MSc

Trosedd a Chyfiawnder

Bydd y cwrs ôl-raddedig hwn yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio materion troseddegol manwl ac i gwestiynu a gwerthuso’n feirniadol ddadleuon ynglŷn â syniadau o drosedd a chyfiawnder.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Bydd myfyrwyr yn archwilio materion troseddegol manwl ac yn cwestiynu a gwerthuso’n feirniadol ddadleuon ynglŷn â syniadau o drosedd a chyfiawnder mewn ffyrdd athronyddol a chysylltiedig ag ymarfer, ac o amrywiaeth o wahanol safbwyntiau.

CYNLLUNIWYD GYFER

Ideal for practitioners, managers, and policy makers, working within the criminal justice and related fields, to continue their professional development; or recent undergraduates wanting to pursue a career in the criminal justice system.

Llwybrau Gyrfa

  •  Swyddog Carchar
  •  Swyddog Prawf
  •  Heddwas
  •  Gweithiwr Cyfiawnder Ieuenctid
  •  Y Llysoedd

Sgiliau a addysgir

  • Cyfathrebu
  • Digidol / TG
  •  Arweinyddiaeth
  •  Gwneud Penderfyniadau Beirniadol
  •  Datrys Problemau

Rydym yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol, nid ar bapur yn unig. Mae ein cwrs wedi'i ddylunio a'i gyflwyno gan gyfrifwyr gweithredol ac mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i wneud gwahaniaeth go iawn yn eu gyrfaoedd.


Uchafbwyntiau’r Cwrs

Cyfleusterau rhagorol

Prifysgol De Cymru yw un o’r ychydig rai yn y byd sydd â chyfleuster dysgu ymdrwythol integredig – Canolfan Efelychu Hydra.

Dysgu rhyngweithiol

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr troseddeg byd-enwog sy’n cynnal ymchwil yn weithredol, yn ogystal â chlywed gan ymarferwyr arbenigol gwadd.

Ymchwil sy’n newid bywydau

Mae gan y Ganolfan Droseddeg hanes hir o waith ymchwil ar nifer o faterion cyfiawnder troseddol hollbwysig a chyfoes.

Trosolwg o’r Modiwl

Mae athroniaeth arweiniol yr MSc Trosedd a Chyfiawnder wedi’i seilio ar ddisgyblaeth amlweddog troseddeg. Yn ogystal â chanolbwyntio ar y troseddwr, mathau o droseddau ac ymatebion iddynt, mae hefyd yn cynnig safbwynt ehangach o lawer trwy edrych ar faterion cymdeithasol fel trais a chamddefnyddio sylweddau, gan felly ddarparu profiad a gwybodaeth effeithiol i fyfyrwyr i herio’r materion hyn yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.

Nod yr MSc hon yw datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o faterion a dadleuon canolog yn ymwneud â rhychwant eang trosedd a chyfiawnder.

Damcaniaeth Droseddegol
Mae damcaniaeth droseddegol yn mynd i’r afael ag un o gwestiynau sylfaenol troseddeg: pam mae rhai unigolion yn ymwneud â throseddu a gwyro? Wrth geisio ateb y cwestiwn cymhleth hwn, mae damcaniaethwyr troseddegol wedi llunio gwahanol ddamcaniaethau mewn gwahanol gyd-destunau disgyblaethol, cymdeithasol, a gwleidyddol yng Ngogledd y Byd.

Prosiect Ymchwil

I ddechrau, cyflwynir myfyrwyr i faterion ymchwil cyffredinol ac ystyriaethau sy’n sail i ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithasol a chyfiawnder troseddol. Bydd myfyrwyr yn archwilio materion allweddol sy’n gyffredin i bob prosiect ymchwil ysgolheigaidd, sy’n cynnwys datblygu dealltwriaeth feirniadol o’r athroniaethau, y paradeimau a’r damcaniaethau sy’n gosod cyd-destun eang y dulliau a’r confensiynau ymchwil a ddefnyddir mewn ymchwil gwyddor gymdeithasol a chyfiawnder troseddol.

Globaleiddio a Throsedd

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar astudio mathau allweddol o droseddau trawswladol, gan gynnwys: seiber, masnachu mewn cyffuriau, masnachu mewn pobl, y cymhleth milwrol-ddiwydiannol a masnachu mewn arfau, terfysgaeth a gwrth-derfysgaeth, a throseddau amgylcheddol a masnachu mewn bywyd gwyllt.

Ymyriadau Cyffuriau

Nodweddion a natur camddefnyddio cyffuriau a phobl sy’n camddefnyddio cyffuriau. Bydd y modiwl yn archwilio mathau unigol o gyffuriau ac yn archwilio’r effeithiau y mae cyffuriau’n eu cael ar ddefnyddwyr (gan gynnwys niwed i’r unigolyn a chymdeithas). Ystyrir graddau camddefnyddio cyffuriau yn y Deyrnas Unedig a rhai gwledydd eraill hefyd.  

