweithio gydag adrannau gorfodi'r gyfraith, cwmnïau preifat ac arbenigwyr yn y maes er mwyn dod â'r datblygiadau diweddaraf ym maes troseddeg i chi.

Ffocws ar bobl ifanc

Archwiliwch y prif faterion yn ymwneud â throseddau pobl ifanc a'r system cyfiawnder ieuenctid, yn ogystal â sut mae cymdeithas yn ymateb i droseddwyr ifanc.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Datblygwch eich dealltwriaeth o droseddu, cyfiawnder a throseddau ieuenctid, gan archwilio pam mae pobl yn troseddu, pwy sy'n cael eu heffeithio a sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn ymateb i blant a phobl ifanc.

Archwilio sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio yn ymarferol, o ymchwilio ac erlyn i ddedfrydu ac adsefydlu, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o gyfraith droseddol, hawliau, tegwch a chyfiawnder.

Archwilio pam mae pobl yn troseddu a pham mae rhai pobl mewn mwy o beryg o fod yn ddioddefwyr, gan ystyried safbwyntiau troseddol a dioddefol ochr yn ochr â dylanwadau cymdeithasol, seicolegol a strwythurol ar droseddu a niwed.

Archwiliwch achosion, patrymau ac effaith trais drwy achosion go iawn, gan ddatblygu eich gallu i asesu tystiolaeth, deall risg, a gwerthuso ymatebion sy'n ymwneud ag atal, diogelu a chyfiawnder troseddol.

Deall pam mae plant a phobl ifanc yn ymwneud â throseddu, gan archwilio'r ffactorau sy'n llywio troseddau ieuenctid a sut mae cyfiawnder ieuenctid yn cydbwyso atal, lles, cosb ac adsefydlu.

Datblygwch eich dealltwriaeth o gyfiawnder ieuenctid yn ei gyd-destun, gan archwilio diogelu, troseddau difrifol, cosbi ac adferiad, wrth ystyried y ffactorau sy'n llunio ymddygiad troseddol, bregusrwydd ac ymatebion i niwed.

Holwch am bwrpas carchar a chosbi, gan archwilio sut mae carcharu, adsefydlu a goruchwyliaeth yn y gymuned yn llunio profiadau o gyfiawnder, tra’n ystyried anghydraddoldeb, hawliau dynol a realiti rheoli troseddwyr.

Ymchwilio i sut mae rhwydweithiau troseddau difrifol a chyfundrefnol yn gweithredu mewn amgylcheddau ffisegol a digidol, gan ddadansoddi bygythiadau cymhleth a datblygu sgiliau i asesu risgiau a chynllunio ymatebion cymesur.

Adeiladwch eich sgiliau wrth ddiogelu plant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed neu gamfanteisio, gan ddatblygu barn broffesiynol trwy achosion realistig sy'n cynnwys bregusrwydd, llinellau sirol, trais difrifol ymhlith pobl ifanc ac ymyrraeth amlasiantaeth.

Deall defnyddio a chamddefnyddio sylweddau trwy achosion a thystiolaeth go iawn, gan archwilio ei gysylltiadau ag iechyd, troseddu a chymdeithas wrth ddatblygu sgiliau i asesu niwed a gwerthuso ymatebion effeithiol a moesegol.

Ymchwiliwch i'r hyn y gall ymddygiad troseddwyr ei ddatgelu am droseddu, gan ddatblygu eich gallu i ddehongli tystiolaeth ymddygiadol ac ymchwiliol wrth werthuso proffilio troseddwyr, ei gymwysiadau, ei gyfyngiadau a'i hygrededd gwyddonol yn feirniadol.

Astudiwch gyd-destun hanesyddol camddefnyddio sylweddau, mathau o sylweddau, ffactorau achosol, caethiwed, canfyddiadau cymdeithasol, canlyniadau iechyd a phortreadau yn y cyfryngau.

Cymhwyswch eich gwybodaeth droseddegol i faterion cymhleth sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, gan archwilio aildroseddu, ymatal ac adsefydlu gan bobl ifanc wrth ddatblygu profiad proffesiynol a dulliau ymarferol ar gyfer newid parhaol.

Archwiliwch lofruddiaeth drwy achosion go iawn a dysgu cymhwysol, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o batrymau, achosion ac ymchwiliadau, tra’n ystyried trais, atebolrwydd, atal ac effaith ehangach troseddau angheuol.

Ymchwiliwch i sut mae terfysgaeth, radicaleiddio ac eithafiaeth yn datblygu ac yn esblygu; dadansoddwch y ffactorau sy’n sail i fygythiadau cyfoes, a gwerthuswch yn feirniadol ymatebion plismona, deallusrwydd ac ymatebion aml-asiantaeth.

