Ar gael yn Clirio BSc (Anrh)

Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Adeiladwch hyder a sgiliau academaidd wrth osod sylfeini cryf ar gyfer symud ymlaen i'r radd Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid.

Sut i wneud cais Gwneud gais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio gyda ni
Dysgwch am yr hyn sy'n gwneud ein graddau Troseddeg yn unigryw.
Dysgwch am yr hyn sy'n gwneud ein graddau Troseddeg yn unigryw.

Côd UCAS

L61F

Dyddiad Cychwyn

Medi 2027

Lleoliad

Pontypridd

Côd y Campws

A

Pwyntiau UCAS

48


Myfyrwyr rhyngwladol: £17,600*

Trosolwg o'r Cwrs

Paratowch am yrfa mewn Troseddeg a Chyfiawnder Ieuenctid wrth adeiladu'r sgiliau academaidd sydd eu hangen i lwyddo yn y brifysgol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn trosedd a chyfiawnder ieuenctid ond nad ydych yn bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer gradd lawn, mae'r flwyddyn sylfaen hon yn gam perffaith i addysg uwch.


Pam astudio'r cwrs hwn?

Enillwch sylfaen academaidd gref

Datblygwch ystod o sgiliau hanfodol fel sgiliau TG a meddwl beirniadol a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich gradd.

Addysgir gan arbenigwyr

Byddwch yn cael eich cefnogi gan academyddion angerddol sy'n arweinwyr yn eu maes astudio.

Cyfleusterau rhagorol

Mae mynediad i Ganolfan Efelychu Hydra ar gael i fyfyrwyr sy'n symud ymlaen i'r radd lawn, gan gynnig profiadau dysgu ymdrochol, byd go iawn.

Dysgu rhyngweithiol

Bydd ein graddau'n rhoi'r cyfle i ddysgu mewn ffyrdd arloesol sy'n cael eu hehangu gan dechnoleg, gan gynnwys efelychiadau lleoliad trosedd a gweithio ar ymchwiliadau byd go iawn.

Beth fyddwch chi'n ei astudio

Mae Blwyddyn Sylfaen Busnes yn meithrin hyder academaidd a dealltwriaeth fusnes graidd trwy ddysgu ymarferol, myfyrio a chydweithio, gan eich paratoi i symud ymlaen i astudio busnes ar lefel gradd gyda ffocws, gwydnwch a phwrpas.

Am fanylion y modiwlau y byddwch yn eu hastudio ar ôl cwblhau’r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gweler prif dudalen y cwrs.

Datblygwch sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio ar sail tystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.

Gan ganolbwyntio ar drosedd a chyfiawnder yn y gymdeithas gyfoes, mae'r modiwl hwn yn archwilio dylanwad y cyfryngau, hunaniaeth a barn y cyhoedd. Byddwch yn archwilio dadleuon allweddol ac yn cynnig diwygiadau ar sail tystiolaeth i ddeall cyfiawnder yn y gymdeithas gyfoes.

Archwiliwch sut mae plentyndod wedi newid dros amser, gan archwilio meddylwyr, syniadau a pholisïau allweddol. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a chyflwyno wrth ymchwilio i sut mae cymdeithasau wedi deall a llunio bywydau plant.

Mae’r Her Effaith yn fodiwl prosiect Blwyddyn Sylfaen lle mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau i fynd i'r afael â materion y byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, gwaith tîm a datrys problemau’n gyfrifol.

Rydym yn adolygu ein cyrsiau'n rheolaidd i gadw i fyny â sgiliau newidiol ac anghenion cyflogwyr. Os bydd adolygiad yn arwain at newidiadau sylweddol, byddwn yn cysylltu â chi i esbonio beth sy'n newid ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Addysgu ac Asesu

Byddwch chi'n dysgu trwy brofiadau dysgu gweithredol, byd go iawn sy'n annog chwilfrydedd, cydweithio a meddwl annibynnol.