Trais a Dynladdiad

Mae’r modiwl yn dechrau trwy ddadansoddi ffenomena trais yn gyffredinol a dynladdiad yn benodol, gan dynnu sylw myfyrwyr at y ffordd y mae’r categorïau ‘trosedd’ hyn wedi’u llunio’n gymdeithasol. Anogir myfyrwyr i feddwl yn feirniadol am gategorïau cyfreithiol trais/dynladdiad ac ailystyried eu ffiniau trwy ystyried niwed ehangach i gymdeithas. Cyflawnir hyn, yn rhannol, trwy archwilio trais corfforaethol yn fanwl.   

Llywodraethu a Diogelu’r Seiberofod

Datblygu sgiliau i ddadansoddi ac archwilio’n feirniadol gysyniadau a fframweithiau sy’n ymwneud â llywodraethu’r rhyngrwyd a’r seiberofod. At hynny, hwyluso gwybodaeth feistrolgar myfyrwyr am y materion cyfreithiol, cymdeithasol-ddiwylliannol a moesegol sy’n gysylltiedig â llywodraethu a diogelu’r seiberofod.

Trosedd a Chosb Gymharol

Nod y modiwl hwn yw archwilio’n feirniadol safbwyntiau cymharol ar drosedd a chosb yn lleol, yn genedlaethol, ac yn fyd-eang. Bydd y modiwl yn archwilio sut mae systemau cyfiawnder troseddol amrywiol yn ymateb i drosedd, ac yn archwilio dulliau o gosbi, ac ymatebion amgen.

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Sut byddwch yn dysgu

Addysgir ar ddydd Mercher rhwng 10yb a 4yp.

Addysgir pob modiwl dros gyfnod o 5 wythnos. Bydd myfyrwyr amser llawn yn mynychu bob wythnos yn ystod y tymor, a bydd myfyrwyr rhan-amser yn mynychu pan fydd eu modiwlau’n cael eu haddysgu.

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr troseddeg byd-enwog sy’n cynnal ymchwil yn weithredol, yn ogystal â chlywed gan ymarferwyr arbenigol gwadd.

Mae’r cwrs hwn yn asesu myfyrwyr mewn amrywiaeth o ffyrdd cynhwysol a dilys, yn berthnasol i weithio ym meysydd cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn cynnwys asesu ffurfiannol sy’n digwydd yn rhan o’r sesiynau a gyflwynir yn y dosbarth i fesur cynnydd dysgu a dealltwriaeth; ac asesu crynodol, sy’n digwydd ar ddiwedd pob modiwl.

Staff addysgu

  •  Ian McKim, Arweinydd y Cwrs
  •  Yr Athro Fiona Brookman
  •  Yr Athro Katy Holloway
  •  Yr Athro Ali Wardak
  •  Yr Athro Cyswllt Jenny Maher

Cyfleusterau

Mae ein Hystafell Efelychu Hydra yn caniatáu i fyfyrwyr brofi senarios a heriau go iawn.
Credwn y dylai myfyrwyr gael eu herio a bod yn barod i wynebu heriau pan fyddant ym myd gwaith.

Mae ein Hystafell Efelychu yn caniatáu i fyfyrwyr ymdrwytho mewn astudiaethau achos a
gwneud penderfyniadau sy’n gofyn am sail resymegol glir. Mae’n golygu bod ein myfyrwyr wir yn gallu dysgu o’u camgymeriadau heb effeithio ar eraill na cholli marciau. Rydym eisiau i’n myfyrwyr ddysgu a thrafod damcaniaeth allweddol, ond rydym hefyd eisiau iddynt allu defnyddio a chymhwyso hynny mewn ffordd ystyrlon sy’n eu helpu nhw a phobl eraill.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Ar ôl cwblhau’r radd Meistr hon yn llwyddiannus, fe allech ddilyn gyrfa yn y system
cyfiawnder troseddol, fel yr heddlu, y llysoedd, carchardai, gwasanaethau prawf a
gwasanaethau troseddau ieuenctid. Gall graddedigion symud ymlaen i wneud PhD neu radd ymchwil, hefyd.

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig ystod o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb a restrir yn
southwales.ac.uk/careers yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes mentrau pwysig eraill sy’n benodol i gwrs neu bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu manylion eraill yma. P’un a yw hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu
cystadleugarwch a’u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd manylion ychwanegol yn rhoi
hyder, anogaeth, a chymhelliad i ddarpar ymgeiswyr er mwyn iddynt ymrwymo i ymgeisio.

Gofynion mynediad

Gradd Anrhydedd 2: 2 o leiaf mewn gwyddor gymdeithasol, neu ddisgyblaeth gysylltiedig. 

Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad proffesiynol sefydledig yn cael eu hystyried yn unigol trwy'r Achredu Dysgu Blaenorol (APL) / Achredu Dysgu Profiadol Blaenorol (APEL) mecanwaith (bydd rheoliadau'r Brifysgol yn berthnasol). 

Mae'r cwrs yn croesawu ymgeiswyr rhyngwladol. Yn gyffredinol bydd angen iddynt fod wedi cyflawni gradd cyffedinol IELTS o 6.0 gydag isafswm o 5.5 ym mhob cydran neu gyfwerth. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,200

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 


Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.