Archwiliwch beth sy'n helpu plant a phobl ifanc i symud i ffwrdd o droseddu, gan ddatblygu eich dealltwriaeth o ymatal, adsefydlu ac ailsefydlu wrth asesu sut y gall ymarfer cyfiawnder ieuenctid gefnogi newid parhaol.

Ennill profiad ymarferol trwy dreulio o leiaf 70 awr mewn gweithle perthnasol, gan gymhwyso eich dysgu a datblygu eich hyder proffesiynol, eich cyflogadwyedd a’ch dealltwriaeth am gyfleoedd gyrfa yn y dyfodol.

Mynd i'r afael â her byd go iawn mewn plismona, cyfiawnder troseddol neu wasanaeth cyhoeddus, a defnyddio tystiolaeth, creadigrwydd a meddwl beirniadol i greu atebion ymarferol, moesegol ag effaith broffesiynol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Heriwch syniadau, cwestiynwch dystiolaeth ac archwiliwch safbwyntiau gwahanol wrth i chi fynd i'r afael â'r materion cymhleth sy'n sail i droseddu, cyfiawnder a phlismona. Yna, byddwch yn rhoi eich syniadau ar waith drwy gamu i sefyllfaoedd realistig ac amgylcheddau proffesiynol, lle gallwch brofi eich barn, magu hyder a dysgu o'ch penderfyniadau. Mae ein cyfleusterau o safon diwydiant yn dod â’ch dysgu’n fyw, gan eich helpu i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol i ymdopi â realiti plismona a gwasanaethau cyhoeddus modern.

Byddwch chi'n dysgu drwy archwilio materion y byd go iawn sy'n ymwneud â throseddu, niwed a chyfiawnder drwy astudiaethau achos, dadleuon, gweithdai a gweithgareddau ymarferol. Byddwch chi'n edrych ar dystiolaeth, yn cwestiynu gwahanol syniadau ac yn ystyried gwahanol safbwyntiau wrth i chi archwilio materion cymhleth sy'n effeithio ar bobl a chymunedau. Byddwch chi'n gweithio gydag ymchwil, data, achosion go iawn a mewnwelediadau gan weithwyr proffesiynol i ddatblygu eich sgiliau meddwl beirniadol, cyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Wrth i chi symud ymlaen, byddwch chi'n dod yn fwy annibynnol, gan feithrin yr hyder i gymhwyso'r hyn rydych chi'n ei ddysgu i heriau go iawn mewn cyfiawnder troseddol a meysydd cysylltiedig.

Byddwch yn cael eich asesu trwy ystod o dasgau a fydd yn eich helpu i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu i faterion byd go iawn sy'n ymwneud â throseddu a chyfiawnder. Gallai hyn gynnwys dadansoddi achosion, gwaith ysgrifenedig, datrys problemau, briffiau polisi, cyflwyniadau a gweithgareddau ymarferol gan ddefnyddio senarios realistig. Wrth i chi symud ymlaen, mae asesiadau'n dod yn fwy heriol, gan roi mwy o ryddid i chi archwilio materion, gwerthuso tystiolaeth a datblygu eich ymatebion gwybodus eich hun. Byddwch yn derbyn adborth rheolaidd i'ch helpu i wella a meithrin hyder yn eich gwaith. Erbyn eich blwyddyn olaf, byddwch yn dod â'ch gwybodaeth ynghyd trwy asesiadau mwy annibynnol a fydd yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth bellach ac ystod o yrfaoedd.

Diolch i'n rhwydwaith helaeth o bartneriaid yn y diwydiant, rydym yn gallu cyflwyno'r byd go iawn i'ch dysgu. Yn ogystal â darlithwyr gwadd a theithiau maes, rydym yn gwneud popeth y gallwn i ddarparu cyfleoedd lleoliad gwaith i'ch helpu i brofi eich gwybodaeth a'ch sgiliaunewydd yn y byd go iawn. Yn yr ail flwyddyn, mae gennym fodiwl profiad gwaith dewisol ac ym mlwyddyn tri, gallwch ddewis modiwl gweithio mewn diwydiant. Drwy eich cwrs, byddwn yn canolbwyntio ar eich cyflogadwyedd yn y dyfodol a byddwn yn hwyluso cyfleoeddrhwydweithio a lleoliadau gwaith i gefnogi hynny.