Mae addysgu yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol, wrth feithrin hyder academaidd, meddwl beirniadol a hunanfyfyrio. Byddwch chi'n gweithio'n annibynnol a chydag eraill trwy drafodaethau, gweithgareddau ymarferol a myfyrio dan arweiniad, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i gydnabod cynnydd a chynllunio'r camau nesaf, gan gefnogi lles, gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer lefel uwch o astudio.

Byddwch chi'n cael eich asesu mewn ffyrdd gwahanol, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau ar sail gwaith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm a chyfathrebu. Byddwch chi hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau prifysgol ac offer digidol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gyda phartneriaid yn y diwydiant i sicrhau eich bod yn graddio gyda'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogaeth. Yn ogystal â chyfleoedd gwirfoddoli, gallwch gwblhau modiwl lleoliad gwaith, a allai eich helpu i sicrhau cyflogaeth pan fyddwch yn graddio.

Credwn yn gryf na allwch ddysgu popeth yn yr ystafell ddosbarth. Dyna pam rydym wedi buddsoddi yn ein cyfleusterau, oherwydd rydym yn gwybod y byddant yn eich helpu i ddefnyddio’ch gwybodaeth mewn lleoliadau realistig. Mae ein cyfleusterau’n cynnwys y Tŷ Golygfa Drosedd, Ffug Ystafell Lys a Hydra Minerva.

Arweinydd y Cwrs

Emma Wheeler

Emma Wheeler yw Arweinydd y Cwrs ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen. Mae gan Emma flynyddoedd lawer o brofiad addysgu, gan weithio gyda myfyrwyr sydd wedi bod allan o addysg ers peth amser. Mae amgylcheddau ystafell ddosbarth yn y Flwyddyn Sylfaen yn sensitif, yn galonogol ac yn ymatebol i ystod eang o anghenion gan ein myfyrwyr, ac yn eich helpu i fynd ymlaen i'r cwrs gradd yn hyderus. 

I gael manylion Arweinydd y Cwrs ar y rhaglen radd, ewch i dudalen y cwrs.

Rhagolygon Gyrfa

Mae’n graddedigion Troseddeg wedi mynd ymlaen i gymhwyso eu meddylfryd ymchwiliol a'u sgiliau trosglwyddadwy mewn gyrfaoedd sydd yn newid yn gyflym ac yn wefreiddiol, ledled y byd.

Dy yrfa yn y dyfodol

Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i wneud pethau gwych. Mae llawer yn mwynhau gyrfaoedd llwyddiannus yn y systemau cyfiawnder troseddol a chyfiawnder ieuenctid. Mae gennym raddedigion yn gweithio i Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid, y Gwasanaeth Prawf, Cymorth i Ddioddefwyr, yr Heddlu, y Gwasanaeth Carchardai a meysydd eraill sy'n gysylltiedig â'r system gyfiawnder fel Cymorth i Fenywod, asiantaethau cyffuriau a thai ac Unedau Atgyfeirio Disgyblion.

Mae llwybrau gyrfa posibl yn cynnwys:

Gorfodi'r gyfraith 
Addysg a gwaith ieuenctid 
Gwasanaeth carchar neu brawf 
Gwaith cymdeithasol 
Eiriolaeth dioddefwyr 

person holding ipad in front of hydra simulation centre

"Mae PDC wedi rhoi'r hyder a'r sgiliau i fi ddilyn gyrfa mewn Troseddeg, ac allwn i ddim bod wedi dewis lle gwell i astudio."