Mae ein cyfleusterau dysgu arbenigol yn rhoi profiad ymarferol i chi mewn amgylcheddau proffesiynol realistig. O ymchwilio i leoliadau troseddau efelychiedig a dadansoddi tystiolaeth achosion byw yn yr Ystafell CIPHER, i brofi’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghanolfan Efelychu Hydra a chyflwyno achosion yn ein Ffug Lys Barn ymdrochol, byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ochr yn ochr â gwybodaeth academaidd. Wedi'u cynllunio i adlewyrchu lleoliadau plismona, troseddeg a chyfreithiol y byd go iawn, mae'r cyfleusterau hyn yn helpu ifeithrin yr hyder, y dulliau cyfathrebu a'r sgiliau meddwl beirniadol sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd ar draws y sector cyfiawnder troseddol.

Arweinydd y Cwrs

Daniel Welch

Daniel Welch yw Pennaeth Pwnc Plismona, Troseddeg a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac Arweinydd Cwrs cyrsiau Troseddeg israddedig Prifysgol De Cymru. Mae ei ddiddordebau academaidd yn canolbwyntio ar ymateb y gwasanaeth heddlu i gam-drin domestig, yn enwedigprofiad dioddefwyr, Rheolaeth drwy Orfodaeth a pholisïau heddlu cysylltiedig. Mae Daniel yn frwd dros ddysgu cymhwysol, sy'n seiliedig ar senario, a helpodd i ddatblygu CIPHER, gofod dysgu rhyngweithiol PDC ar gyfer addysg troseddu, cyfiawnder a gwasanaeth cyhoeddus. 

Rhagolygon Gyrfa

Yn PDC, rydym yn cefnogi myfyrwyr a graddedigion i adeiladu gyrfaoedd ystyrlon ar draws meysydd cyfiawnder troseddol, gwasanaethau cyhoeddus a'r sector gwirfoddol. Mae graddedigion troseddeg fel arfer yn symud ymlaen i feysydd fel y gwasanaeth prawf, carchardai, adsefydlu, cymorth i ddioddefwyr, diogelwch cymunedol, polisi, ymchwil, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, elusennau ac astudiaethau yn y dyfodol, neu rolau cymorth cyfiawnder troseddol ehangach.

 Mae llawer o raddedigion yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y systemau cyfiawnder troseddol a chyfiawnder ieuenctid. Mae gennym raddedigion yn gweithio i Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf, Cymorth i Ddioddefwyr, yr Heddlu, y GwasanaethCarchardai a meysydd eraill sy'n gysylltiedig â'r system gyfiawnder fel Cymorth i Fenywod, asiantaethau cyffuriau a thai ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. 

Cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau troseddu
Gwasanaethau teulu ac ymyrraeth gynnar
Addysg, lles a mentora
Rhaglenni cymunedol ac allgymorth
Rôlau polisi ac eiriolaeth

94% o'n graddedigion mewn cyflogaeth ac astudiaeth bellach 15 mis ar ôl graddio

Arolwg Hynt Graddedigion 2022/23

Criminology alumni, Euan, poses for a profile shot in front of red backdrop

“Roedd y cyfleoedd gwych i rwydweithio yn werthfawr iawn – ac roedd cael swydd fel swyddog carchar yn syth ar ôl darlith yn ddechrau annisgwyl ond gwych i fy ngyrfa.”

Euan Thomas, Graddedig Troseddeg

Dysgwch fwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Troseddeg agor cyfleoedd ar draws troseddeg a'r sector plismona a gwasnaethau cyhoeddus ehangach. Mae gyrfaoedd Troseddeg yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol

DU: £40.7k y flwyddyn
Cymru: £36.3k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 2.39m
Cymru: 109.364

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid diwydiant

Mae gennym bartneriaethau â heddluoedd lleol a thimau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal â'r gwasanaeth prawf, yr Adran Gwaith a Phensiynau, carchardai, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac elusennau cyfiawnder ieuenctid.

Gofynion Mynediad

Ychwanegol

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg / Rhifedd a Saesneg ar Radd C neu Radd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt, ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynwch gwestiwn i ni

96 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
CCC

Bagloriaeth Cymru:
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru Gradd C a CC Safon Uwch

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Teilyngdod Teilyngdod

Mynediad i AU:
Pasio y Diploma Mynediad i AU a chael o leiaf 96 pwynt tariff UCAS.