Amelia Bisby, Myfyriwr Troseddeg

Dysgu mwy

Disgwyliadau cyflog

Gall gradd Troseddeg agor cyfleoedd ar draws troseddeg a'r sector plismona a gwasnaethau cyhoeddus ehangach. Mae gyrfaoedd Troseddeg yn cynnig potensial enillion cryf:

Cyflog canolrifol

DU: £40.7k y flwyddyn
Cymru: £36.3k y flwyddyn

 

Cyfanswm y swyddi yn 2025

DU: 2.39m
Cymru: 109.364

 

Ffynhonnell: Lightcast Labour Market Data 2026

Partneriaid Diwydiant

Mae llawer o'n staff addysgu wedi dod o'r diwydiant ac yn ei gwneud yn flaenoriaeth i gynnal eu cysylltiadau diwydiant er budd ein myfyrwyr. Rydym yn defnyddio'r cysylltiadau hyn i ddarparu darlithoedd gwadd, lleoliadau gwaith ac offer diwydiant ar gyfer eich dysgu.

Mae gennym bartneriaethau â heddluoedd lleol a thimau cyfiawnder ieuenctid yn ogystal â'r gwasanaeth prawf, yr Adran Gwaith a Phensiynau, carchardai, yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ac elusennau cyfiawnder ieuenctid.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

Sut i wneud caisDatganiad Derbyniadau Cyd-destunolGofynnwch gwestiwn i ni

48 Pwyntiau UCAS neu'n uwch

Gofynion cymhwyster nodweddiadol

Lefel A:
DD, 48 pwynt Tariff UCAS i eithrio Astudiaethau Cyffredinol.

BTEC:
Diploma Estynedig BTEC Pasio Pasio Pasio.

Mynediad i AU:
Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.

Safon T:
Pasion (D neu E)

Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.

Ffioedd a Chyllid

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen
Y Ffi Dysgu ar gyfer myfyrwyr y DU ar flynyddoedd sylfaen yn yr ystafell ddosbarth yw £5,760. Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd dilynol y cwrs gradd yn cael eu codi yn unol â'n ffioedd israddedig Cartref amser llawn safonol. Nodwch mai dim ond ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen y mae’r ffi a ddangosir. Yn y blynyddoedd dilynol, codir y ffi dysgu israddedig safonol sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol.

Gwybodaeth Bellach
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Ffi Rhyngwladol Rhan-amser £ 17,600

Fesul blwyddyn

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

Ffioedd Dysgu Blwyddyn Sylfaen
Y Ffi Dysgu ar gyfer myfyrwyr y DU ar flynyddoedd sylfaen yn yr ystafell ddosbarth yw £5,760. Bydd ffioedd ar gyfer blynyddoedd dilynol y cwrs gradd yn cael eu codi yn unol â'n ffioedd israddedig Cartref amser llawn safonol. Nodwch mai dim ond ar gyfer y Flwyddyn Sylfaen y mae’r ffi a ddangosir. Yn y blynyddoedd dilynol, codir y ffi dysgu israddedig safonol sy’n berthnasol ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol.

Gwybodaeth Bellach
Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

#1

Y brifysgol orau yng Nghymru a'r 24ain allan o 123 o brifysgolion yn y DU.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027

Three USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

10 pwnc wedi'u rhestru yn y 10 uchaf yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, gan gynnwys dau yn y safle cyntaf.

Three students studying in a pod in the library at Cardiff campus

Ar y brig am y 6ed flwyddyn yn olynol yng Nghymru ar gyfer busnesau newydd, a'r 7fed yn y DU. (HEBCIS) 

Archwiliwch ein cyfleusterau

Cipolwg y tu mewn i Ystafell CIPHER bwrpasol gyntaf y DU.

Ystafell CIPHER

Mae Ystafell CIPHER ar gampws Trefforest PDC yn cefnogi ymchwiliadau troseddol drwy ddysgu trochi rhyngweithiol. Gan ddefnyddio byrddau cyffwrdd uwch-dechnolegol a deunydd achos realistig, byddwch yn asesu gwybodaeth, yn archwilio trywyddau ymholi, yn nodi cysylltiadau rhwng tystiolaeth ac yn cyfiawnhau penderfyniadau ymchwiliol. Mae’r dull cydweithredol hwn yn eich helpu i ddatblygu’r sgiliau dadansoddol a’r farn broffesiynol sydd eu hangen i ymchwilio i achosion cymhleth a gwneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Canolfan Efelychu Hydra