Safon T:
P

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Gwerslyfrau

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200

Lleoliad Gwaith

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300

DBS

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

Gwerslyfrau

Bydd gwerslyfrau ar gael yn y llyfrgell, ond gallai myfyrwyr ddymuno prynu eu copïau eu hunain. I fyny at £200

Lleoliad Gwaith

Gall myfyrwyr 2il flwyddyn ymgymryd â lleoliad gwaith am gyfnod os byddant yn dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol. Gallai myfyrwyr sy’n ymgymryd â lleoliad fynd i gostau sy’n gysylltiedig â theithio a bydd y wisg a ddisgwylir yn y gweithle’n amrywio yn ôl y lleoliad. I fyny at £300

DBS

Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr 2il flwyddyn sy’n dewis dilyn y modiwl Ymarfer Proffesiynol pan fydd yn ofynnol ar gyfer y lleoliad. Mae’r ffi’n cynnwys cost yr archwiliad manylach, ffioedd gweinyddol ar-lein ac archwiliadau swyddfa’r post. £55.42

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

100%

o fyfyrwyr BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol gyda Seicoleg PDC yn fodlon ar eu cwrs.

Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2026

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd a'r 7ed yn y DU.

#1

Mae'r Gyfraith yn PDC ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr.

Complete University Guide 2027

#1

Ar y brig yng Nghymru o ran Rhagolygon Graddedigion.

Complete University Guide 2027

Archwiliwch ein cyfleusterau

Cipolwg y tu mewn i Ystafell CIPHER bwrpasol gyntaf y DU.

Ystafell CIPHER

Mae Ystafell CIPHER ar gampws Trefforest PDC yn cefnogi ymchwiliadau troseddol drwy ddysgu trochi rhyngweithiol. Gan ddefnyddio byrddau cyffwrdd uwch-dechnolegol a deunydd achos realistig, byddwch yn asesu gwybodaeth, yn archwilio trywyddau ymholi, yn nodi cysylltiadau rhwng tystiolaeth ac yn cyfiawnhau penderfyniadau ymchwiliol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau dadansoddol a’r farn broffesiynol sydd eu hangen i ymchwilio i achosion cymhleth a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Canolfan Efelychu Hydra

 Mae ein Canolfan Efelychu Hydra yn ail-greu digwyddiadau realistig sy’n datblygu dros amser, lle gallwch asesu gwybodaeth newydd, gwerthuso risgiau ac addasu eich ymateb wrth i sefyllfaoedd esblygu. Byddwch yn ymarfer cofnodi penderfyniadau ymchwiliol, egluro’r rhesymeg y tu ôl i’ch gweithredoedd ac ystyried canlyniadau eich penderfyniadau, gan eich helpu i ddatblygu’r farn broffesiynol sydd ei hangen i reoli ymchwiliadau cymhleth.

Camwch i mewn i'n cyfleuster Lleoliadau Trosedd ac ymchwiliwch leoliadau trosedd

Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Troseddau 

Ymchwiliwch i leoliadau trosedd realistig yn Nhŷ’r Athro Bernard Knight, lle mae amgylcheddau wedi’u hail-greu i efelychu digwyddiadau sy’n amrywio o fyrgleriaethau a thanau i lofruddiaethau. Byddwch yn datblygu eich sgiliau wrth adnabod, cofnodi ac adfer tystiolaeth, gan archwilio sut mae canfyddiadau fforensig yn cyfrannu at adeiladu achos, profi trywyddau ymholi a chefnogi penderfyniadau ymchwiliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ennill sgiliau trosglwyddadwy o'r byd go iawn ar sut i gynnal ymchwiliadau.

Uned Achosion Oer

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio.

Ffug lys barn

Drwy gydol eich cwrs byddwch yn ymchwilio i system gyfreithiol y DU, yn dyst i ddramâu llys bywyd go iawn ar deithiau maes ac yn cyflwyno eich achosion yn ein hystafell ffug lys barn ymdrochol ar y campws.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid

    • Llawn Amser, 3 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Euan Thomas

"Ers graddio, rwyf wedi symud yn fy mlaen o fod yn swyddog carchar i fod yn ymarferydd cyfiawnder ieuenctid ac rwy'n hyfforddi i fod yn weithiwr cymdeithasol. Mae'r radd hon wir yn agor drysau. Mae'r amgylchedd croesawgar a chefnogol yn PDC yn hybu twf.'

Euan Thomas Graddedig Troseddeg

Gweld proffil myfyriwr

Amelia Bisby

"Roedd y cyfuniad o'r tŷ lleoliad troseddau, cyfleuster efelychiadau Hydra, a'r uned achosion yn un anodd ei guro. Dim ond yn rhannol roedd prifysgolion eraill yn cynnig y cyfleusterau hyn, tra bo gan PDC y cyfan. Roedd y darlithwyr yn ysbrydoledig, ac roedd cymuned y campws yn groesawgar."

Amelia Bisby Amelia Bisby

Myfyriwr Troseddeg

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?