 Mae ein Canolfan Efelychu Hydra yn ail-greu digwyddiadau realistig sy’n datblygu dros amser, lle gallwch asesu gwybodaeth newydd, gwerthuso risgiau ac addasu eich ymateb wrth i sefyllfaoedd esblygu. Byddwch yn ymarfer cofnodi penderfyniadau ymchwiliol, egluro’r rhesymeg y tu ôl i’ch gweithredoedd ac ystyried canlyniadau eich penderfyniadau, gan eich helpu i ddatblygu’r farn broffesiynol sydd ei hangen i reoli ymchwiliadau cymhleth.

Camwch i mewn i'n cyfleuster Lleoliadau Trosedd ac ymchwiliwch leoliadau trosedd

Cyfleuster Hyfforddi Lleoliadau Troseddau 

Ymchwiliwch i leoliadau trosedd realistig yn Nhŷ’r Athro Bernard Knight, lle mae amgylcheddau wedi’u hail-greu i efelychu digwyddiadau sy’n amrywio o fyrgleriaethau a thanau i lofruddiaethau. Byddwch yn datblygu eich sgiliau wrth adnabod, cofnodi ac adfer tystiolaeth, gan archwilio sut mae canfyddiadau fforensig yn cyfrannu at adeiladu achos, profi trywyddau ymholi a chefnogi penderfyniadau ymchwiliol sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Ennill sgiliau trosglwyddadwy o'r byd go iawn ar sut i gynnal ymchwiliadau.

Uned Achosion Oer

PDC yw’r unig brifysgol yng Nghymru a De Orllewin Lloegr i weithredu Uned Achosion Oer. Mae ein myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio ar achosion byw a chynorthwyo ymchwiliadau heddlu. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Prosiect Innocence, gan archwilio achosion gwirioneddol lle mae camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd er mwyn sefydlu sail resymol dros apelio.

Ffug lys barn

Drwy gydol eich cwrs byddwch yn ymchwilio i system gyfreithiol y DU, yn dyst i ddramâu llys bywyd go iawn ar deithiau maes ac yn cyflwyno eich achosion yn ein hystafell ffug lys barn ymdrochol ar y campws.

Dysgwch fwy

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS.

Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

  • Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

    • Llawn Amser, 4 blynedd

    • Medi

    • Pontypridd

    Apply direct

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.

Straeon Myfyrwyr

Gwnaeth cefnogaeth y darlithwyr wahaniaeth enfawr; maen nhw’n arbenigwyr yn eu maes ac maen nhw wir am i’w myfyrwyr lwyddo. Roedd strwythur rhyngweithiol y cwrs, a’r dulliau asesu amrywiol, yn sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu ffynnu.

Euan Thomas Euan Thomas, Graddedig Troseddeg gyda Chyfiawnder Ieuenctid

Gweld proffil myfyrwir

Straeon Myfyrwyr

Roedd y cyfuniad o'r tŷ lleoliad troseddau, cyfleuster efelychiadau Hydra, a'r uned achosion heb eu datrys yn un anodd ei guro. Dim ond yn rhannol roedd prifysgolion eraill yn cynnig y cyfleusterau hyn, tra bo gan PDC y cyfan. Roedd y darlithwyr yn ysbrydoledig, ac roedd cymuned y campws yn teimlo'n groesawgar ac yn fywiog.

Amelia Bisby Amelia Bisby, Myfyriwr Troseddeg

Gweld proffil myfyriwr

Straeon Myfyrwyr

Drwy ddarganfod y Flwyddyn Sylfaen, cefais hyd i ffordd ymlaen. Dangosodd i mi nad oedd rhaid i’m haddysg ddod i ben - gallwn barhau i adeiladu dyfodol yn gwneud rhywbeth roeddwn i’n ei garu.

Tito Tito

Gwelf proffil myfyriwr

Barod i wneud cais?

Dal i archwilio eich opsiynau?